Cofnodion

2022/08: Mynd i'r Afael รข Thlodi Plant ac Amddifadedd yng Nghasnewydd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mercher, 3ydd Awst, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/08 - Mynd i'r Afael â Thlodi Plant ac Amddifadedd yng Nghasnewydd

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C. Townsend:

 

Mae'r erthygl ddiweddar mewn papurau newydd sy'n ymwneud â lefel tlodi plant yng Nghasnewydd yn ailadrodd yr adroddiadau presennol bod gan y ddinas y lefel uchaf o amddifadedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y sylwadau a wnaed gan Aelodau Cabinet 'nôl yn 2020 o ran y cynllun datblygu lleol newydd. Er gwaethaf cyflwr yr economi genedlaethol, a allai Arweinydd y Cyngor amlinellu'r ffocws strategol y mae ei gweinyddiaeth yn ei gymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn yn benben?

 

Waeth p'un a yw Aelodau'n rhan o'r gr?p rheoli, neu'r wrthblaid. A allai'r Arweinydd hefyd ymrwymo i gynnal seminar flynyddol ar gyfer yr holl aelodau (ar ben ystyriaeth craffu), fel nad yw'r mater o fynd i’r afael ag amddifadedd yng Nghasnewydd yn cael ei golli ar y cyd gan y cyngor llawn?

 

Atebodd yr Arweinydd:

Diolch, Cynghorydd Townsend, am godi'r cwestiwn hwn. Rydym yn gwybod o ddata diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod Casnewydd ar y trywydd iawn i gael y boblogaeth ieuenctid sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae hyn, ynghyd â’r argyfwng costau byw presennol a chynyddol yn golygu bod Casnewydd yn wynebu heriau sylweddol o ran sut y gall gefnogi ei thrigolion, a sut y gellir dosbarthu gwasanaethau yn ddeallus i sicrhau eu bod yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf. Yn lleol rydym yn cefnogi dull strategol amlasiantaethol, sy'n cael ei arwain gan y gwasanaeth Atal a Chynhwysiant sydd newydd ei sefydlu. Byddwn ni'n sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i ymateb i argyfwng ond eto hefyd yn gwreiddio dull ymyrraeth gynnar effeithiol well. Gellir cyflawni gwella lles, gweithrediad a dyheadau teuluol gyda'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir, ac mae’r gwasanaeth yn dod â ffocws o'r newydd i gyflawni hyn. Bydd alinio llawer o'r gwasanaethau cymorth cyffredinol o dan un ymbarél yn rhoi mwy o gyfleoedd, lleihau dyblygu a sicrhau gwell cydgysylltu o ran yr holl wasanaethau sydd ar gael i drigolion yng Nghasnewydd.

Mae cefnogaeth ar gael ar ddyledion a gofal plant ac yn gynyddol o ran banciau bwyd wrth iddyn nhw gael trafferth ymdopi â'r costau byw cynyddol. Bydd gwerthuso arferion da, creu llwybrau di-dor a rhannu dysgu i gyd yn gamau blaenoriaeth i ddatblygu model ymyrraeth gynnar cadarn. Wrth i’r gwasanaeth ddod yn fwy sefydledig bydd strategaeth gyfathrebu glir yn cael ei datblygu i deuluoedd gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael a sut i'w gyrchu.

Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth, cyfeirio a dolenni i bobl gyfeirio eu hunain am gymorth. Ein cenhadaeth ni fydd adeiladu gwasanaeth cynhwysol sy'n cefnogi unigolion a theuluoedd i barhau'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain tra'n eu cefnogi drwy rai o'r heriau mwyaf difrifol sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd.