Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 18fed Medi, 2019 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Tracy Richards  Rheolwr Swyddfa’r Cabinet

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Fel uchod

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i gyhoeddi mai'r cyfarfod Cabinet hwn oedd yr olaf a fyddai Will Godfrey’n mynychu yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weithredwr cyn ymadael i dderbyn swydd y Prif Weithredwr yng Nghyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf.  Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Will wedi bod yng Nghasnewydd ers mwy na chwe blynedd, gan weithio gyda'r weinyddiaeth bresennol a'r Arweinydd blaenorol i sicrhau bod gan Gasnewydd y gwasanaethau gorau posibl, yn ogystal â chynhyrchu cyllidebau cytbwys bob blwyddyn.  Bydd hefyd wedi dod â'i brofiad a'i adnoddau i weithio ar lefel ranbarthol i sicrhau y gall Casnewydd gyflawni ei photensial.   

 

Diolchodd yr Arweinydd ac Aelodau'r Cabinet am ei wasanaeth i'r Cyngor ac i'r ddinas.

3.

Cofnodian y cyfarod a 17 Gorffennaf 2019 pdf icon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

4.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 696 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn dangos darlun heriol.  Mae'r sefyllfa gyffredinol yn gadarnhaol gan fod y rhagolygon ar gyfer y sefyllfa gyffredinol yn awgrymu sefyllfa gytbwys; yr her yw bod angen yr holl arian wrth gefn er mwyn cyflawni hyn mor gynnar yn y flwyddyn ariannol.

 

Nododd yr adroddiad fod y mwyafrif helaeth o weithgareddau'r Cyngor yn gwario ar eu cyllideb neu'n agos ato a bod yr her gyllidebol wedi'i chyfyngu i nifer fach o ardaloedd sy'n cael eu harwain gan y galw, er bod yr her honno'n eithaf sylweddol.

 

Mae buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol, ond mae'r galw'n parhau i gyflymu. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i Gasnewydd gan fod pob awdurdod lleol yn cael trafferth ledled Cymru a'r DU, er mwyn ateb y galw am wasanaethau hanfodol gan y preswylwyr mwyaf difreintiedig.

 

Dangosodd yr adroddiad fod gwasanaethau, heb gynnwys ysgolion, yn rhagweld gorwariant o tua £3,700,000, y rhan fwyaf ohonynt yn dod o ofal cymdeithasol - yn enwedig lleoliadau y tu allan i'r ardal a maethu i blant.  Mae cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau yn tanwario o ychydig dros £2 miliwn, yn bennaf o gostau is y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a mwy o incwm y Dreth Gyngor; mae'r gorwariant net deilliannol o £1.5 miliwn yn dod o dan y gyllideb refeniw wrth gefn, sydd hefyd yn £1.5 miliwn.

 

Mae sefyllfa'r ysgolion yn parhau i fod yn heriol.  Mae ysgolion yn rhagweld y byddant yn gorwario tua £2.6 miliwn ac er y bydd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn ariannu hynny, bydd yn gadael cronfeydd wrth gefn bach iawn mewn ysgolion.  Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Prif Swyddog Addysg, y Pennaeth Cyllid a'u timau yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau gydag ysgolion Uwchradd, lle mae'r prif feysydd her yn bodoli ac yn edrych ar opsiynau i ysgolion leihau gwariant.   

 

Mae'r sefyllfa'n gytbwys o ran parhau â gorwario mewn nifer fach o ardaloedd a gaiff eu cydbwyso gan gyllidebau nad ydynt yn wasanaethau a'r cronfeydd wrth gefn. 

 

Wrth i'r flwyddyn ariannol fynd rhagddi, bydd y Cyngor yn parhau i fireinio rhagolygon ac adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n deillio o faterion allweddol fel y galw am ofal cymdeithasol, cynnydd ar gasglu'r Dreth Gyngor a chost budd-dal y Dreth Gyngor.  Cadarnhaodd yr Arweinydd fod swyddogion yn cynghori bod angen monitro'r sefyllfa dros y ddeufis nesaf, ac asesu pa gamau y mae angen eu cymryd ar draws y Cyngor i sicrhau bod gan y Cyngor y cyfle gorau i reoli'r gyllideb gyffredinol.  Cynigiodd yr Arweinydd hyn fel dull synhwyrol a chytbwys. 

