Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anne Jenkins Rheolwr Craffu a Llywodraethu
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant ar y pwynt hwn ond datganodd yr aelodau fuddiant personol ar yr adegau priodol yn ystod y cyfarfod pan gawsant eu henwebu ar gyfer penodiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiad y Llywydd To make an appointment to the new post of Presiding Officer Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Agorodd y Prif Weithredwr y cyfarfod yn ffurfiol gan wahodd enwebiadau ar gyfer penodi'r aelod llywyddol.
Enwebodd y Cynghorydd Mudd y Cynghorydd Cockeram fel aelod llywyddol ac eiliwyd hyn.
Datganodd y Cynghorydd Cockeram ddatganiad o fuddiant ar y pwynt hwn.
Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill. Rhoddwyd y cynnig i bleidlais a chafodd ei dderbyn.
Penderfynwyd: Bod y Cynghorydd Cockeram yn cael ei benodi yn Aelod Llywyddol y Cyngor.
Yna cymerodd y Cynghorydd Cockeram y gadair am weddill y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi’r Dirprwy Lywydd To make an appointment to the new post of Deputy Presiding Officer Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd yr aelod llywyddol enwebiadau ar gyfer penodi’r dirprwy aelod llywyddol.
Enwebodd y Cynghorydd Mudd y Cynghorydd Trevor Watkins fel dirprwy aelod llywyddol ac eiliwyd hyn. Datganodd y Cynghorydd Watkins ddatganiad o fuddiant ar y pwynt hwn.
Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill. Rhoddwyd y cynnig i bleidlais a chafodd ei dderbyn.
Penderfynwyd: Bod y Cynghorydd Watkins yn cael ei benodi yn Ddirprwy Aelod Llywyddol y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiad i Arweinydd y Cyngor To make an appointment to the post of Leader of the Council.
The Leader as elected may then announce their appointment of Cabinet Members if they so wish. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Mudd ddatganiad o fuddiant ar y pwynt hwn.
Cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Evans y dylid penodi'r Cynghorydd Mudd yn arweinydd y Cyngor.
Penderfynwyd:
Bod y Cynghorydd Jane Mudd yn cael ei phenodi yn arweinydd y Cyngor.
Cyhoeddodd yr arweinydd, ar ôl ei hethol, yr aelodau Cabinet:
Rheolwr Busnes y Cyngor – Y Cynghorydd James Clarke Prif Chwip y Gr?p – Y Cynghorydd Emma Corten
Yna cyhoeddodd y Cynghorydd Evans benodiadau'r cabinet cysgodol.
Llefarwyr yr wrthblaid:
Ar y pwynt hwn, manteisiodd yr arweinydd ar y cyfle i gyhoeddi aelodau newydd y Gr?p Llafur, gan gynnwys aelod gwyrdd cyntaf erioed Casnewydd, y Cynghorydd Lauren James o’r Blaid Werdd.
Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Evans ei Aelod Ceidwadol newydd i'r Cyngor.
Cyflwynodd y Cynghorydd Allan Morris ei gydweithwyr yn Ward Llyswyry i'r Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Cadeiryddion Pwyllgorau To appoint Chairs to the Planning, Licensing, Scrutiny and the Democratic Services Committees. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn enwebiadau gan arweinwyr eu pleidiau, ac ar ôl i’r enwebiadau gael eu heilio'n briodol, penderfynwyd bod y Cyngor yn cytuno ar benodi'r canlynol yn gadeiryddion pwyllgorau:
(Datganodd yr unigolion enwebedig a restrir uchod ddatganiad o fuddiant mewn perthynas â'r eitem hon ac ni wnaethant bleidleisio ar eu penodiadau penodol.) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Bwyllgorau To give effect to appointments of members to Committees by the political groups. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithredodd y Cyngor y penodiadau i bwyllgorau gan y grwpiau gwleidyddol.
Cytunodd pob arweinydd gr?p i drosglwyddo enwau'r aelodau a benodwyd i'r pwyllgorau i'r swyddog priodol i'w cofnodi yn y cofnodion.
