Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl - Dydd Mawrth, 2ail Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Adolygiadau Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 2020/21 pdf icon PDF 499 KB

Cofnodion:

1.         Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynllun Gwasanaeth 20/21 ar gyfer y Gwasanaethau Addysg  

         

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg drosolwg o'r adroddiad gan ddweud fod mesurau perfformiad yn gysylltiedig â deilliannau disgyblion, gwaharddiadau a phresenoldeb wedi'u dal yn ôl oherwydd y pandemig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dulliau newydd o ddyfarnu graddau i ddysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 felly nid oedd yn briodol cymharu â'r blynyddoedd cynt. Oherwydd y cyfyngiadau cenedlaethol a oedd yn weithredol oherwydd y pandemig roedd olrhain cyrchfannau dysgwyr ôl-16 yn heriol, ac roedd canran y bobl ifanc y tybiwyd eu bod wedi cyrraedd 'cyrchfan anhysbys' ar ôl gadael yr ysgol yn uwch nag yn y blynyddoedd cynt. Serch hynny, roedd data Casnewydd ar gyfer pobl ifanc h?n nag oedran ysgol gorfodol mewn Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn dal i fod yn gryf a chyda'r gorau yng Nghymru.

 

Er gwaethaf y pandemig roedd gwaith sylweddol wedi parhau gan ysgolion ac addysg ganolog a bu cynnydd gyda'r rhan fwyaf o'r camau o fewn y cynllun gwasanaeth. Cafodd pandemig Covid effaith sylweddol ar yr ysgolion, fel y gwelwyd yn y cyfnodau pan fuont ar gau'n llawn, neu'n cynnig dysgu o bell yn unig, yn ogystal â'r ymgyrch fawr i gynnig dulliau dysgu cyfunol fel bo modd i ddisgyblion barhau i ddysgu wrth hunanynysu, naill ai fel unigolion neu fel cohortau o fewn ysgol.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:

 

·         A oedd y Maes Gwasanaeth ar y trywydd i gyrraedd y targed o ran ei gyllideb ac, os ddim, pa fesurau lliniarol oedd ar waith a beth oedd sefyllfa ysgolion unigol penodol?

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed eleni. Bu tanwariant sylweddol y llynedd o bron i ddwy filiwn, a hynny'n bennaf gan na chafodd gwasanaethau trafnidiaeth, lleoliadau y tu allan i'r Sir, clybiau brecwast ac ati, eu defnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddai'r taliadau hynny'n cael eu hailsefydlu eleni, felly rhagamcannwyd y byddai'r gyllideb yn gytbwys.

O ran sefyllfa ysgolion unigol, rhagamcannwyd y byddai gan 4 ysgol ddiffyg wrth gau, ond roedd hyn yn dal i fod yn welliant sylweddol. Roedd un o’r rhain i fod i gau ac uno ag ysgol arall ac roedd y tair arall yn ysgolion Uwchradd a oedd yn cael eu monitro’n agos ac ar y trywydd iawn i leihau eu lefelau gorwariant, Byddai'r rhain yn cael eu monitro'n agos yn rheolaidd i sicrhau bod eu trefniadau cynllunio ariannol yn gadarn heb unrhyw beryg iddynt lithro'n ôl i'r coch.

 

·         Wrth weithredu mewn ffordd wahanol, gofynnodd un o'r aelodau a oedd ysgolion wedi canfod ffyrdd i arbed arian, ac a ellid defnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn o hyn allan?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg Cynorthwyol fod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn archwilio cydweithrediad Ôl-16 i weld a oedd elfennau y gellid eu darparu'n rhithiol. Roedd hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i ysgolion o reidrwydd weithredu ar ffurf y clystyrau cyfredol, ac y gallent o bosib gynnig y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid - Adroddiad Covid 19 pdf icon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn bresennol:

               Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Caroline Ryan Phillips - Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd 

 

 

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad ar y

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a sut yr oedd wedi bod yn gweithredu yn ystod cyfnod y pandemig. Roedd yr Adroddiad ar y Cynllun Adfer yn manylu ar y dull gweithredu a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ers dechrau'r pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am sut yr oedd holl feysydd allweddol y gwasanaeth wedi parhau i gael eu darparu drwy gydol y pandemig. Bu'n flwyddyn anodd a heriol ac roedd y staff wedi mynd i drafferth fawr i ddarparu dilyniant a hefyd i ddatblygu'r gwasanaeth a symud pethau ymlaen. 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

 

       Pa gamau a gymerwyd ym maes cyfiawnder adferol?