 

Cadarnhaodd Aelodau'r Cabinet yr anhawster parhaus o gydbwyso cyllidebau yn ystod y cyfnod o lymder parhaus.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet:

 

           Nodi'r sefyllfa rhagolwg cyllideb gyffredinol gan gynnwys y defnydd o'r holl gyllideb wrth gefn gyffredinol yn ogystal â thanwario sylweddol mewn cyllidebau nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau i gydbwyso rhagolygon gorwario o fewn meysydd gwasanaeth;

           Cytuno i gyfarwyddo pob un o feysydd y Cyngor i gynnal rheolaeth ariannol gadarn;

           Nodi a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitor Rhaglen Gyfalaf pdf icon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn nodi projectau newydd i’r rhaglen a oedd angen cymeradwyaeth y Cabinet, diweddariad ar lefel yr adnoddau cyfalaf a'r rhagolygon ar gyfer gwariant eleni yn erbyn cyllidebau.  

 

O ran y projectau newydd sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad, mae'r rhan fwyaf yn cael eu cyllido o arian a grantiau Adran 106, gydag ambell un yn gofyn am gyllid drwy fenthyca, gan ddefnyddio'r lefel bresennol o adnoddau cyfalaf ychwanegol. Yn benodol, tynnodd yr arweinydd sylw at y 'cynllun beicio hygyrch' ym Mharc Tredegar a fydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n llai abl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda rhieni, plant a gofalwyr.  Hefyd, yr angen i brynu Goleuadau Nadolig newydd i'r ddinas o gofio'r problemau sy'n cael eu profi gyda'r rhai presennol sy'n mynd yn rhy anodd eu cynnal.

 

Fel rhan o adolygiad parhaus y rhaglen, mae'r tîm cyllid wedi cydlynu adolygiad gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaethau ac mae llawer o'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, gydag ond un neu ddau o feysydd allweddol o hyd heb eu bodloni, mae'r Arweinydd wedi cael sicrwydd y bydd hyn yn cael ei gwblhau dros y wythnosau nesaf. 

 

Canlyniad hyn yw bod un cynllun mawr wedi cael ei dynnu oddi ar y rhaglen ers i Ddinas-Ranbarth Caerdydd ei ddarparu nawr, a bod nifer o gyllidebau wedi llithro i flynyddoedd y dyfodol.  Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, dylai'r rhaglen fod yn fwy realistig o ran capasiti cyflawni a llai o lithriant wrth gyflawni'r rhaglen; llithriad y llynedd oedd £14 miliwn.

 

Manylodd yr adroddiad ar ffigwr adnoddau cyfalafhyblygoddeutu £10m, gyda thua'r un peth yn cael ei gynnig o gapasiti benthyca newydd yn y gyllideb refeniw dros y 2-3 blynedd nesaf.  Mae'n anochel y bydd hyn yn symud bob tro y caiff ei adrodd a gall yr adolygiad o'r rhaglen gyfalaf a grybwyllwyd eisoes ychwanegu ato, yn ogystal â grantiau pellach a chyllid arall a all ddod gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Nodir y ffigwr yn yr adroddiad.

 

O ran monitro, mae'r adroddiad yn dangos lefel dda o gynnydd, ac fel arfer rhagwelir llawer o'r gost yn hanner olaf y flwyddyn.  Daw hyn â'r risg o lithriant yn sgil hynny, ond bydd cwblhau'r adolygiad yn helpu yn hynny o beth.  Mae cynnydd yn cael ei wneud ar nifer o brojectau, ac mae rhai ohonynt bellach ar fin cael eu cwblhau - er enghraifft hybiau cymdogaeth a 123-129 Commercial Street.  Diolchodd yr Arweinydd i'r diweddar Carl Sargeant am ei gymorth personol gyda phroject Commercial Street, oherwydd heb ei fewnbwn ni fyddai hyn wedi dwyn ffrwyth.  Mae cynnydd hefyd yn cael ei wneud gyda phrojectau pwysig fel y Bont Gludo a chynllunio a chyflwyno'r rhaglen Band B mewn ysgolion; nodir y manylion yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Harvey gyflwyniad cynllun ‘Pedal Power’ Parc  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Gwelliant Blynyddol WAO pdf icon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd:

 

           Adroddiad y Cabinet yw Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2018/19 ar gyfer Cyngor Casnewydd.

