Cofnodion

2024/19: Public Waste Bins, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Gwener, 31ain Mai, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: 2024/19 - Biniau Gwastraff Cyhoeddus

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Reeks:

 

Rwy'n gweld ac yn derbyn adroddiadau gan drigolion am nifer cynyddol o finiau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i adael bagiau o sbwriel cartref, a all yr Aelod Cabinet gadarnhau'r canlynol os gwelwch yn dda:

 

1) nad oes unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu defnyddio i gael gwared ar y bagiau sbwriel hyn,

2) pa gamau sy'n cael eu cymryd i olrhain y deiliaid tai sy'n gyfrifol am ollwng y sbwriel, a

3) pa gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r broses hon?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:

 

Gallaf gadarnhau na fu cynnydd mewn adnoddau sy'n gysylltiedig â gwagio biniau sbwriel, ac mae'r rhain yn parhau i gael eu gwagio gan griwiau glanhau presennol fel rhan o'u hamserlenni.

 

Mae gadael gwastraff cartref ar y stryd, gan gynnwys camddefnyddio biniau sbwriel, yn golygu tipio anghyfreithlon. Lle canfyddir unrhyw ddefnydd amhriodol o finiau sbwriel, anfonir gwybodaeth at y tîm gorfodi gwastraff.  Os oes digon o dystiolaeth, cymerir camau gorfodi.

 

Mae data'n dangos gostyngiad o 9% yn nifer y gwastraff bagiau du a gasglwyd ar draws Casnewydd yn ystod y cyfnod Mawrth-Ebrill 2024 o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.  Nid oes costau ychwanegol o fewn cyllidebau gwastraff.