Cofnodion

2022/15: Effaith y Costau Ynni Cynyddol ar Leoliadau Addysgol, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 12fed Medi, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd/ Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar: 2022/15 Effaith y Costau Ynni Cynyddol ar Leoliadau Addysgol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Lauren James: 

 

Mae'r argyfwng costau byw yn hawlio'r penawdau dyddiol, ac fel sawl cynghorydd arall rwy’n clywed pryderon gan drigolion yn pendroni sut y byddant yn talu eu biliau y gaeaf hwn. Fodd bynnag, nid yw'r capiau prisiau ynni yn effeithio ar ein preswylwyr gartref yn unig. 

A all yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar gadarnhau asesiad y cyngor o effaith costau ynni cynyddol ar ein hysgolion, ein meithrinfeydd a lleoliadau addysgol eraill, a'r hyn y mae'r cyngor wedi'i wneud ac yn bwriadu ei wneud i gefnogi'r lleoliadau hynny?

 

 Ymatebodd y Cynghorydd Deb Davies:

 

Mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn un o'r consortia prynu sector cyhoeddus mwyaf ar gyfer ei anghenion ynni ac yn prynu hyn ymlaen llaw bob blwyddyn.  Hyd yn hyn, mae llawer iawn o'n gofynion ynni ar gyfer 2023/24 wedi'i brynu ac mae'n dangos cynnydd sylweddol iawn o'r prisiau cyfredol hyd yma; nad yw’n annisgwyl. Rydym yn asesu hyn fel rhan o ddiweddariad cyffredinol i CATC y Cyngor a hyd yma, tra bod ein hasesiad yn nodi y bydd y cynnydd yn sylweddol, mae'r sefyllfa'n anwadal ac yn benodol bydd angen i ni ystyried unrhyw fentrau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog newydd Prydain i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn a lleddfu'r ansicrwydd a deimlir ledled y wlad o ganlyniad i ddiffyg gweithredu'r llywodraeth genedlaethol flaenorol.  Bydd hyn yn rhan o adolygiad ehangach o'r CATC a bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet maes o law.

 

Yn ogystal â'n cynllunio ariannol, mae ein Timau Lleihau Carbon ac Ysgolion yr 21ain Ganrif yn achub ar y cyfle i sicrhau bod adeiladau ein hysgolion yn  fwy ynni-effeithlon drwy gyfres o brosiectau partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

 

Bydd adeiladau ysgol newydd sy’n cael eu hariannu gan y cyngor yn Garbon Sero Net. Bydd hyn yn amlwg yn yr ehangiad £30 miliwn ar Ysgol Basaleg sydd i fod i gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen i osod pympiau gwres carbon isel sy'n disodli boeleri nwy yn ogystal â goleuadau LED amgen a phaneli solar yn ein hystâd ysgolion. Bydd y gwaith hwn yn lleihau gwariant ar ynni ac yn cefnogi ein cynllun Carbon Sero Net a ddylai gael ei wireddu erbyn 2030.