Cadarnhawyd y dyraniad canlynol o seddau'r pwyllgorau:
* Cadeirydd i'w benodi gan y pwyllgor
Y Pwyllgorau Craffu:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Lwfansau Aelodau 2022/2023 PDF 111 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr arweinydd yr adroddiad i'r Cyngor. Roedd yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu a chyhoeddi cynllun lwfansau i aelodau ar gyfer y flwyddyn ddinesig gyfredol, yn seiliedig ar y cyflogau a ragnodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Sefydlwyd corff statudol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gan Lywodraeth Cymru i bennu lefel briodol y taliad a delir i aelodau etholedig yng Nghymru.
Cyhoeddodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ei adroddiad blynyddol ym mis Chwefror eleni, ond ni ddaeth yr argymhellion ar gyfer 22/23 i rym tan ar ôl yr etholiadau lleol. Felly, roedd angen i'r Cyngor fabwysiadu'r argymhellion hynny yn ffurfiol a chymeradwyo'r lwfansau ar gyfer 22/23.
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu y dylai cyflogau blynyddol sylfaenol aelodau etholedig ar gyfer 22/23 gael eu hailseilio ar £16,800 i gymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn chwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf ac i sicrhau bod taliad yn gysylltiedig â lefelau cyflog cyfartalog. Cynyddwyd uwch-gyflogau hefyd a'u hailosod yn unol â chymaryddion perthnasol. Nid oedd unrhyw ddisgresiwn ynghylch swm y cyflogau gan eu bod yn cael eu pennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Byddai’r codiadau mewn cyflogau sylfaenol yn dod i rym o 9 Mai 2022. Byddai’r taliad ychwanegol ar gyfer uwch-gyflogau yn daladwy o heddiw ymlaen, yn dilyn y penodiadau cynharach. Byddai enwau deiliaid yr uwch-gyflogau perthnasol yn cael eu hychwanegu at y rhestr cyn ei chyhoeddi.
Cynigiodd yr arweinydd yn ffurfiol i fabwysiadu'r Cynllun Lwfansau ar gyfer 22/23. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y Cyngor yn cymeradwyo a mabwysiadu Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 22/23 fel y nodir yn Atodiad 1 i Becyn yr Agenda. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Dirprwyo Swyddogion PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr arweinydd yr adroddiad i'r Cyngor. Roedd cyfansoddiad y Cyngor yn cynnwys cynllun dirprwyo helaeth i'r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr Strategol a Phenaethiaid Gwasanaethau, a oedd wedi eu hawdurdodi i allu gwneud penderfyniadau gweithredol a chyflawni swyddogaethau statudol penodol ar ran y Cyngor.
Roedd y Cynllun Dirprwyo Swyddogion wedi'i ddiweddaru o bryd i'w gilydd, i adlewyrchu newidiadau yn y strwythur o ran uwch-reolwyr ac adlewyrchu ailddyrannu rolau a chyfrifoldebau. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Hydref 2020, yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Ers hynny, cytunodd y Cyngor ar strwythur uwch-reolwyr newydd gyda Chyfarwyddwyr Strategol a Phenaethiaid Gwasanaethau newydd. Roedd yr ailstrwythuro hwnnw mewn perthynas ag uwch-reolwyr bellach wedi'i roi ar waith ac roedd newidiadau sylweddol o ran rolau a chyfrifoldebau ac ad-drefnu gwasanaethau. Roedd angen felly newid y cynllun dirprwyo swyddogion i adlewyrchu'r newidiadau rheoli hyn. Roedd y cynllun dirprwyo diwygiedig ynghlwm wrth yr adroddiad ac, wedi iddo gael ei fabwysiadu, byddai'n cael ei gynnwys yn Atodiad 3 i'r cyfansoddiad newydd.
Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol i'r cynllun dirprwyo blaenorol ond trosglwyddwyd y cyfrifoldeb, lle bo'n briodol, i'r Pennaeth Gwasanaeth newydd, a gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a theitlau swyddi a oedd wedi'u diweddaru.
Cynigiodd yr arweinydd fod y Cyngor yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r cynllun dirprwyo diwygiedig ar gyfer swyddogion. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y Cyngor yn cytuno i'r diwygiadau arfaethedig ar gyfer y Cynllun Dirprwyo ar gyfer Swyddogion a'u mabwysiadu o dan Ran 3 o Atodiad 3 i Gyfansoddiad y Cyngor fel y nodir ym Mhecyn Agenda'r Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheolau Sefydlog y Cyngor a Threfniadau ar gyfer Cyfarfodydd Aml-leoliad PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr arweinydd yr adroddiad i'r Cyngor. Mae adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd statudol ar holl awdurdodau lleol Cymru i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd “hybrid” neu aml-leoliad ac i ddarlledu’r cyfarfodydd hyn, gan gyhoeddi'r trefniadau ar gyfer hyn.