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc nad oedd llawer o'r gweithgareddau a ddilynwyd flwyddyn yn ôl wedi gallu parhau yn ystod y pandemig yn anffodus. Fodd bynnag, ni ddefnyddiodd Cyngor Dinas Casnewydd yr hen ddulliau o gosbi, fel casglu sbwriel. Roedd unrhyw weithgaredd yn ystyrlon ac roedd elfen addysgol iddo. Rhoddwyd enghraifft o berson ifanc a gollfarnwyd am achos o losgi bwriadol ac fel rhan o’i gwaith unioni, defnyddiodd ei sgiliau celf i greu poster yn amlygu'r peryglon. Y syniad oedd addysgu'r troseddwyr ifanc fel eu bod yn dysgu o'u cyfnod yn y gwasanaeth cyfiawnder adferol.

 

 

       Dywedodd aelod fod yr adroddiad yn amlygu sut yr oedd yr addasiadau a wnaed yn ystod y pandemig i'w gweld yn gweithio mor effeithiol fel eu bod yn bwriadu parhau ar ôl y pandemig. Holodd hefyd beth oedd yr effaith negyddol o ran bod y gwahanol bartneriaid yn defnyddio gwahanol systemau TG.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd y bu problemau i ddechrau oherwydd y defnydd o wahanol systemau TG ond eu bod wedi'u datrys i ryw raddau. Rydym bellach yn gallu defnyddio’r platfform rhithiol sy’n cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu. Yn ddelfrydol byddem i gyd ar systemau cydnaws ond roeddem wedi llwyddo i oresgyn y rhan fwyaf o rwystrau’n amserol. Roeddem i gyd wedi elwa o gyfarfodydd rhithwir. Erbyn hyn, roedd mwy o bresenoldeb yng nghyfarfodydd rhithwir gorchmynion ôl-lys nag o'r blaen ac wrth symud ymlaen byddem yn parhau i gynnal cyfarfodydd rhithwir o ryw fath. Roedd yn amlwg mai cyfarfodydd cyfunol fyddai'r ffordd ymlaen yn y dyfodol.

 

 

       Gofynnodd aelod pam nad oeddem wedi croesawu cyswllt wyneb yn wyneb â phobl ifanc a'u teuluoedd eto. Mynegodd bryder ei bod yn anodd asesu deinameg teuluol yn llawn gan ddefnyddio dulliau ymgysylltu rhithwir yn unig ac y gallai fod materion diogelu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ein bod wedi parhau i gynnal ymweliadau wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. Roedd yr holl ymweliadau wedi'u cynllunio ymlaen llaw gan gynnal asesiad risg ymlaen llaw i sicrhau bod gan y staff y cyfarpar diogelu personol  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau

Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning.

Cofnodion:

 

       Canmolodd y Pwyllgor faint o wybodaeth am staff y maes gwasanaeth a'u ffordd o weithio a gafwyd. Nodwyd nifer y newidiadau cadarnhaol sy'n deillio o'r ffordd newydd o weithio. Soniwyd nad oedd llawer o wybodaeth am y plant a nifer y plant a'r oedolion ifanc sydd yn y system ar hyn o bryd a'r gwahanol gamau yr oeddent arnynt

. Y gobaith yw y gellid cynnwys mwy o wybodaeth mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

 

       Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod y maes gwasanaeth yn gwybod beth yw'r rhan fwyaf o'r heriau a sut y maent yn gweithio drwyddynt. Canmolodd y Pwyllgor hefyd gryfder y berthynas rhwng y timau a'r cyfeiriad y mae eu gwaith yn ei ddilyn. 

 

       Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch materion TG parhaus gyda phartneriaid, yn enwedig gyda'r Heddlu. Y gobaith oedd y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn fuan.

6.

Forward Work Programme Update

Cofnodion:

Yn bresennol:

- Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

a) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor:

 

Dydd Mawrth 8 Mehefin 2021 am 10am

Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21

-        Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc 

-        Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol

 

Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021 am 10am

Adolygiad Diwedd Blwyddyn Cynlluniau Gwasanaeth 2020/21

-        Addysg 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: 

 

Holwyd am Ganolfan Gyflawni'r Bont (CGB).. Gofynnwyd a allai'r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r CGB wedi bod yn gweithredu a'r nodau adfer ehangach. Dywedodd yr Ymgynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor y byddai'r cais hwn yn cael ei drosglwyddo i'r Tîm Addysg er mwyn i wybodaeth gael ei throsglwyddo i'r Aelodau.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.22 am