Agenda and minutes

Cyngor - Dydd Mawrth, 10fed Medi, 2019 5.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Anne Jenkins  Rheolwr Craffu a Llywodraethu

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Rhagofynion

i.                Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

ii.                Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

iii.                Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y maer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

     i.        Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr canlynol:-  Majid Rahman, Graham Berry, Tracey Holyoake, Margaret Cornelious, John Guy a Malcolm Linton.

 

    ii.        I dderbyn datganiadau o fuddiant.

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

  iii.        I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer.

 

Ron Jones

 

Cyfeiriodd y Maer at y newyddion trist ynghylch marwolaeth Ron Jones a fu farw yn 102 oed. Roedd Ron yn gyn-filwr rhyfel ac yn adnabyddus am werthu bathodynnau yn ystod apêl y pabi.  Gofynnodd y Maer i'r Aelodau sefyll am funud o dawelwch.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod Ron yn ddinesydd rhagorol o Gasnewydd ac mai ef oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Ysbryd Casnewydd.  Ymunodd y Cyngor i estyn eu cydymdeimladau i deulu a ffrindiau, gan ddweud bod Ron wedi meddiannu lle arbennig yng nghalonnau trigolion Trefdraeth ac ardal ehangach.

 

Arweinydd y Cyngor

 

Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd y Maer Arweinydd y Cyngor ar ei dyrchafiad i D?'r Arglwyddi yn dilyn Rhestr Anrhydeddau Ymddiswyddiad y cyn Prif Weinidog, Theresa May.  Cafodd yr Arweinydd ei wneud yn Arglwydd am oes am ei chyfraniad rhagorol i addysg a Llywodraeth Leol.

Roedd hyn nid yn unig yn gyflawniad anhygoel i'r Cynghorydd Wilcox ond i Ddinas Casnewydd.

 

Ychwanegodd y Maer ei fod yn si?r y byddai pawb a oedd yn bresennol yn cytuno bod hwn yn foment falch i Gyngor Dinas Casnewydd, Cymru a thu hwnt. 

 

Rhoddodd pawb a oedd yn bresennol rownd o gymeradwyaeth i'r Arweinydd.

 

Cydnabu'r Arweinydd y wobr a dywedodd ei bod yn anrhydedd mawr i wleidyddion llywodraeth leol i gael eu gwerthfawrogi fel hyn.  Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi mwynhau'r rôl ac y byddai'n gwasanaethu'r Cyngor mewn unrhyw ffordd y gallai ond yn anffodus byddai'n gorfod camu i lawr fel Arweinydd.  Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorwyr am y ffordd broffesiynol yr oeddent yn gweithredu. 

 

Estynnodd y Maer wahoddiad i Arweinwyr y gwrthbleidiau drosglwyddo eu negeseuon i'r arweinydd hefyd.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd M Evans yr Arweinydd gan gymeradwyo sylwadau'r Maer a chrybwyllodd fod bod yn Arweinydd y Cyngor yn waith anodd a heriol yn ogystal â bod yn Arweinydd CLlLC, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol ac ar ran gr?p y Ceidwadwyr roedd y yn dymuno'r gorau i'r Arweinydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd M Whitcutt fel Dirprwy Arweinydd a chydweithiwr ward am bron i 17 mlynedd ei fod nid yn unig yn haeddiannol ond mewn cyfnod byr, fod yr Arweinydd wedi trawsnewid y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Genedlaethol a Llywodraeth Leol i berthynas fwy cydweithredol.  Roedd yr Arweinydd wedi bod yn rhagorol yn ei rolau fel Arweinydd ac aelod ward ac roedd ei dyrchafiad i D?'r Arglwyddi yn haeddiannol iawn.  Roedd hefyd yn gydnabyddiaeth gadarnhaol o'r ffaith bod yr Arweinydd yn frwd iawn o ran addysg ac yn gofalu am yr amgylchfyd cyhoeddus.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd K Whitehead y bu dadleuon llawen gyda'r Arweinydd ac na allai ond ategu'r hyn yr oedd eraill wedi'i ddweud a dymuno'r gorau iddi.

