Cofnodion

2024/21: Active Travel Grant, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Gwener, 31ain Mai, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Asedau a Seilwaith: 2024/21 - Grant Teithio Llesol

Cofnodion:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Yn eu hadroddiad blynyddol dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi rhoi 48 miliwn mewn grantiau teithio llesol i awdurdodau lleol. A all yr aelod cabinet gadarnhau a yw Casnewydd wedi derbyn grant?

 

           Os felly, faint?

           Ar beth y mae’r arian wedi cael ei wario?

           A yw'r holl arian a dderbyniwyd wedi cael ei wario?

 

 

Ymatebodd y Cynghorydd R Howells:

 

DerbynioddCyngor Dinas Casnewydd £2,844,379 o gyllid Teithio Llesol am y cyfnod. Dyrannwyd hyn ar draws y cynlluniau canlynol ac mae wedi'i wario'n llawn:

·           Pont Droed Devon Place £2,289,903

·           Sorrel Drive £296,644

·           Pont Wastad £100,533

·           Pedwar Loc ar Ddeg £16,905

·           Ysgol Basaleg £41,301

·           Tyddewi – Parc Tredegar £29,825

·           Cyswllt Camlas Betws £14,784

·           Bryngaer Croes Trelech a Chysylltiadau’r Gorllewin £4,444

·           Gwella Llwybrau Presennol a Gwaith Mân - £50,040

·           Newid Ymddygiad (Burns) - £296,029