           Mae'r adroddiad yn ailddatgan yr ymrwymiad i gyflawni'r Amcanion Llesiant a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2017/22 a sicrhau bod canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac Adroddiad Blynyddol y Cyngor, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet fis nesaf, yn galluogi'r Cyngor i sicrhau gwelliant parhaus drwy'r sefydliad cyfan.

           Gofynnwyd i'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad ac ailddatgan yr ymrwymiad i gyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2017/22 a sicrhau bod meysydd i'w gwella yn cael eu cyflawni.

           Mewn perthynas ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd Non Jenkins a Gareth Jones o Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi trosolwg o'r adroddiad i'r cyfarfod ac yn barod i dderbyn unrhyw gwestiynau a/neu adborth gan y Cabinet.

Trafododd Swyddfa Archwilio Cymru'r adroddiad:

 

Cadarnhaodd Non Jenkins ddymuniad Swyddfa Archwilio Cymru i fod yn fwy tryloyw a chadarnhawyd bod yr holl ddogfennau yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan. 

 

Ar gyfer 2018/19 ymgymerodd Swyddfa Archwilio Cymru â gwaith asesu gwelliant, prosiect sicrwydd ac asesu risg a gwaith mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Dangosodd adroddiad gwella blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y Cyngor fod gwaith cadarnhaol yn cael ei ddatblygu yn ystod 2018/19 ar gyfer gwaith archwilio, rheoleiddio ac arolygu, fel y nodir yn y disgrifiad byr a'r casgliadau y manylir arnynt yn yr adroddiad (Arddangosyn 1). 

 

Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i adfywio canol y ddinas.

 

Diolchodd Swyddfa Archwilio Cymru i'r Cyngor am eu galluogi i fod yn rhan o'r project Dechrau'n Deg; roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei chael yn amhrisiadwy o ran gallu siarad â'r defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn rhan o'r project.

 

Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn; fodd bynnag, mae nifer o gynigion ar gyfer gwella'n cael eu nodi yn yr adroddiad.  Bydd SAC yn monitro cynnydd yn erbyn y rhain ac mae argymhellion perthnasol wedi'u nodi yn yr adroddiadau cenedlaethol (Atodiad 3) fel rhan o'r gwaith asesu gwelliant.

 

Diolchodd Non Jenkins i'r aelodau a'r swyddogion am eu cymorth wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

 

Llongyfarchwyd yr Arweinydd gan Non Jenkins ar ei dyrchafiad i D?'r Arglwyddi a llongyfarchodd hi Will Godfrey hefyd ar ei benodiad i Gyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Non Jenkins am ei geiriau caredig a chadarnhaodd fod y Cyngor yn ymdrechu i roi'r gwelliant parhaus hwnnw, ar yr un pryd â dangos i'r cyhoedd bod y Cyngor yn agored ac yn dryloyw yn ei holl weithgareddau.

 

Diolchodd y Cabinet i SAC am eu gwaith gyda'r awdurdod.

 

Crynhodd yr Arweinydd yr adroddiad drwy gadarnhau:

 

           Mae'r gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru y llynedd ac yn barhaus i'r flwyddyn ariannol hon yn adlewyrchu ymrwymiad y weinyddiaeth ar gyflawni yn erbyn Cynllun Corfforaethol y Cyngor a'i bedwar Amcan  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu trydedd flwyddyn cynnydd Cyngor Dinas Casnewydd yn erbyn yr Amcanion Cydraddoldeb a nodwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ystod y flwyddyn 2018/19.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad y cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2016 gan Gyngor Dinas Casnewydd a oedd yn nodi naw Amcan Cydraddoldeb y byddai'r awdurdod yn eu mesur ei hun yn eu herbyn dros y pedair blynedd nesaf. Roedd yr amcanion a ddewiswyd yn seiliedig ar y gwaith a gyflawnwyd yn y CCS a'r Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol. Mae datblygu Amcanion Cydraddoldeb yn orfodol yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 ac fe'i cwblhawyd yn unol â'r dulliau newydd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, bu cynnydd cadarnhaol parhaus tuag at fodloni'r Amcanion Cydraddoldeb a chyflawni dyletswyddau cydraddoldeb penodol a chyffredinol yr awdurdod.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet i roi sylwadau pellach ar yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i'r swyddogion, yn enwedig Rhys Cornwall a Tracy McKim am eu gwaith ar yr adroddiad hwn.  Cadarnhaodd fod cynnydd ar y cynllun yn cael ei fonitro drwy'r Gr?p Cydraddoldeb Strategol, y mae'n ei gadeirio, ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth o'r Comisiwn Tegwch, aelodau etholedig, Penaethiaid Gwasanaethau a swyddogion arweiniol.