Roedd cydweithwyr yn ymwybodol bod y Cyngor wedi cynnal cyfarfodydd o bell drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19 a dyma’r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o gynghorwyr allu cyfarfod wyneb yn wyneb yn y siambr hon ers dwy flynedd. Hyd yn hyn, roedd cyfarfodydd o bell yn fater o anghenraid ond, o hyn ymlaen, mater o ddewis personol fyddai cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor o bell.
Roedd dileu holl gyfyngiadau COVID-19 yn golygu y gallai’r Cyngor gyflwyno trefniadau ar gyfer cyfarfodydd hybrid neu aml-leoliad, gan roi'r dewis i aelodau etholedig a chyfranogwyr eraill ynghylch ymuno o bell neu fynychu wyneb yn wyneb. Hefyd, fel rhan o Amcanion Strategol y Cyngor ar gyfer Adferiad wedi COVID-19, cytunwyd ar fodel gweithio newydd ar gyfer aelodau etholedig a staff y Cyngor sy'n seiliedig ar drefniadau gweithio hyblyg. Rhan annatod o'r model gweithio newydd hwn oedd y defnydd o dechnoleg a'r rhyddid i gymryd rhan o bell yng nghyfarfodydd y Cyngor. Byddai'r trefniadau hyn yn helpu i wella amrywiaeth a thryloywder o fewn llywodraeth leol.
Roedd y protocol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn nodi sut roedd y Cyngor yn bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan adrannau 46 a 47 o Ddeddf 2021 mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd, a galw cyfarfodydd a oedd yn cynnwys cyfranogwyr mewn lleoliadau lluosog. Byddai’r rheolau a’r gweithdrefnau a nodir yn Adran 3 o’r ddogfen yn cynnwys y gofynion craidd gorfodol ar gyfer cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol. O'r herwydd, byddent yn rhan o gyfansoddiad cyhoeddedig y Cyngor ac roedd angen eu darllen ar y cyd â Rheolau Sefydlog y Cyngor sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd.
Roedd Adran 4 yn nodi polisi cyfarfodydd aml-leoliad ehangach y Cyngor, a oedd yn adlewyrchu'r egwyddorion deddfwriaethol cyffredinol yn Adran 3, ac yn nodi arferion a gweithdrefnau manylach i sicrhau bod cyfarfodydd aml-leoliad yn gweithio'n effeithlon, yn effeithiol ac mewn modd atebol. Byddai'r polisi anstatudol hwn yn destun trosolwg ac adolygiad cyfnodol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a dylid ei ystyried ar y cyd â Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd ehangach y Cyngor.
Diweddarwyd a diwygiwyd Rheolau Sefydlog y Cyngor i adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r trefniadau newydd ar gyfer penodi aelod llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor, yn lle'r maer.
Roedd y trefniadau a pholisi arfaethedig ar gyfer cynnal cyfarfodydd aml-leoliad ynghlwm wrth yr adroddiad hwn, ynghyd â'r Rheolau Sefydlog wedi'u diweddaru. Unwaith y cânt eu cymeradwyo a'u mabwysiadu, byddent wedyn yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r cyfansoddiad diwygiedig.
Cynigiodd yr arweinydd fod y Rheolau Sefydlog a threfniadau diwygiedig ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y Cyngor yn cymeradwyo a mabwysiadu'r Rheolau Sefydlog a threfniadau diwygiedig ar ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Strategaeth Cyfranogiad a Chynllun Deisebau PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr arweinydd yr adroddiad i'r Cyngor. Adroddiad y Cyngor oedd y cam olaf yng ngwaith y Cyngor o ddatblygu Strategaeth Cyfranogiad i gydymffurfio â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu ac ymgynghori ar Strategaeth Cyfranogiad sy’n rhoi cymorth i breswylwyr gymryd mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac annog mwy o amrywiaeth o ran y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Roedd y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y prif gynghorau i annog dinasyddion lleol i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, ac i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y mae’n bwriadu gwneud hyn.
