Cofnodion

2019/24: Ail-agor y Parc Sblash – Parc Tredegar, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 15fed Gorffennaf, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden : 2019/24 Ail-agor y Parc Sblash - Parc Tredegar

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins:

 

I’r Aelod Cabinet perthnasol y mae hyn yn berthnasol i’w bortffolio.

 

Er mwyn bod yn agored a thryloyw, a all yr Aelod Cabinet nodi’n glir beth yw bwriad yr Awdurdod o ran ail-agor y cyfleuster hwn?

 

Pa waith sydd wedi’i wneud hyd yma, ac a yw’r cyllid ar gael i sicrhau bod ei gyflawniad yn dal ar gael?

 

Beth yw swm y cyllid 106 sydd ar gael i gyflawni’r project hwn, ac o ystyried bod cytundeb wedi bod i fwrw ymlaen â’r project, pam fod oedi, gohirio ac aneglurder cyffredinol?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Harvey:

 

Fel y cyhoeddais yr wythnos ddiwethaf, y project a ddewiswyd ar gyfer arian adran 106 Parc Tredegar yw'r cynllun beiciau anabl Pedal Power.

 

Gall cyfleusterau chwarae d?r awyr agored ond gael eu defnyddio am ran o’r flwyddyn.  Tra mae beiciau sydd ar gael ar gyfer bob gallu o fudd i’r gymuned gyfan gydol y flwyddyn – ac mae’r project Pedal Power yn rhoi’r un rhyddid i bobl ifanc ac oedolion anabl ag eraill sy’n defnyddio’u beiciau yn y parc hwn.