Cofnodion

2024/06: Additional support in hospitality sector, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Gwener, 26ain Ebrill, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i Arweinydd y Cyngor: 2024/06 - Cymorth Ychwanegol yn y sector lletygarwch

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Yng nghyfarfod diwethaf y cyngor fe gyhoeddodd y cyngor y byddai'n ymestyn y rhyddhad ardrethi i fusnesau lletygarwch yng nghanol y ddinas. Byddwch yn cofio fy mod yn cefnogi'r fenter hon ond dywedais y byddwn yn monitro llwyddiant y prosiect. Yn ystod y mis diwethaf mae tri busnes lletygarwch wedi cau yng nghanol y ddinas gan ddweud nad yw canol y ddinas yn hyfyw.

 

Yn amlwg, nid yw'r cymorth a gynigir gan y cyngor yn ddigon ac mae angen gwneud mwy i helpu busnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi er mwyn cadw canol y ddinas yn fywiog a llewyrchus. Gyda hyn mewn golwg, a all yr aelod cabinet ddweud wrthyf beth ellir ei wneud yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi i helpu'r sector lletygarwch yng nghanol y ddinas?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mudd:

 

Mae gan bob busnes canol dinas hawl i wneud cais am gyllid, sydd wedi'i hysbysebu'n dda.  Ar hyn o bryd mae'r rhyddhad ardrethi busnes ar gael ar gyfer pob busnes lletygarwch, manwerthu a hamdden cymwys a chymhwyswyd dros £540,000 o ryddhad ardrethi yn 2022/23, a £637,000 yn 2023/24. Mae hyn yn ychwanegol at gymorth ariannol i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu trwy Gronfa Fusnes Dinas Casnewydd.  Mae cyllid ychwanegol ar gael i fusnesau hyfyw drwy'r Grant Twf Carlam, ond yn y pen draw mae hyfywedd busnes yn dibynnu'n sylfaenol ar y cynnig busnes a nifer y bobl sy'n ei ddefnyddio.   Mae cyngor a chymorth busnes ar gael gan nifer o sefydliadau, nid y Cyngor yn unig, ond rydym wedi ymgysylltu â ICE Cymru i wella'r cyngor a'r cymorth y gallwn eu darparu i fusnesau.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal ac yn cefnogi nifer cynyddol o ddigwyddiadau llwyddiannus yng nghanol y ddinas, a'r diweddaraf yw dathliad Blwyddyn Newydd y Lleuad a welodd niferoedd enfawr o bobl yn llenwi’r strydoedd ac yn defnyddio busnesau lleol.  Marathon Casnewydd Cymru ddiwedd y mis yw'r digwyddiad mawr nesaf i gael ei gynnal yng nghanol y ddinas ac rydym hefyd wedi cyhoeddi y bydd yr ?yl Fwyd yn parhau fel digwyddiad 3 diwrnod eleni.  Mae'r digwyddiad hwn yn caniatáu i'n busnesau lletygarwch arddangos a hyrwyddo eu cynnig.  Rydym hefyd wedi cyflwyno tudalen we newydd Be Sy Mlaen sydd wedi cael croeso cadarnhaol iawn gyda llawer o fusnesau a grwpiau'n hysbysebu ac yn hyrwyddo eu digwyddiadau.  Ers mis Tachwedd mae dros 4000 o ymweliadau wedi bod â’r dudalen we.

 

Fel y gwyddoch, mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i annog defnydd anfanwerthol ychwanegol i ganol y ddinas er mwyn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr a chefnogi ein holl fusnesau. Er enghraifft, bydd y ganolfan hamdden a lles newydd arfaethedig a champws Canol Dinas Coleg Gwent yn cynyddu'n sylweddol nifer yr ymwelwyr hamdden a dysgu ac yn arwain at fwy o wariant lleol.