Cofnodion

2022/20: Ail-leoli Llong Casnewydd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 28ain Tachwedd, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/20 - Ail-leoli Llong Casnewydd

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M. Evans

 

Ychydig dros 20 mlynedd sydd ers i Long Casnewydd gael ei darganfod. Allwch chi ddweud wrthym pa mor ddatblygedig yw’r cynlluniau ar gyfer ei hail-leoli, faint o gyllid cyfalaf sydd wedi'i roi o'r neilltu gan y Cyngor i ariannu hyn ac a yw'n flaenoriaeth wleidyddol?

 

Atebodd yr Arweinydd

 

Rwy'n falch o gadarnhau bod y swp terfynol o brennau’n cael eu trin a'u sych-rewi ac rydym yn gobeithio y byddant yn cael eu dychwelyd i ganolfan y llong yn gynnar yn 2023. Bryd hynny gallwn ddechrau gweithio gyda Chyfeillion Llong Casnewydd ar y gwaith dichonoldeb sydd ei angen i ystyried sut a ble y gellid ail-adeiladu’r llong mewn cartref parhaol.

 

Roedd hyn yn ymrwymiad ym Maniffesto'r Blaid Lafur ac mae'n parhau'n addewid. Ni fyddai'n briodol dyrannu cyllid cyfalaf ar hyn o bryd cyn gwneud unrhyw waith dichonoldeb. Yn y cyfamser rydym yn parhau i ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth â Chyfeillion Llong Casnewydd i wella'r profiad i ymwelwyr yng nghanolfan y llong trwy dechnoleg ddigidol gan gynnwys Realiti Rhithwir, cynyddu ein gwaith gyda grwpiau cymunedol a phobl ifanc a chasglu data sylfaenol a fydd yn hanfodol ar gyfer unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol.