Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau: 2022/10 - Cyflwyno Tâl Atal Tagfeydd yng Nghasnewydd Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:
Allwch chi ddweud wrtha'i a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno tâl atal tagfeydd yng Nghasnewydd?
Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:
Does gan y Cyngor ddim cynlluniau i gyflwyno tâl atal tagfeydd yng Nghasnewydd.
D.S. Cafodd y cwestiwn hwn ei ddyrannu i'r Cynghorydd Forsey, ond dim ond trwy gynllun lleol o dan y Ddeddf Trafnidiaeth y gellid gweithredu tâl atal tagfeydd, fyddai'n golygu bod angen caniatâd a Rheoliadau Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n fater trafnidiaeth sy'n dod o fewn cyfrifoldeb yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau, y Cynghorydd Lacey.
|