Cofnodion

2023/26: Lleihau Cyflymder/Goleuo, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 30ain Tachwedd, 2023

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Seilwaith ac Asedau: 2023/26 - Goryrru/Goleuadau

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Mae Cynulliad Cymru wedi ymhyfrydu'n fawr wrth gyfyngu ar hawliau'r modurwyr er mwyn hyrwyddo eu hagenda teithio llesol.

 

Gyda hyn mewn golwg, gallwch ddweud wrthyf sut mae diffodd goleuadau stryd yn y nos yn gwella'r profiad o gerdded, teithio ar olwynion a beicio gan fod hyn yn amlwg yn gwneud ein strydoedd yn llai diogel i wneud hyn.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:

 

Gallafgadarnhau bod y cynllun goleuadau stryd am ran o’r nos wedi cael ei ystyried fel rhan o broses sefydlu cyllideb y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 23/24 ac ymgynghorwyd arno drwy ystod o grwpiau rhanddeiliaid a fformatau, gan gynnwys trafod â Heddlu Gwent.

 

Mae'rcynllun ar gyfer rhan o’r nos yn caniatáu i'r briffordd gael ei goleuo pan gaiff ei defnyddio fwyaf, rhwng 6am a 12 canol nos, gyda goleuadau ond yn cael eu diffodd pan fydd llai o ddefnydd. Bydd rhai ardaloedd o'r rhwydwaith yn parhau i gael eu goleuo am resymau diogelwch ar y priffyrdd.

 

Bydd y cynllun fel y'i gweithredir yn sicrhau gostyngiad yn y defnydd o ynni a gostyngiad cysylltiedig mewn allyriadau carbon.