Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: 2024/25 - Casgliadau Bin Bob Tair Wythnos Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:
Mae llawer o drigolion fy ward yn cael trafferth gyda'r casgliad gwastraff gardd bob tair wythnos. Fel yr wyf yn si?r eich bod yn ymwybodol mae llawer o dai sydd â gerddi blaen a chefn mawr yn Ward Allt-yr-ynn.
A oes unrhyw bosibilrwydd y gellid dychwelyd i gasgliadau gwastraff gardd bob pythefnos? Dim ond rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Hydref y mae'r gwastraff gardd yn cael ei gasglu, felly dim ond cyfnod o saith mis ydyw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ystyried y cynnig hwn gennyf.
Ymatebodd y Cynghorydd Forsey:
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff gardd am 9 mis y flwyddyn, sy'n rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd. Cytunwyd ar y newid i gasgliadau tair wythnos fel rhan o gynnig cyllideb sydd wedi arbed dros £120 mil y flwyddyn.
Mae llawer o dai yng Nghasnewydd sydd â gerddi bach, ond i drigolion sydd â gerddi mwy o faint sy'n cynhyrchu symiau uchel o wastraff gardd gallant ofyn am finiau ychwanegol â chaead oren, mynd â'u gwastraff i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu ddefnyddio ein gwasanaeth casglu arbennig. |