 

Roedd y Cynghorydd C Townsend yn adlewyrchu sylwadau'r rhai a  ...  view the full Cofnodion text for item 1.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 165 KB

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf

 

2019 fel cofnod gwir a chywir ac eithrio un gwall teipio a nodwyd gan y Cynghorydd V Dudley.

 

Eitem 8 - Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor, Tudalen 12:  O dan baragraff y canllaw gwrth-aflonyddu, mae angen gwneud cywiriad yn Saesneg i gyfeirio at y gair “intimidation” (ac nid “intimation”).

 

3.

Penodiadau

Ystyriedunrhyw benodiadau arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw benodiadau i'w cyhoeddi yn y Cyngor y tro hwn.

 

4.

Materion yr Heddlu

Neilltuir 30 munud ar gyfer cwestiynau i gynrychiolydd Heddlu Gwent..

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwcharolygydd Mike Richards ddiweddariad byr ar weithgarwch ar draws y tri sector plismona yng Nghasnewydd.

 

Roedd rhai o'r diweddariadau cyffredinol yn cynnwys yr Uwcharolygydd Mike Roberts yn croesawu 19 o Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol i Ddwyrain Casnewydd, ac mae llawer o'r rheini wedi dechrau ac ar reolaeth annibynnol.

 

Ar thema debyg, yr oedd yr heddlu'n hysbysebu am gwnstabliaid lleol, sy’n meddwl y byddai'r flwyddyn ariannol hon yn gweld recriwtio 62 o swyddogion newydd.  Yn olaf, byddai hefyd nifer newydd o gwnstabliaid arbennig yn ymuno â'r heddlu ym mis Hydref a fyddai'n patrolio'r strydoedd ar ôl y Nadolig.

 

Roedd arolygydd newydd ar gyfer Dwyrain Casnewydd, Martin Cawley, a fyddai'n mynd i'r afael â'r mater o bobol sy'n rasio yn enwedig o amgylch Parc Manwerthu Spytty.  Roedd yr Arolygydd Cawley wedi bod yn goruchwylio llawer o weithgarwch gorfodi a thros ddau benwythnos ym mis Gorffennaf ac Awst cafodd dros 300 o ddirwyon goryrru eu trosglwyddo i yrwyr ledled Cymru a thu hwnt.

 

Byddai siopau Tesco yn Spytty yn gosod camerâu ANPR a fyddai'n cyfyngu ar faint o amser y byddai ceir yn ei dreulio yn y safle y tu allan i oriau. 

 

Yn ogystal â hyn, cafwyd adroddiadau am ddelio â chyffuriau ym Mharc y Lludw Du a Phont Faen, am warantau chwilio a weithredwyd a bod hebryngwyr wedi cynyddu yn yr ardaloedd hynny.  Roedd hyn yn digwydd hefyd yn Sain Silian ac Ystâd Old Barn lle y gwnaed arestiadau, gyda gwaith partneriaeth agos gyda Chasnewydd Fyw o amgylch y Ddarpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid a gweithgareddau dargyfeiriol.  Diolchwyd i Gasnewydd Fyw am eu cefnogaeth.

 

Mewn perthynas ag Alway a Ringland, bu gostyngiad yn nifer y galwadau yn dilyn gwaith dargyfeiriol o fewn y wardiau hynny.  Gwnaed buddsoddiad hefyd mewn Gorsaf Heddlu Symudol, lle'r oedd consolau Play Station wedi'u gosod ar gyfer yr ieuenctid yn yr ardal honno, a chafwyd rhai canlyniadau cadarnhaol o hyn.  Bu cynnydd o ran dwyn cerbydau modur a llosgi allan o feiciau modur yn Ringland, a oedd yn cael ei drin fel blaenoriaeth.

 

Roedd y materion yng Ngorllewin Casnewydd yn cael eu goruchwylio gan yr Arolygydd Griffiths.  Ym Maesglas, roedd materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau.  Roedd patrolau heddlu wedi'u rhoi ar waith a bu sawl achos o arestio am droseddau cyffuriau.  Bydd taith gerdded o gwmpas yr ardal hon. 

 

Mewn perthynas ag ardal Frances Drive, Pillgwenlli, cafwyd adborth cadarnhaol o ran lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr haf a oedd yn newyddion da.

