Cofnodion

2022/09: Gwella Cyfraddau Ailgylchu Casnewydd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 8fed Awst, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: 2022/09 - Gwella Cyfraddau Ailgylchu Casnewydd

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

A all yr Aelod Cabinet dros newid hinsawdd egluro sut mae hi'n bwriadu gwella cyfraddau ailgylchu ymhellach yn y ddinas?

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:

Gyda chyfradd ailgylchu o 67.1%, mae Cyngor Dinas Casnewydd ar flaen targedau ailgylchu statudol Cymru ar hyn o bryd a dyma'r ddinas ailgylchu orau yn y DU. Cymeradwyodd y Cyngor ei Strategaeth Gwastraff bresennol ym mis Chwefror 2020. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r weledigaeth a'r blaenoriaethau cyffredinol, ond hefyd yr amcanion a'r camau penodol sydd wedi eu cytuno i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd y targedau ailgylchu. Bydd y tîm gwastraff yn parhau i weithio'n galed i weithredu pob cam ac i fonitro cynnydd a pherfformiad yn unol â hynny. Rwy'n darparu dolen i'r Strategaeth Gwastraff isod: STRATEGAETH GWASTRAFF Casnewydd