Cofnodion

2023/28: Taith Brodyr, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 30ain Tachwedd, 2023

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2023/27 - Friars Walk

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Evans:

 

Rwy'ndeall bod perchnogion newydd ar Friars Walk ac mae'r Cyngor wedi gwrthod rhoi manylion amdanynt. A allwch chi ddweud wrthyf pam ei bod yn ymddangos bod cymaint o gyfrinachedd yn ei gylch? A ydych yn credu bod trethdalwyr y Cyngor yn haeddu tryloywder yn y mater hwn, ac a wnewch chi roi manylion y perchnogion nawr?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mudd:

 

Nidoes cyfrinachedd mewn perthynas â pherchnogaeth Friars Walk, mae'r manylion hyn ar gael yn gyhoeddus a gellir eu cael o'r Gofrestrfa Tir.  Yn ogystal, mae nifer o ddatganiadau i'r wasg wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â'r mater hwn, ac mae'r diweddaraf wedi'i ryddhau ar 22 Medi 2023.

 

Ni fu unrhyw newid ym mherchnogaeth Friars Walk ers 2019 ac mae'r sefyllfa yn parhau fel a ganlyn:

Cyngor Dinas Casnewydd sy’n berchen ar y Rhydd-ddaliad

Mae'rBrif-les yn eiddo i Friars Walk LH Limited

Mae'r Is-les yn cael ei chadw ar y cyd gan ANW TDS (Enwebai 1) Limited ac ANW TDS (Enwebai 2) Limited ac mae wedi bod ers iddi gael ei haseinio ym mis Ebrill 2019.