Cofnodion

2022/16: Cefnogi Busnesau Bach ac Annibynnol, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 26ain Medi, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/16 - Cefnogi Busnesau Bach ac Annibynnol

Cofnodion:

 

Gofynnodd y Cynghorydd James:

 

Yn ystod y dyddiau diwethaf mae tri o fusnesau annibynnol Casnewydd wedi cau, gydag un perc ennog busnes yn cael ei ddyfynnu yn Argus De Cymru fel a ganlyn: 

"Roedd y costau cynyddol yn ffactor enfawr o'n penderfyniad i gau... Roedd prisiau sylfaenol wedi mwy na dyblu ac i fusnesau annibynnol, ychydig iawn o help sydd yna gan Gyngor Dinas Casnewydd."  (link)

A all yr Arweinydd gadarnhau asesiad y cyngor o effaith costau ynni cynyddol ar ein busnesau bach ac annibynnol, a beth mae'r cyngor wedi ei wneud ac yn bwriadu ei wneud i'w cefnogi? 

 

 Atebodd yr Arweinydd:

 

Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd ac mae lefel yr ymyrraeth ariannol sydd ei angen i gefnogi ein holl drigolion, grwpiau cymunedol a busnesau yn rhywbeth y tu hwnt i allu Cyngor lleol. Mae'r mater cenedlaethol hwn yn cael ei drafod ar lefel llywodraeth ganolog ac rydym yn aros am gyhoeddiadau am hyn gan y Prif Weinidog newydd. 

 

Fodd bynnag, o ran sut rydym yn cefnogi busnesau lleol, efallai eich bod yn ymwybodol bod gennym gronfa Datblygu Busnes Dinas Casnewydd ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n ehangu ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhyddhad ardrethi busnes o 50% ar gyfer busnesau cymwys ar gyfer 2022/23. 

Ym mis Mawrth eleni hefyd, cyhoeddodd y Cabinet ein cynllun rhyddhad ardrethi ein hunain sy'n rhoi gostyngiad pellach o 25%, sy'n golygu yn y rhan fwyaf o achosion bydd busnesau cymwys ond yn talu 25% o'u bil ardrethi cyfan ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn arbediad ariannol sylweddol a’r gobaith yw y bydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd i orbwyso costau gweithredu eraill.