Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth: 2024/10 - Cyllid i Wastesavers Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:
Mae'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd bellach wedi dod i rym. A all yr aelod cabinet ddweud wrthyf faint o gyllid a chymorth ychwanegol a roddwyd i Wastesavers i:
A) gasglu gwastraff bwyd o fwytai a gweithleoedd. B) casglu'r ailgylchu ychwanegol o weithleoedd.
Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:
Nid yw awdurdodau lleol yn talu am gost gwastraff a gesglir o eiddo annomestig. Mae busnesau unigol yn talu am wasanaethau gwastraff gan gynnwys bwyd ac ailgylchu. |