 

Llwyddwyd i weithredu gwarant chwilio ym Mhillgwenlli ar 1 Awst ynghyd â Diwrnod Gweithredu Amlasiantaeth y bwriedir ei gynnal yn ddiweddarach yn y mis.

 

Bu ymgyrch dridiau yn y Betws yn ddiweddar, yn targedu materion gwrthgymdeithasol, materion yn ymwneud â chyffuriau a defnyddio cerbydau, a bu arést am feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.

 

Yn olaf, mewn perthynas â Chanol Casnewydd, a oruchwyliwyd gan yr Arolygydd Nigel Lewis, roedd St Pauls Walk, a oedd yn parhau i fod yn fan poeth ar gyfer troseddu, wedi'i thargedu gan yr heddlu.  Roedd yr Uwcharolygydd wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Hysbysiad o gynnig: #Wyf Adduned 2 Siarad - Ymgyrch Atal Hunanladdiad Ymhlith Dynion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cyngor i ystyried y cynnig canlynol lle mae’r hysbysiad angenrheidiol wedi’i osod.  Y Cynghorydd Debbie Wilcox a oedd yn cyflwyno’r cynnig hwn ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Whitcutt.

 

'Mae'r awdurdod hwn yn cefnogi'r Ymgyrch Atal Hunanladdiad Ymhlith Dynion #IPledge2Talk a bydd yn gweithio i gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol yng nghymunedau Casnewydd mewn ysgolion, cymdogaethau a gweithleoedd lleol.

 

Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod ein rôl hollbwysig o ran hybu ymwybyddiaeth o'r mater hwn.

 

Dylai annog lles meddyliol fod yn flaenoriaeth ar draws holl feysydd cyfrifoldeb yr awdurdod lleol, gan gynnwys tai, diogelwch cymunedol a chynllunio.

 

Bydd yr awdurdod yn hyrwyddo iechyd meddwl ar sail strategol unigol a bydd yn penodi aelod etholedig fel ei 'Hyrwyddwr Iechyd Meddwl' o fewn y Cyngor.'

 

Wrth wneud y Cynnig, dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi gadael cardiau'r addewid melyn i'w dosbarthu i bob aelod ar ôl cyfarfod y Cyngor ac y gellid eu dilyn drwy sianeli arferol ar gyfer aelodau staff.

 

Hefyd, penodwyd y Cynghorydd K Thomas yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl.

Gwnaeth yr Arweinydd y cynnig ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Whitcutt.

 

Cefnogodd y Cynghorydd G Giles y cynnig hwn yn llawn ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad.  Roedd darparu gofal priodol yn hanfodol, ym maes addysg yn benodol.   Roedd yn hanfodol cydnabod ymyrraeth gynnar i atal achosion rhag digwydd.  Roedd gan bob disgybl Cymru fynediad at gwnsela, gyda chymorth a gyflwynwyd yn ddiweddar i blant yn y dosbarth meithrin i bump oed, a oedd yn unigryw.  Roedd y Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn hybu hunangymorth ac roedd nifer o fentrau'n cael eu treialu gan gynnwys cyflwyno hyfforddwr cymorth cyntaf iechyd meddwl o fis Hydref ymlaen.  Roedd hyfforddiant parhaus yn cynnwys sgiliau ymyriadau hunanladdiad cymwysedig yn ogystal â gwaith sylweddol a wnaed gan Gynllun Gweithredu Gwent.  Roedd mwy o gefnogaeth i staff a disgyblion.  Roedd atgyfeiriadau hefyd yn cael eu gwneud ac yn anffodus cafwyd cynnydd cydnabyddedig mewn digwyddiadau, felly cefnogodd y Cynghorydd Giles y cynnig yn llawn.

 

Siaradodd nifer o'r aelodau o blaid y cynnig a rhai profiadau personol a rannwyd sy'n berthnasol i'r ddadl.

 

Gohiriodd y Maer y cyfarfod am doriad byr ac ailgynullodd y cyfarfod wedi deng munud.

 

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol i gefnogi'r cynnig.

 

6.

