Cofnodion

2022/19: Mynediad Preswylwyr i Drafnidiaeth Gyhoeddus, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 3ydd Hydref, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau: 2022/19 - Mynediad Preswylwyr i Drafnidiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Howells:

 

Er gwaethaf y gwelliannau diweddar i wasanaethau bws, nid oes gwasanaethau bws yn gwasanaethu Pentref Lysaght a'r ardaloedd diwydiannol cyfagos ar ddydd Sul neu ar ôl 7pm gyda'r nos.  A all yr Aelod Cabinet gadarnhau y bydd yn adolygu'r ddarpariaeth hon gyda Bws Casnewydd ac yn ceisio sicrhau bod gan bob preswylydd fynediad teg i drafnidiaeth gyhoeddus?

 

 Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:

 

Un masnachol yw'r rhwydwaith bysus yng Nghasnewydd yn bennaf, a phrin yw'r cyfle i'r Cyngor gyfarwyddo gwasanaethau.  Bu rhai gwelliannau i wasanaethau bws yn ddiweddar gan Fws Casnewydd ac mae'r rhain wedi cael eu priodoli i wasanaethu'r ardaloedd sydd â’r lefelau nawdd uchaf presennol ac o'r data fflecsi a oedd ganddynt a oedd yn dangos yr ardaloedd lle'r oedd y bysus yn cael eu defnyddio'n bennaf ar nosweithiau a phenwythnosau.

 

Hefyd mae nifer cyfyngedig o yrwyr bysus ar hyn o bryd i weithredu darpariaeth gwasanaethau nos a dydd Sul. Rydym yn gweithio'n agos gyda Bws Casnewydd wrth ystyried gwasanaethau a byddwn yn adolygu'r holl wasanaethau gyda Bws Casnewydd dros y misoedd nesaf i weld pa newidiadau y gallwn eu gwneud i wasanaethu ardaloedd pellach nad ydynt yn gallu eu gwasanaethu gyda'r nos a dydd Sul ar hyn o bryd. 

 

Nid oes gennym sicrwydd o ba gyllid fydd ar gael i'r awdurdod wedi diwedd y flwyddyn ariannol hon ar gyfer ariannu gwasanaethau bysus lleol ond byddwn yn parhau i weithio gyda Bws Casnewydd i wella gwasanaethau bysus ym mhob ardal o fewn y pot arian a fydd ar gael i ni.