Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i Arweinydd y Cyngor: 2024/18 - Atodol: Strategaeth Toiledau Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Reeks:
Fel rhan o'm cwestiwn llafar i'r Cyngor ar 23 Ebrill, nodais fod Strategaeth Toiledau Cyngor Dinas Casnewydd wedi dyddio ac nad oedd wedi cael ei hadolygu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a gofynnais pam felly.
Ni chafodd y cwestiwn hwn ei ateb yn ystod eich ymateb, felly a allwch egluro pam mae'r Strategaeth Toiledau wedi dyddio ar y wefan a pham nad yw'n ymddangos ei bod wedi'i hadolygu yn unol ag amserlenni Llywodraeth Cymru?
Rhoddodd y Cynghorydd Batrouni ymateb:
Mae'r strategaeth toiledau wedi cael ei hadolygu a'i diweddaru a rhagwelir y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin. |