Penodi Prif Weithredwr Dros Dro/Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig pdf icon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan amlinellu bod y Prif Weithredwr presennol wedi rhoi gwybod y byddai’n gadael ar ddechrau mis Hydref. O fewn y Cyngor, y Prif Weithredwr oedd Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig dynodedig yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 gan gyflawni’r cyfrifoldebau statudol perthnasol. Byddai penodi Prif Weithredwr Dros Dro yn galluogi'r cyfrifoldebau hyn i gael eu cyflawni'n barhaus ac yn sicrhau arweiniad strategol priodol.  Pe bai etholiad yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod hwn, byddai'r Prif Weithredwr Dros Dro hefyd yn cyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau, felly roedd y Cyngor o dan rwymedigaeth gyfreithiol i benodi Prif Weithredwr Dros Dro cyn gynted â phosibl.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylid rhoi'r p?er dirprwyedig i benodi Prif Weithredwr Dros Dro i banel penodi â chydbwysedd gwleidyddol o saith aelod yn unol â gweithdrefnau safonol.  Gan y byddai hwn yn benodiad cyfnod penodol, nid oedd gofyniad i hysbysebu'r swydd wag.  Roedd CLlLC wedi cael y dasg o ddarparu ymgeiswyr â chymwysterau addas a allai ddechrau gweithio ar unwaith.  Bydd y penodiad am gyfnod o chwe mis gyda'r disgresiwn i'w ymestyn am 12 mis.

 

Yn wreiddiol, roedd yr adroddiad yn nodi bod y penderfyniad i ymestyn i 12 mis yn cael ei wneud gan yr Arweinydd mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio a Phennaeth Pobl a Newid Busnes.  Ers hynny, roedd yr Arweinydd wedi siarad â'i chydweithiwr, y Cynghorydd M Evans, Arweinydd yr Wrthblaid, ac roedd yn fodlon diwygio'r adroddiad i ddarllen, pe byddai estyniad o 12 mis, bod yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid yn cymryd y penderfyniad hwn ar y cyd, er mwyn cael panel gwleidyddol cytbwys.  Felly, gofynnodd yr Arweinydd i'r prif swyddog cyfreithiol a oedd yn bresennol yn y Cyngor nodi'r newidiadau.

 

Diolchodd y Cynghorydd M Evans i'r Arweinydd am hyn a chefnogodd yr adroddiad yn llawn.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd M Whitcutt.

 

Penderfynwyd

 

Penderfynwyd yn unfrydol i nodi'r adroddiad a dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Penodiadau i benodi Prif Weithredwr / Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig Dros Dro am chwe mis, gydag opsiwn i ymestyn i 12 mis. Rhoddir p?er dirprwyedig i'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid gytuno ar estyniad y tu hwnt i chwe mis, mewn ymgynghoriad â Phenaethiaid y Gyfraith a Rheoleiddio a Phobl a Newid Busnes.

 

7.

Arcêd Marchnad Canol Dinas Casnewydd: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio’r adroddiad, i hysbysu'r Cyngor o ganlyniad yr ymgynghoriadau cyhoeddus ar y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus arfaethedig (GDMC) ar gyfer Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a

 

gofyn i'r Cyngor ystyried y cynnig y dylid gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn dilyn argymhelliad gan yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio i'r Cyngor wneud y Gorchymyn.

 

Oherwydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a brofwyd yn yr Arcêd, roedd yn amserol i'r Cyngor weithredu GDMC i gau'r arcêd yn y nos i'r cyhoedd. Roedd hawl dramwy’r cyhoedd, yn rhedeg drwy'r Arcêd ac felly nid oedd perchnogion yr Arcêd yn gallu cau'r Arcêd pryd bynnag yr oeddent yn dymuno.  Cynghorodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio’r Cyngor y byddai hyn yn cael ei gyfeirio ato fel 'Gorchymyn Gatio' ar gyfer yr Arcêd.

 

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal ac roedd cefnogaeth gyffredinol i Orchymyn Gatio i ganiatáu cau'r Arcêd yn y nos.  Neilltuwyd cymeradwyaeth ar gyfer y Cyngor llawn, felly gofynnodd yr adroddiad i'r Cyngor wneud Gorchymyn Gatio i gau Arcêd y Farchnad i'r cyhoedd rhwng 8:00pm a 7:00am, saith diwrnod yr wythnos, yn dilyn argymhelliad i wneud hynny gan yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Fouweather gefnogaeth i weithredu Gorchymyn Gatio, er mwyn caniatáu i'r busnesau lleol redeg heb ofni ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Cleverly yr adroddiad.

