Cofnodion

2022/11: Cyflwyno Toll Traffordd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 8fed Awst, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau: 2022/11 - Cyflwyno Toll Traffordd

Cofnodion:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno toll ar draffordd yr M4. Allai'r Aelod Cabinet ddweud wrthyf a yw hi'n cefnogi'r polisi hwn a hefyd pa sylwadau mae hi wedi eu gwneud i Lywodraeth Cymru o ran hyn?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:

 

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori ar Gynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027. O fewn y ddogfen ymgynghori honno mae cyfeiriad at ddatblygu strategaeth ar gyfer codi tâl teg ar ddefnyddwyr ffordd.

 

Bydd y ddogfen yn cael ei hystyried yn ei chyfanrwydd, ac os ystyrir ei bod yn briodol, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Nid yw'r weinyddiaeth yn cefnogi gweithredu toll lleol ar yr M4.