Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth 2022/18 - Buddsoddiad Cyfalaf mewn Parciau Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Howells:
Yn y gyllideb eleni, amlinellwyd £2.5 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn ein parciau. Hyd yn hyn, faint sydd wedi’i ymroi ac ym mhle?
Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:
Mae'r buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn cwmpasu ardaloedd chwarae a mynwentydd. Ar gyfer mynwentydd, bydd buddsoddiad wedi’i wneud i sicrhau bod ein safleoedd yn hygyrch ac yn ddiogel i ymwelwyr, er bod rhywfaint o waith atgyweirio eisoes wedi dechrau mae’r rhan fwyaf yn y broses o gael ei dendro ar hyn o bryd.
Ar gyfer meysydd chwarae, bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i glirio'r ôl-groniad cynnal a chadw presennol dros gyfnod o 2 flynedd, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio. Caiff gwaith ei flaenoriaethu ar sail canlyniadau'r arolygiadau.
Mae'r Arweinydd a finnau’n awyddus i sicrhau bod y gymuned leol yn ymwneud ag unrhyw waith amnewid sy'n digwydd, ac o'r herwydd mae swyddog ymgysylltu yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd i sicrhau bod plant lleol yn cymryd rhan go iawn.
|