Cofnodion

2022/12: Llety Dros Dro i Deuluoedd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 15fed Awst, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai: 2022/12 - Llety Dros Dro i Deuluoedd

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Howells:

 

Bydd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Rheoleiddio a Thai yn ymwybodol o'r achos diweddar, rwyf wedi ei gopïo i ohebiaeth yn ei gylch, mewn perthynas â theuluoedd sy'n cael eu rhoi mewn llety anaddas o dan ddyletswyddau digartrefedd yr awdurdod. Rwyf hefyd wedi dod ar draws sawl achos arall o amgylchiadau tebyg ac rwy'n clywed manylion llawer o bobl eraill ledled yr awdurdod. Efallai y bydd yr Aelod Cabinet hefyd yn ymwybodol o'r darllediadau newyddion diweddar ar ITV Cymru am faterion tai a digartrefedd mewn awdurdod cyfagos.

 

A fyddai’r Aelod Cabinet gystal ag ateb y cwestiynau canlynol;

 

1. Sawl teulu (cartrefi yn cynnwys plant dibynnol) sydd wedi eu gosod gan Gyngor Dinas Casnewydd ar hyn o bryd mewn llety gwely a brecwast/gwesty i gyflawni ein dyletswyddau dros dro a pharhaol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014?

2. Faint o'r teuluoedd hynny sydd wedi bod yno dros 6 wythnos?

3. Faint o'r lleoliadau hyn sydd y tu allan i’r ardal?

4. Am ba hyd ar gyfartaledd mae teuluoedd wedi bod mewn llety gwely a brecwast/gwesty dros y 12 mis diwethaf?

5. Beth yw cost wythnosol cyfartalog darparu'r llety yma i Gyngor Dinas Casnewydd?

6. Dan yr amgylchiadau hynny, pa drefniadau mae'r awdurdod yn eu gwneud i ddarparu cyfleusterau coginio a golchi?

7. Pa gynlluniau mae'r Aelod Cabinet wedi eu rhoi yn eu lle i leihau'r niferoedd mewn llety anaddas yn cynnwys cynlluniau i gynyddu darpariaeth llety addas dros dro i deuluoedd?

8. Gan fod y sefyllfa ond yn debygol o waethygu gyda'r argyfwng costau byw, cynnydd mewn rhenti a landlordiaid sy'n ymadael â'r farchnad oherwydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yr Aelod Cabinet yn ymrwymo i ymgynnull gr?p Gorchwyl a Gorffen (yn cynnwys swyddogion ac aelodau allweddol) i edrych ar y mater hwn yn fanwl a gwneud argymhellion i'r cabinet a'r Cyngor?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Clarke:

 

Diolch am eich cwestiwn manwl iawn.

 

Mae'r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â chwestiynau 1-6 yn ymwneud â materion gweithredol a byddant yn cael eu chyfeirio at y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i ymateb. O ran cwestiynau 7 ac 8, byddwn yn ateb fel a ganlyn:

 

Pa gynlluniau mae'r Aelod Cabinet wedi eu rhoi yn eu lle i leihau'r niferoedd mewn llety anaddas yn cynnwys cynlluniau i gynyddu darpariaeth llety addas dros dro i deuluoedd?  Bydd aelodau etholedig yn deall bod galw mawr am dai cymdeithasol ac mae'r Tîm Tai yn gweithio'n galed iawn i gefnogi'r rhai sydd angen llety dros dro a'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen neu lety arall. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn barhaus i nodi cyllid ar gyfer llety newydd ac rydym wedi llwyddo i weinyddu dros £16m o Grantiau Tai Cymdeithasol yn y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn bwriadu dosbarthu dros £18m yn y flwyddyn ariannol bresennol i gefnogi'r gwaith o gyflawni cartrefi fforddiadwy newydd gyda'n partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

Mae ein Swyddogion Datrysiadau Tai hefyd yn cefnogi preswylwyr gyda chlirio dyledion yn ogystal â chynnig cefnogaeth i gael gafael  ...  view the full Cofnodion text for item 1.