 

Ymhlith yr uchafbwyntiau o'r 12 mis diwethaf mae’r canlynol:-

 

           Mabwysiadu'r Strategaeth Hygyrchedd Ysgolion, fel y cytunwyd o fewn Amcan Cydraddoldeb 3;

           Adleoli 21 o deuluoedd o'r 50 ymrwymodd yr awdurdod i drwy gynllun Ailsefydlu Ffoaduriaid Syria’r Swyddfa Gartref;

           Gostwng a monitro nifer y bobl ifanc Nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant

           Mabwysiadu gan CDC Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru;

           Cyflwyno'r Strategaeth Pum Mlynedd ar gyfer y Gymraeg.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys data cydraddoldeb yn ymwneud â staff y Cyngor ei hun sy'n galluogi'r awdurdod i fesur i ba raddau y mae'n gynrychioliadol o'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu yn ogystal ag amlygu camau y mae angen eu cymryd er mwyn cynrychioli'n well yr etholwyr.  Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut mae'r awdurdod yn casglu data ac yn defnyddio'r wybodaeth wrth bennu cyfeiriad strategol, cynllunio gwasanaethau ac o fewn y broses o wneud penderfyniadau.

 

Wrth symud ymlaen i flwyddyn olaf y strategaeth hon ac wrth i'r Cyngor baratoi at strategaeth newydd ar gyfer 2020, roedd yr Aelod Cabinet yn edrych ymlaen at sicrhau bod Casnewydd yn parhau i adeiladu ar y traddodiad hwn wrth gynnal cydraddoldeb, urddas a pharch i'w holl drigolion.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet a symudodd am fabwysiadu'r adroddiad.  Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Cabinet a holl Aelodau'r Gr?p Cydraddoldeb Strategol am y gwaith a aeth i sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb wedi aros ar y trywydd iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet:

 

Gymeradwyo'r adroddiad monitro terfynol atodedig a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Diweddariad Cofrestr Risg Gorfforaethol (Chwarter 1) pdf icon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a chadarnhaodd fod y wybodaeth hon yn cael ei hadrodd i'r Pwyllgor Archwilio hefyd.

 

Gofynnodd yr adroddiad i'r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi'r newidiadau i'r gofrestr risg ar gyfer chwarter 1.

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod Strategaeth Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi'r weinyddiaeth hon a swyddogion i nodi, rheoli a monitro'r risgiau hynny'n effeithiol a allai atal yr awdurdod rhag cyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2017/22 a'i Ddyletswyddau Statudol fel awdurdod lleol.

At hynny, dywedodd yr Arweinydd fod gwasanaethau’n adolygu eu risgiau cyfredol yn flynyddol, fel rhan o drefniadau cynllunio'r Cyngor, ac yn edrych ymlaen at risgiau newydd neu rai sy'n dod i'r amlwg a fyddai'n atal y weinyddiaeth hon rhag cyflawni ei hamcanion fel rhan o'r Corfforaethol y Cyngor.

Mae'r adroddiad yn nodi bod yr adolygiad hwn wedi nodi 57 risg ar draws y sefydliad. Mae 12 o'r risgiau wedi'u codi i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor sy'n gofyn am fonitro gan y Cabinet a'r Uwch Dîm Arwain.

Bydd y risgiau sy'n weddill yn parhau i gael eu monitro drwy wasanaethau a Byrddau Themâu Corfforaethol y Cyngor.  Mae mecanweithiau ar waith i ddwysáu unrhyw risg newydd neu bresennol i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. 

Ar ddiwedd Chwarter 1 (1af Ebrill 2019 i 30ain Mehefin 2019) mae gan y Cyngor wyth risg uchel (15 i 25) a phedwar risg ganolig (5 i 14).  Mae tri risg newydd wedi'u trosglwyddo i'r gofrestr risgiau:

Cyllid ysgolion/pwysau cost (Sgôr Risg 20) - Mae hyn yn gysylltiedig â'r pwysau ariannol cynyddol a wynebir gan rai ysgolion yn y flwyddyn ariannol hon (2019/20).  Mae sawl ysgol wedi rhagweld diffygion posibl ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Mae Gwasanaethau Addysg a Chyllid Ysgolion yn cefnogi'r ysgolion hyn i nodi ffyrdd o leihau'r diffygion a sicrhau nad yw addysg y disgyblion yn cael ei heffeithio.

