Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Gyfathrebu a Diwylliant: 2024/23 - Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Reeks:
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr newydd ar gyfer y Bont Gludo wedi cael ei hoedi ers y llynedd ac nid yw ar agor o hyd; a all yr Aelod Cabinet gadarnhau pryd y disgwylir i'r ganolfan agor, os gwelwch yn dda, a hefyd na fydd y cyngor yn atebol am unrhyw gostau pellach a allai fod wedi codi oherwydd yr oedi wrth orffen y gwaith?
Ymatebodd y Cynghorydd Stowell-Corten gan ddweud:
Gellir gweld cynnydd yn y gwaith o ddarparu Canolfan Ymwelwyr newydd ac mae'r adeilad ei hun bron â chael ei gwblhau. Roedd yn wych gweld y cysylltiad rhwng y bont droed a'r ganolfan ymwelwyr yn cael ei osod ychydig wythnosau yn ôl. Gwaith tirlunio allanol sydd nesaf i'w gwblhau.
Mae swyddogion wedi dweud nad oes disgwyl costau ychwanegol i'r ganolfan ymwelwyr.
Edrychwn ymlaen at rannu'r dyddiad agor ar gyfer y ganolfan ymwelwyr ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
|