Cofnodion

2022/13: Pryderon Trigolion Tŷ-du am y Gamlas a Bywyd Gwyllt Lleol, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 15fed Awst, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: 2022/13 - Pryderon Trigolion T?-du am y Gamlas a Bywyd Gwyllt Lleol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Reeks:

 

Mae teimlad cryf ymhlith trigolion T?-du ei bod yn ymddangos bod  Cyngor Dinas Casnewydd yn ddi-hid gl?n â chyflwr Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, sy’n prysur waethygu.  Mae'r isadeiledd mewn cyflwr gwael, mae’r ychydig dd?r sy’n  mynd i mewn i'r gamlas yn draenio i ffwrdd, mae llystyfiant yn gordyfu ac yn meddiannu llwybr y gamlas ac mae'r bywyd gwyllt yn cael ei orfodi o'i gynefin naturiol.

 

A fyddai'r Aelod Cabinet yn cytuno â fi fod y dirywiad yma'n niweidiol i'r amgylchedd lleol, yn achosi trallod i fywyd gwyllt ac yn difetha'r ardal leol ac atyniad twristiaeth boblogaidd Canolfan Ymwelwyr y Pedwar Loc ar Ddeg, a bod gennym fel cyngor gyfrifoldeb i warchod yr amgylchedd a sicrhau ei gynaliadwyedd a’i drigolion? A all yr Aelod Cabinet gynghori pa gamau y gallant eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon ar frys ac adfer y gamlas a'r

ardal i amgylchedd naturiol ffyniannus eto?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:

 

Mae llawer o sylw wedi’i roi i’r ffaith bod lefelau d?r isel yng Nghamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yng Nghasnewydd yn cael eu hachosi gan faterion y tu allan i ffiniau'r ddinas.  Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner fel Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorau cyfagos a’r Ymddiriedolaeth Camlesi i reoli lefelau’r d?r a llif y d?r drwy'r system.

 

Fodd bynnag, rydym wedi ein cyfyngu gan gyfaint y d?r sydd ar gael o rannau uwch y system sy'n profi problemau. Cafodd y sianel ei chlirio ychydig yn y misoedd diwethaf, ond yn anffodus nid oedd yn ddigon i wella lefelau oherwydd diffyg glaw. Rydym yn ymwybodol bod lefelau d?r yn isel ond ar hyn o bryd nid oes ffynonellau d?r i ddargyfeirio i'r ardal hon. Yn ffodus, symudwyd y rhan fwyaf o'r pysgod o'r pwll hwn i rannau eraill lle mae'r lefelau'n ddigonol, felly ni ddylai fod effaith fawr ar y rhywogaethau dyfrol, ond rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn poeni am yr adar d?r ac adar eraill a byddwn yn monitro'r sefyllfa.

 

Mae'r Cyngor yn ceisio arian i ddad-siltio ac ail-leinio’r sianel ac i gwblhau gwaith arall. Mae tua saith milltir o gamlas o fewn dinas Casnewydd ac mae’n rheoli'r ased gymunedol hon gydag adnoddau cyfyngedig.  Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio adnoddau allanol i fynd i'r afael â materion fel cynnal a chadw'r arwyneb a rheoli'r tir, drwy greu llwybrau teithio llesol ar hyd y llwybrau tynnu. Mae gwaith amhrisiadwy hefyd yn cael ei wneud gan grwpiau gwirfoddol yr Ymddiriedolaeth Camlesi a'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.

 

Rydym yn deall rhwystredigaethau pobl leol yn llwyr a byddwn yn parhau i chwilio am arian i wella'r gamlas ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned am unrhyw waith a allai gael ei wneud i helpu i leddfu'r sefyllfa.