Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/21 - Hybiau Cynnes Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Sterry:
Fel y byddwch yn ymwybodol bydd llawer o sefydliadau yn agor hybiau cynnes yn ein dinas, a fydd unrhyw gyfleoedd ariannu ychwanegol gan CDC i gefnogi'r hybiau cynnes hyn?
Rwy'n disgwyl bod llawer o Gynghorwyr eisoes wedi derbyn yr un cwestiwn.
Rydym am ddarganfod a fydd cyllid yn cael ei glustnodi i gefnogi'r grwpiau cymunedol a'r eglwysi sy'n cynnig eu hadeiladau ar gyfer y cynllun hwn. Mae'n hynod bwysig bod ein cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng Costau Byw erchyll hwn, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed a'r henoed yn cael eu cefnogi ac ein bod yn gofalu amdanynt.
Atebodd yr Arweinydd:
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i Gyngor Dinas Casnewydd i gefnogi ein gwaith Mannau Cynnes. Bydd CDC yn defnyddio'r cyllid hwn i gefnogi nifer o fannau cynnes ar draws y ddinas; mae rhai'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan y cyngor a rhai gan y sector cymunedol a ffydd.
Mae'r Cyngor wedi gofyn i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent gefnogi'r Cyngor i ddyrannu'r cyllid hwn i gefnogi mannau cymunedol a ffydd. Bydd grantiau o hyd at £2k ar gael i sefydliadau all ddangos cysylltiadau cymunedol rhagorol ac sydd eisoes yn gweithredu yn y swqyddogaeth hon ar gyfer gwaith tlodi bwyd y cyngor.
Mae disgwyl y bydd y grantiau hyn yn cael eu targedu mewn ardaloedd lle nad oes digon o ddarpariaeth ar hyn o bryd, yn ogystal â chefnogi mannau cynnes sefydledig. Bydd y cyngor hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r mannau cynnes sydd ar gael i ddinasyddion ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd.
Bydd y cynllun grant yn cael ei lansio o fewn y pythefnos nesaf, ond bydd rhestr o'r holl fannau cynnes gweithredol sydd ar waith ar hyn o bryd yn cael ei hysbysebu yn fuan.
|