Cofnodion

2024/05: City Centre Grant Funding, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Gwener, 26ain Ebrill, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i Arweinydd y Cyngor: 2024/05 - Cyllid Grant Canol y Ddinas

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Clywaf fod Bistro Pierre yn dychwelyd i ganol y ddinas sydd wrth gwrs yn newyddion da.

 

Fodd bynnag, gan fod y bwyty hwn wedi gadael canol y ddinas beth amser yn ôl, tybed a oes unrhyw grantiau neu gyllid wedi cael eu cynnig i'r gadwyn fwytai naill ai gan y cyngor neu AGB Casnewydd. A allwch gadarnhau a yw cyllid neu grant wedi'i gynnig ac os felly, faint ac a oes unrhyw fusnesau eraill wedi cael cynnig y math hwn o gymorth i ddychwelyd i ganol y ddinas neu i'w hatal rhag gadael?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mudd:

 

Gallaf gadarnhau nad yw Cyngor y Ddinas wedi cynnig unrhyw arian grant i Bistro Pierre i’w helpu i ailagor eu busnes.

 

Mae gan bob busnes canol dinas (presennol a newydd) hawl i wneud cais am gyllid, sydd wedi'i hysbysebu'n dda. Mae cyngor a chymorth busnes ar gael gan nifer o sefydliadau, nid y Cyngor yn unig, ond rydym wedi ymgysylltu â ICE Cymru i wella'r cyngor a'r cymorth y gallwn eu darparu i fusnesau.