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan yr Arweinydd.

 

Penderfynwyd

 

Bod y Cyngor hwn yn gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Arcêd y Farchnad.

 

8.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2018/2019 pdf icon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lacey yr adroddiad a oedd yn amlinellu bod y cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgorau Craffu gyflwyno adroddiad blynyddol bob blwyddyn i'r Cyngor, i adolygu sut yr oedd y gwaith craffu wedi gweithredu yn ystod y 12 mis diwethaf. 

 

Roedd yn anodd mesur effaith gwaith Craffu gan ddefnyddio mesurau perfformiad traddodiadol, a oedd yn cyfrif yr hyn a ddeilliodd o'r Pwyllgorau Craffu ond nad oedd yn mesur canlyniadau eu gwaith, nac yn dangos a oedd gwelliannau wedi'u gwneud o ganlyniad i hynny.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn offeryn mwy defnyddiol ar gyfer adolygu effeithiolrwydd gwaith Craffu, gan roi cyfle i fyfyrio'n briodol ar sut yr oedd y gwaith Craffu wedi gweithredu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a nodi'r heriau arfaethedig y gellid eu defnyddio i farnu perfformiad yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at y crynodeb ar dudalen 44 o'r Adroddiad Blynyddol, gan amlinellu'r prif ddatblygiadau a chyflawniadau'r flwyddyn honno gan awgrymu bod lle i wella.  Nid oedd y dudalen dan sylw yn ddigon disgrifiadol ac nid oedd yn darparu unrhyw dystiolaeth o'r hyn a oedd yn cael ei wneud.  Teimlwyd bod angen bod yn fwy cryno a chanolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd.  Dywedodd y Cynghorydd M Evans felly y byddai'n cefnogi'r adroddiad ond roedd yn teimlo bod lle i wella ac y dylid cynnwys rhestr o gyflawniadau yn y dyfodol

 

Cafodd yr adroddiad ei eilio gan y Cynghorydd Al-Nuaimi.

 

Penderfynwyd

 

Cytunodd y cyngor hwn yn unfrydol ar gynnwys yr adroddiad blynyddol fel sail i waith y Pwyllgorau Craffu yn y flwyddyn i ddod.

 

9.

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

I roi'r cyfle i gynghorwyr ofyn cwestiynau i Gadeirydd y Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

 

Proses: Ni chaiff mwy na 15 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau llafar i'r Arweinydd

 

Rhaidi'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol, cyn bwrw ymlaen â chwestiynau:

 

Y cyhoeddiad diweddar ynghylch gwaith dur Orb.  Roedd hyn yn newyddion trist iawn i weithwyr a'u teuluoedd, roedd yn rhwystredig pan oedd ein gallu i ddylanwadu ar faterion o'r fath yn gyfyngedig.

 

Roedd y Cyngor i dderbyn Gwobr Aur Cydnabyddiaeth i gyflogwyr gan y Lluoedd Arfog.  Roedd hyn yn cefnogi unigolion a oedd yn trosglwyddo o'r Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Arbennig Wrth Gefn.

 

Roedd Gemau Trawsblannu Prydain yn llwyddiant ysgubol.  Dangosodd y preswylwyr eu cefnogaeth.  Ategwyd gan yr Arweinydd mai Casnewydd oedd yr ail ddinas ym Mhrydain erioed i fod yn Ddinas Rhoddwyr a derbyn Gwobr.

 

Byddai'r ?yl Fwyd flynyddol yn cael ei chynnal ar 5 Hydref.  Roedd y Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth y busnesau.  Byddai'r uchafbwyntiau'n cynnwys arddangosiadau gan gogyddion a diddanwyr stryd ac roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen at gael beirniadu'r gystadleuaeth Cogyddion yn eu Harddegau.

