Gofynnodd y Cynghorydd Jones:
Y llynedd, cyflwynodd y
cyngor blaen-gynlluniau i
leihau'r terfyn cyflymder
ar yr A468 o'i ffin â
Chaerffili.
Mae'r terfyn cyflymder
presennol yn parhau i fod yn 60mya mewn
mannau a'r
bwriad oedd
lleihau'r terfyn cyflymder
i uchafswm
o 50 mya o ffin Caerffili i
Rhiwderyn.
Aeth y cynlluniau allan
i ymgynghori arnynt
gyda’r dyddiad cau o 2
Tachwedd 2022. Byddai gennyf ddiddordeb
mewn gweld
yr adroddiad a pha gamau y
mae'r aelod
cabinet wedi'u cwblhau ers
hynny.
Ymatebodd y Cynghorydd Lacey:
Yn dilyn y broses ymgynghori statudol
ar gyfer
cyflwyno'r terfyn cyflymder 50mya
hwn, cawsom
26 gwrthwynebiad dilys yr oedd
angen eu
hystyried gan swyddogion.
Ar 15 Mehefin 2023, penderfynodd yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ac
Asedau, ar
ôl ystyried pob
gwrthwynebiad, fwrw ymlaen â
gwneud Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig (GRhT) yn unol â'r
ymgynghoriad gwreiddiol. Rhannwyd yr
adroddiad hwn gyda'r aelodau ar y
pryd. Ar
ôl cwblhau'r broses gyfreithiol, gan
gynnwys Rhybudd Creu, rhagwelir
y bydd y Cyngor mewn
sefyllfa i
gyflwyno'r newidiadau terfyn
cyflymder ganol mis Tachwedd
2023.
|