Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: 2024/24 - Dim Torri ym Mai Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Routley:
Bob blwyddyn, mae Cyngor y Ddinas yn gweithredu polisi o'r enw Dim Torri ym Mai, sydd bron yn atal pob gweithgaredd torri gwair am y mis cyfan. Yma yn Ward Llangadwaladr Trefesgob a Langstone, er y gall y fenter hon ymddangos yn glodwiw i ddechrau, mae'r realiti yn cyflwyno peryglon sylweddol. Yn aml mae gordyfiant ar lwybrau troed, gan greu rhwystrau sylweddol i gerddwyr abl, ac achosi heriau difrifol i unigolion sy'n defnyddio cadeiriau olwyn neu gymhorthion cerdded.
Yn ogystal, mae glaswellt sydd wedi gordyfu ar Gylchfan Coldra, ac ardaloedd eraill o fewn seilwaith priffyrdd ein ward yn cynyddu'r risg o ddamweiniau'n sylweddol. Mae'r polisi hwn yn peryglu diogelwch cerddwyr, beicwyr a gyrwyr fel ei gilydd. Mae'r fenter hon yn gofyn am ddull mwy cynnil i sicrhau y gellir symud yn ddiogel ar draws y ward.
A all yr aelod cabinet perthnasol ymgysylltu â ni i addasu'r polisi? Drwy wneud hynny, gallwn gefnogi buddion ecolegol heb gyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd.
Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:
O dan Ddeddf yr Amgylchedd 2016, mae gennym ddyletswydd i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'r ymgyrch flynyddol yn helpu i sicrhau’r glaswelltir mwyaf at ddibenion byd natur.
Mae'r ymgyrch yn cynnwys torri gwair ym mis Mawrth ac Ebrill bob blwyddyn i gychwyn, gyda ffocws penodol ar ymylon y briffordd yn ystod mis Ebrill. Ym mis Mai ni fydd y Cyngor ond yn torri gwair mewn ardaloedd lle mae diogelwch yn hanfodol a meysydd chwaraeon, sy'n sicrhau gwelededd defnyddwyr y ffordd, arwyddion priffyrdd a lleiniau ymyl diogelwch, a bydd yr amserlen torri gwair yn ailddechrau ym mis Mehefin.
Eleni rydym hefyd wedi gosod rhagor o arwyddion i ymgysylltu â thrigolion ynghylch y fenter ac i godi ymwybyddiaeth a chafwyd adborth cadarnhaol. |