Cofnodion

2024/26: All Cabinet Member Portfolios, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Question to all Cabinet Members: 2024/26 - All Cabinet Member Portfolios

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Morris:

 

Bob Aelod Cabinet: Allwch chi esbonio’r canlynol i'r holl Aelodau

 

1.      Teitl eich swydd

2.      Eich meysydd cyfrifoldeb

3.      Eich gweledigaeth ar gyfer y rôl

4.      Pa uwch swyddogion sy’n adrodd i chi

 

 Ymatebodd yr Aelodau Cabinet canlynol:

 

Y cynghorwyr D Batrouni, D Davies, J Clarke, R Howells, Y Forsey, L Lacey, S Adan, P Drewett ac E Stowell-Corten

 

1.      Teitl eich swydd

 Gweler yr atodedig gan Aelodau'r Cabinet yn nodi teitl eu swyddi.

 

2.      Eich meysydd cyfrifoldeb

 

Gweler y tabl isod gan Aelodau'r Cabinet yn nodi eu meysydd cyfrifoldeb.

 

3.      Eich gweledigaeth ar gyfer y rôl

 

Gweler y tabl isod gan Aelodau'r Cabinet yn nodi eu gweledigaeth ar gyfer y rôl.

 

4.      Pa uwch swyddogion sy’n adrodd i chi

 

Nid oes unrhyw swyddogion, gan gynnwys uwch swyddogion yn 'adrodd i’r' Aelodau; maent yn gweithio gyda'r Aelodau ac yn eu cynghori. 

 

Aelod Cabinet

Portffolio / Meysydd Cyfrifoldeb

Gweledigaeth ar gyfer y rôl

 

Y Cynghorydd Dimitri Batrouni

 

Arweinydd

 

·        Yr holl faterion ariannol

·        Perfformiad

·        Cynllunio corfforaethol

·        Cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt â'r wasg ar gyfer materion ledled y ddinas

·        Digwyddiadau maerol a chorfforaethol

·        Datblygiad Aelodau’r Cabinet

·        Datblygu Economaidd (Strategol)

·        Prosiectau mawr (goruchwyliaeth)

·        Dinasoedd allweddol

·        Trawsnewid

·        Digidol

·        Hyb Gwybodaeth

·        Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru

·        Materion cyfansoddiadol

·        Budd-daliadau'r dreth gyngor

·        Canolfan wyneb yn wyneb y Cyngor a'r Ganolfan Gyswllt

Cyhoeddwyd cynllun corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd yn 2022 ac fe'i ategir gan ein hymrwymiadau Maniffesto Llafur a gyhoeddwyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol flaenorol.

Mae ein gweledigaeth wedi'i nodi'n glir ar gychwyn y cynllun corfforaethol. Ein gweledigaeth yw "Darparu Casnewydd Uchelgeisiol, Decach a Gwyrddach i bawb a chyfrannu tuag at Nodau Lles Cymru a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol". 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth hon, mae pob gwasanaeth wedi gosod ei amcanion a'i flaenoriaethau strategol ei hun, ynghyd â chynlluniau gwasanaeth i sicrhau gwelliant parhaus. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu pennu gan y deiliaid portffolio yn flynyddol ac fe'u hadolygir yn rheolaidd gan y pwyllgor craffu priodol.

Y Cynghorydd Deb Davies

 

Dirprwy Arweinydd a’r

Aelod Cabinet dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar

·        Gwasanaethau addysg gan gynnwys y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

·        Ysgolion

·        Blynyddoedd cynnar, gan gynnwys atal a chynhwysiant

·        Arlwyo ysgolion

·        Gwasanaethau cerdd

·        Cynhwysiant addysg

·        Plant sy'n Derbyn Gofal mewn lleoliadau ysgol

·        Hawliau rhieni

·        Strategaethau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

·        Datblygu strategaethau i ddatblygu rhagolygon a hyfforddiant i helpu pobl ifanc i gael swyddi neu i ddechrau a datblygu busnes

·        Datblygu aelodau

·        Dechrau’n Deg

·        Teuluoedd yn Gyntaf

·        Unrhyw bolisïau AD corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch

·        Datblygu Sefydliadol

·        Gwasanaethau ieuenctid

Cyhoeddwyd cynllun corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd yn 2022 ac fe'i ategir gan ein hymrwymiadau Maniffesto Llafur a gyhoeddwyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol flaenorol.

Mae ein gweledigaeth wedi'i nodi'n glir ar gychwyn y cynllun corfforaethol. Ein gweledigaeth yw "Darparu Casnewydd Uchelgeisiol, Decach a Gwyrddach i bawb a chyfrannu tuag at Nodau Lles Cymru a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol". 

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth hon, mae pob  ...  view the full Cofnodion text for item 1.