Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith: 2024/13 - Hawliadau Iawndal Priffyrdd Cofnodion:
Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:
A all yr Aelod Cabinet ddarparu'r wybodaeth ganlynol.
Nifer yr hawliadau iawndal a dderbyniwyd gan y cyngor am ddiffygion priffyrdd. Dylai'r rhain gynnwys anafiadau o faglu a chwympo a difrod i gerbydau yn y blynyddoedd canlynol. 2020 2021 2022 2023 2024 hyd yn hyn
Ymatebodd y Cynghorydd R Howells:
2020 Derbyniwyd 26 o hawliadau - 4 hawliad wedi’u setlo ar gost o £3,127.29
2021 Derbyniwyd 62 o hawliadau - 16 o hawliadau wedi’u setlo ar gost o £5,255.56
2022 Derbyniwyd 83 o hawliadau - 17 o hawliadau wedi’u setlo ar gost o £9,296.95
2023 Derbyniwyd 111 o hawliadau - 37 o hawliadau wedi’u setlo ar gost o £11,765.18
2024 Derbyniwyd 24 o hawliadau hyd yn hyn - 3 hawliad wedi’u setlo ar gost o £1,672.32 |