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

Gwaith Dur Orb

Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at y cyhoeddiad bod cannoedd o swyddi dan fygythiad yn ffatri TATA Orb a oedd yn newyddion siomedig i'r gweithlu, y teulu a'r gymuned ehangach a bod meddyliau pawb gyda nhw ar yr adeg anodd hon.  Cynigiwyd cymorth gan ACau ac ASau a rhoddwyd datganiad gan Ken Skates, Gweinidog Economi Cymru a ddywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi unigolion, y gymuned a'r gadwyn gyflenwi yr oedd y newyddion hyn yn effeithio arnynt.

 

Ni wnaeth y Cynghorydd M Evans gofio dim yn cael ei grybwyll yn gynt gan yr Arweinydd a gofynnodd beth oedd y Cyngor wedi ei wneud felly dros y blynyddoedd diwethaf ac ers y cyhoeddiad er mwyn mynd i'r afael â'u pryderon.

 

Cytunodd yr Arweinydd ei bod yn ergyd i'r ddinas, fodd bynnag nid oedd unrhyw rybudd ymlaen llaw gan TATA Steel am y penderfyniad na'r heriau sy'n wynebu'r busnes.  Byddai'r Cyngor nawr yn gweithio gyda TATA a Llywodraeth Cymru i ddarparu cymaint o gymorth â phosibl i'r rhai y mae'r cyhoeddiad yn effeithio arnynt.

 

Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd M Evans i'r Arweinydd roi sylw i'r hyn yr oedd y Cyngor wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf.  Roedd gan y Cyngor adran datblygu economaidd y disgwylid iddo ymwneud â materion o'r fath, yn ogystal, a allai'r Arweinydd hefyd fod yn fwy penodol ynghylch pa gymorth fyddai'n cael ei gynnig i'r gweithwyr yn awr ac yn y gorffennol.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r rhestr o fesurau'n cael ei chanfod yn glir ac y byddai ymateb yn cael ei ddarparu i Arweinydd yr wrthblaid.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K Whitehead at benodi Prif Weithredwr Dros Dro a oedd yn benodiad â chyflogau uchel a gofynnodd a ellid cytuno ar drefniant rhannu swydd mewn cyfnod o galedi.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod swydd Prif Swyddog Addysg wedi cael ei rhannu unwaith rhwng dau awdurdod, ond nid oedd o'r farn y byddai rhannu swydd Prif Weithredwr yn ymarferol ar hyn o bryd gan fod y Cyngor eisoes yn meddu ar un o'r niferoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cwestiynau i Aelodau ' r Cabinet

I roi'r cyfle i ofyn cwestiynau i Aelodau'r Cabinet yn unol â Rheolau Sefydlog

 

Proses: Ni chaiff mwy na 10 munud eu cadw yng nghyfarfod y Cyngor ar gyfer cwestiynau i bob Aelod Cabinet unigol.

 

Bydd angen i’r Aelodau cyflwyno eu cwestiynau arfaethedig yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheolau Sefydlog.  Os nad yw'r aelodau yn gallu gofyn eu cwestiwn ar lafar o fewn yr amser a glustnodwyd, bydd y cwestiynau sy'n weddill yn cael eu hateb yn ysgrifenedig.  Bydd y cwestiwn ac ymateb yn cael eu hatodi i'r cofnodion.

 

Rhaid i'r cwestiwn cael sylw drwy'r Maer neu'r sawl sy'n llywyddu yn y cyfarfod ac nid yn uniongyrchol at y person a holir

 

Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i aelodau'r cabinet yn y drefn ganlynol:

 

·      DirprwyArweinydd / Aelod Cabinet dros Ddatblygu Asedau ac Aelodau

·      Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau

·      Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol

·      Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai

·      Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau

·      Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Stryd

·      Aelod Cabinet dros Trwyddedua Rheoleiddio

·      Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden

 

Er Gwybodaeth:  Mae crynodeb o amserlenni penderfyniad diweddar a gyhoeddwyd gan y Cabinet, Aelodau Cabinet a Chofnodion cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau wedi cael ei gylchredeg yn electronig at bob Aelod o'r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

             i.        Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ray Mogford y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:

 

'O'r 1af Ebrill 2016 hyd 31 Mawrth 2019, faint o arian sydd wedi cael ei roi i Gyngor Casnewydd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Grant Atal Digartrefedd - a - beth mae'r arian hwn wedi cael ei wario arno?'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai:

 

