Cofnodion

2024/29: Canal Renovations, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2024

Eitemau
Rhif eitem

1.

Question to the Cabinet Member for Climate Change and Biodiversity: 2024/29 - Canal Renovations

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Reeks:

Braf gweld y gwaith adnewyddu parhaus yng Nghamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu drwy D?-du, a chroesawu cam nesaf y gwaith hwn ar ffurf y siltio a'r ail-leinio. Fodd bynnag, mae trigolion wedi mynegi pryderon am yr effaith ar y bywyd gwyllt a'r pysgod yn ystod y gwaith adnewyddu hwn, gan nodi y gallai pysgod farw oherwydd gorboethi yn y d?r bas. A all yr aelod Cabinet gadarnhau pa gamau sydd ar waith i'w diogelu a pha sicrwydd y gall ei roi na fydd unrhyw ddifrod hirdymor i'r bywyd gwyllt na'r pysgod yn ystod y cam nesaf hwn o’r gwaith?

Ymatebodd y Cynghorydd Forsey gan ddweud:

Mae gwaith y Gamlas yn cael ei wneud dan oruchwyliaeth, yn dilyn asesiad ecoleg a, lle bo angen, mae brîff gwylio gan ecolegydd.

Lle bo angen, mae pysgod ac amffibiaid yn cael eu hadleoli wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Yn hanesyddol, mae rhannau o'r gamlas wedi sychu dros yr haf a dylai'r gwaith adnewyddu helpu i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.