Fel rhan o'r broses ymgysylltu â'r cyhoedd, roedd hefyd yn ofynnol i'r Cyngor lunio a chyhoeddi Cynllun Deisebau, yn nodi sut y gellir cyflwyno deisebau cyhoeddus a sut y bydd y Cyngor yn ymateb.
Roedd y Ddeddf yn annog awdurdodau lleol i fabwysiadu strategaethau sy'n cynnwys trefniadau sy'n addas i'w hamgylchiadau eu hunain ac sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion y rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn rhan annatod o'r gwaith o ddatblygu a llunio'r strategaeth er mwyn llunio'r fersiwn derfynol hon.
Roedd ymgynghoriad â thrigolion Casnewydd yn dangos bod gan drigolion ddiddordeb yn y penderfyniadau y mae'r Cyngor yn eu gwneud ac y byddent yn croesawu cael mwy o lais fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.
Os caiff ei chymeradwyo gan y Cyngor, byddai’r strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg ar wefan y Cyngor erbyn 31 Mai 2022.
Cynigiodd yr arweinydd fod y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus a'r Cynllun Deisebau yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu yn barod i'w cyhoeddi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus a'r Cynllun Deisebau a'u mabwysiadu ac yn cytuno i'w cyhoeddi.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad Tâl a Gwobrwyo 2022/2023 PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Polisi Tâl a Gwobrwyo'r Cyngor ar gyfer y gweithlu yn adroddiad blynyddol yr oedd angen ei fabwysiadu gan y Cyngor. Roedd y polisi hwn yn nodi'r dulliau mewnol ar gyfer talu swyddogion y Cyngor ac yn darparu unrhyw newidiadau ers iddo gael ei fabwysiadu ddiwethaf. Cytunodd y Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Mawrth i argymell bod y polisi yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.
Cymeradwywyd y polisi ddiwethaf ym mis Ebrill 2021 ac nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig iddo eleni, ac eithrio rhai newidiadau terminoleg y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.
Fodd bynnag, tynnodd yr arweinydd sylw at y datganiad blynyddol o’r bwlch mewn cyflog rhwng y rhywiau, a fyddai hefyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Roedd yr arweinydd yn falch o adrodd bod y bwlch cyflog cymedrig wedi gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y bwlch yn 3.6% yn 2019 ac 1.9% yn 2020 ac roedd bellach yn 1.5% yn 2021. Ar hyn o bryd, roedd y bwlch cyflog canolrifol yn 2.0% ar gyfer 2021. Roedd bwlch cyflog y Cyngor rhwng y rhywiau yn parhau i gymharu'n ffafriol â chynghorau eraill ar draws Cymru a'r cyfartaledd o 15.4% yn y DU ond byddai ymdrechion yn parhau i ddileu'r bwlch cyflog rhwng dynion a merched a gyflogir gan y Cyngor.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal archwiliadau cyflog cyfartal a disgwylir y bydd un yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn galendr hon.
Cynigiodd yr arweinydd fod Datganiad Tâl a Gwobrwyo 22/23 yn cael ei gymeradwyo a'i fabwysiadu. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Evans.
Penderfynwyd: Bod y Cyngor yn cymeradwyo Polisi Tâl a Gwobrwyo 2022/23 a'i fabwysiadu.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Appendix 1 Cabinet Member Portfolios Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ATODIAD 2
Portffolios Aelodau Cabinet Mai 2022/2023
Mae'r arweinydd yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau gweithredol ac mae wedi dirprwyo cyfrifoldeb am gyflawni rhai swyddogaethau gweithredol i'r Cabinet yn ei gyfanrwydd ac i aelodau Cabinet unigol, yn unol â'r cynllun dirprwyo hwn.
Mae'r swyddogaethau gweithredol canlynol wedi'u dirprwyo i aelodau Cabinet unigol mewn perthynas â'r portffolios a ddyrannwyd iddynt gan yr arweinydd, fel y nodir yn y tablau isod.
Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch p’un a yw mater yn dod o fewn portffolio penodol, bydd yr arweinydd yn gwneud penderfyniad ynghylch pa aelod Cabinet ddylai wneud y penderfyniad gweithredol hwnnw.