'Rhoddwyd cyllid i'r Cyngor o dan raglen Grant Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru a oedd yn gysylltiedig â chyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014, gan gydnabod y pwysau a'r beichiau ychwanegol a osodir ar bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni gofynion y ddeddf.  Mae'r arian a ddyrannwyd a'r cynllun/gwasanaethau a wariwyd ar hyn fel a ganlyn:

 

2016/17 - £149,400

Staffio - CDC - rôl swyddog llety - gweithio gyda'r sector rhentu preifat

Y Gronfa Atal Digartrefedd - CDC - arian a ddefnyddir i rwystro digartrefedd a helpu i gael mynediad i lety arall

Gwasanaeth Cyfryngu - Llamau

 

2017/18 - £139,440

Y Gronfa Atal Digartrefedd - CDC - arian a ddefnyddir i rwystro digartrefedd a helpu i gael mynediad i lety arall

Gwasanaeth Cyfryngu - Llamau

Prosiect Llwybr Person Ifanc - Gr?p POBL - costau staffio

Swyddog Strategaeth Digartrefedd Gwent - CBS Torfaen - cyllid ar draws awdurdodau lleol Gwent i gyflogi swyddog i gynnal yr adolygiad o ddigartrefedd ym mhob ardal ac i ddatblygu Strategaeth Ddigartrefedd Gwent

System Dai Civica - Civica UK - system TG

Cysgodfa Nos - Eden Gate

 

2018/19

Llety a Rennir i Bobl Ifanc – Llamau – costau staffio

Prosiect Llety â Chymorth – Llamau – costau staffio a rhedeg

Cysgodfa Nos - Eden Gate

Gwasanaeth Allgymorth Dwys – Wallich

 

Y cyllid yw'r swm a ddyfernir o'r Grant Atal Digartrefedd ac nid yw'n cynnwys arian y mae'r Cyngor wedi gwneud cais amdano ar wahân ar gyfer cynlluniau a mentrau dros dro eraill.’

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Mogford a ellid darparu dadansoddiad o'r ffigurau i gynghorwyr.

 

            ii.        Cwestiwn ar y cyd i’r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Watkins  y cwestiwn canlynol a gyflwynwyd o flaen llaw:

 

'A yw'r Aelod Cabinet dros Addysg yn cyfathrebu â Heddlu Gwent ynghylch llwybrau cerdded diogel i ysgolion Casnewydd ac oddi yno.'

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau:

 

'Mae llwybrau cerdded diogel i'r ysgol yn cael eu harwain, eu rheoli a'u mapio gan Wasanaethau'r Ddinas. Yn naturiol, lle mae meysydd gwasanaeth a phortffolio Aelodau’r Cabinet yn croesi (fel yn yr amgylchiad hwn) mae briffio Aelodau Cabinet ar y cyd yn digwydd. Mae hyn yn sicrhau fy mod yn cael gwybod yn gyson am unrhyw broblemau a gwaith prosiect sy'n gysylltiedig â llwybrau diogel ac annog teithio llesol. Trosglwyddaf i'r Cynghorydd Jeavons i roi manylion pellach i chi ar y cwestiwn yr ydych yn ei gyflwyno.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas

 

'Wrth asesu llwybrau cerdded ysgolion, yn hanesyddol mae'r Cyngor wedi cysylltu â'r Heddlu i sefydlu unrhyw feysydd o  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cwestiynau i Gadeiryddion Pwyllgorau

Bydd y cwestiynau yn cael eu gofyn i Gadeiryddion Pwyllgorau yn y drefn ganlynol:

 I.             PwyllgorauCraffu

·                              PwyllgorRheoli Trosolwg a Chraffu

·                              PwyllgorCraffu ar BerfformiadPobl

·                              PwyllgorCraffu ar BerfformiadLleoedd a Materion Corfforaethol

·                              PwyllgorCraffu ar BerfformiadPartneriaethau

 

II.             PwyllgorCynllunio

III.             PwyllgorTrwyddedu

IV.             PwyllgorGwasanaethau Democrataidd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.

 

12.

Pwyllgor Safonau Cofnodion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Byddai'r cofnodion yn cael eu cytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

13.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dydd Mawrth 26 Tachwedd am 5pm yn Siambrau'r Cyngor.