Y galw am ADY a chymorth AAA (Sgôr Risg 12) - Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei gweithredu i roi cymorth priodol i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a chymorth Anghenion Addysgol Arbennig.  Mae rhai elfennau anhysbys mewn perthynas â'r effaith gyffredinol ar Wasanaethau Addysg ac ysgolion a lefel y galw, sef pam mae camau'n cael eu cymryd i leihau'r effaith hon. 

Lleoliadau addysg y tu allan i'r Sir (Sgôr Risg 16) - Mae'r perygl hwn yn gysylltiedig â'r ddwy risg arall a nodwyd ac mae'n adlewyrchu'r pwysau sy'n cael ei roi ar y cymorth ADY ac AAA i blant.  Er mwyn sicrhau bod y plant yn derbyn y lefel briodol o gymorth ac yn gwneud y gorau o'u potensial, efallai y bydd yn rhaid eu lleoli mewn ysgolion y tu allan i'r ddinas.  Mae potensial y gallai hyn roi pwysau ariannol ychwanegol ar y Cyngor.

Y newid mwyaf nodedig yn ystod chwarter cyntaf yr adroddiad chwarter olaf yw:

 

Brexit (cynnydd yn y Sgôr Risg o 12 i 16) - Yn chwarter cyntaf eleni mae risg Brexit  wedi cynyddu o 12 i 16.  Mae'r sgôr hwn yn adlewyrchu'r newid i Brif  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Strategaeth Teithio Cynaliadwy pdf icon PDF 699 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar y Strategaeth Teithio Cynaliadwy a chadarnhaodd ei fod yn ddogfen fframwaith sy'n nodi rhai themâu cyffredinol ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau llygredd aer a achosir gan draffig ffyrdd (e.e. gwell trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a defnydd cynyddol o gerbydau trydan).  Bu'n destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ac ymgysylltu â phartneriaid BGC eraill.  Mae'r Cyngor wedi datgan 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (e.e. rhannau o Gaerllion), ac mae'n ofynnol i ni, yn ôl Llywodraeth Cymru, gynhyrchu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer i leihau lefelau llygredd yn yr ardaloedd hyn.  Mae'r Cyngor wedi mynd ymhellach na hyn ac wedi datblygu Strategaeth Teithio Cynaliadwy, sy'n cysylltu â gwaith is-gr?p Teithio Cynaliadwy'r BGC.  Yna bydd y fframwaith hwn yn ffurfio'r sail ar gyfer datblygu cynlluniau lleol ar gyfer pob un o'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer.

 

Er bod yr adroddiad yn cyfeirio at Barthau Aer Glân - bydd hyn yn fater i'w drafod yn nes ymlaen wrth edrych ar y camau gweithredu ym mhob Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet i siarad yn fanylach am yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Truman bod hwn yn adroddiad cynhwysfawr iawn a diolchodd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed. 

 

Tynnodd y Cynghorydd Truman sylw at y materion a nodwyd o bwynt 2 i bwynt 19 yr adroddiad a symudodd y strategaeth ar gyfer ei mabwysiadu.

 

Croesawodd y Cabinet y strategaeth, ac yn benodol canmolodd y Cynghorydd Mudd y strategaeth ac roedd yn falch o gadarnhau bod Newport Transport wedi trafod y strategaeth yn ystod ei ddiwrnod cynllunio strategol a'i fod wedi dechrau cyfrannu at lai o allyriadau yn y ddinas gyda chyflwyno bysiau trydan. 

 

Ystyriodd y Cabinet yr opsiynau canlynol:

 

1.         Cymeradwyo'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy.

2.         Cymeradwyo'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy gyda diwygiadau.

3.         Peidio â chymeradwyo'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet ar Opsiwn 1 - I gymeradwyo'r Strategaeth Teithio Cynaliadwy a fydd yn galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd ar y mater hwn a symud tuag at gydymffurfio â'i ddyletswydd statudol.

10.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Raglen Waith y Cabinet.

 

Penderfyniad:

 

Cytunodd y Cabinet i’r rhaglen wedi’i diweddaru