Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/16 - Cefnogi Busnesau Bach ac Annibynnol Cofnodion:
Fodd
bynnag, o ran sut rydym yn cefnogi busnesau lleol, efallai eich bod
yn ymwybodol bod gennym gronfa Datblygu Busnes Dinas Casnewydd ar
gyfer busnesau newydd a rhai sy’n ehangu ac mae Llywodraeth
Cymru wedi darparu rhyddhad ardrethi busnes o 50% ar gyfer busnesau
cymwys ar gyfer 2022/23. Ym mis Mawrth eleni hefyd, cyhoeddodd y Cabinet ein cynllun rhyddhad ardrethi ein hunain sy'n rhoi gostyngiad pellach o 25%, sy'n golygu yn y rhan fwyaf o achosion bydd busnesau cymwys ond yn talu 25% o'u bil ardrethi cyfan ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn arbediad ariannol sylweddol a’r gobaith yw y bydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd i orbwyso costau gweithredu eraill.
|