Gwybodaeth gyffredinol ar gyfer holl aelodau’r Cabinet:
Polisïau a Dogfennau Polisi Mae gan bob aelod Cabinet gyfrifoldeb i benderfynu ar unrhyw bolisi neu ddogfennau polisi sy'n ymwneud â'u portffolios a'u diwygio, yn unol â fframwaith polisi a chyllideb y Cyngor. Nid yw hyn yn cynnwys y polisïau a dogfennau hynny a gedwir ar gyfer gwneud penderfyniadau gan y Cyngor, neu a ddirprwyir i'r Cabinet ar y cyd neu i aelodau neu swyddogion unigol eraill y Cabinet. Mae'r holl faterion gweithredol i'w penderfynu gan y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn unol â’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Swyddogion.
Bydd dogfennau polisi yn cynnwys y canlynol: · Strategaethau · Cynlluniau · Dogfennau canllaw neu ddogfennau canllaw atodol · Meini prawf cymhwyster a phatrymau ar gyfer darpariaeth · Amcanion ar gyfer darparu gwasanaeth o fewn y portffolio
Cynllunio Gwasanaeth a Pherfformiad y Gwasanaeth Penderfynu'r cynlluniau gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth o fewn y portffolio, monitro perfformiad yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth, a phenderfynu ar unrhyw gamau gweithredu sy'n codi.
Dogfennau Ymgynghori Penderfynu ar yr ymateb i unrhyw ddogfen ymgynghori fawr neu ddogfen arolygu ffurfiol sy'n benodol i'r portffolio neu'r maes gwasanaeth.
Hysbysiadau Statudol Penderfynu p’un a ddylid hysbysebu, ymgynghori ar neu gyhoeddi unrhyw hysbysiadau neu orchmynion statudol (i'r graddau nad ydynt wedi'u dirprwyo i swyddogion) a gweithredu ar gynigion a hysbysebir yng ngoleuni unrhyw sylwadau a dderbynnir.
Amrywiadau i Gyllidebau Penderfynu ar unrhyw amrywiadau i gyllidebau yn unol â'r Rheoliadau Ariannol a'r cyfansoddiad, gan gynnwys trosglwyddiadau hyd at gyfanswm cyfanredol o £100,000 y flwyddyn neu 10% o’r dadansoddiad o amcanion fel y nodir yn Llyfr y Gyllideb (pa un bynnag yw'r isaf).
Tendrau Penderfynu ar restr gymeradwy neu ddethol o ddarpar dendrwyr ar gyfer cyflenwi nwyddau, deunyddiau neu wasanaethau o fewn y portffolio a phenderfynu p’un a ddylid eithrio contractwyr o restrau cymeradwy neu ddethol.
Grantiau Penderfynu, mewn ymgynghoriad â'r arweinydd, p’un a ddylid derbyn grantiau allanol sydd ar gael sydd angen arian cyfatebol, yn amodol ar dderbyn cadarnhad o'r cyllid sydd ar gael i gwrdd ag unrhyw ymrwymiad gan y Cyngor. Mae'n rhaid i hyn gynnwys unrhyw gostau terfynu gweddilliol i'r Cyngor pan ddaw'r cyllid grant i ben.
Cytuno ar feini prawf, terfynau, cymwyseddau a dosbarthiad o fewn cynlluniau ar gyfer cymorth grant mewn perthynas â gwasanaethau o fewn y portffolio a phenderfynu p’un a ddylid hepgor amodau sy'n ymwneud â chymorth grant.
Rhoi grantiau neu ddarparu cymorth i sefydliadau neu unigolion, lle mae swm y grant yn £20,000 ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Appendix 2 Appointments to Outside Bodies Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ATODIAD 2 – CYRFF ALLANOL
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gohiriad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd yr aelod llywyddol fod hyn yn dod â busnes ffurfiol y Cyngor yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol i ben, gan ddod â rhan gyntaf y cyfarfod i ben am 4.45pm. Gwnaeth y cyfarfod ailymgynnull ar ôl gohiriad byr ar gyfer seremoni urddo'r maer. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Urddo'r Maer 2022/23 Dogfennau ychwanegol: |