Gofynnodd y Cynghorydd M Howells:
Mae'nsi?r y byddwch
yn ymwybodol bod Cartrefi
Dinas Casnewydd ('CDC') yn bwriadu uno â
Chymdeithas Dai Melin Homes
ar hyn o
bryd. Cyn 2007, roedd Cyngor Dinas
Casnewydd yn berchen ar oddeutu 8000 o
gartrefi rhent cymdeithasol
ledled y ddinas. Er mwyn
buddsoddi yn yr eiddo
i fodloni
Safonau Ansawdd Tai Cymru, penderfynodd y Cyngor
drosglwyddo ei holl stoc a sefydlu
Cymdeithas Dai newydd, CDC er mwyn
gwneud hynny. Roedd
cyfansoddiad gwreiddiol bwrdd CDC
yn golygu
bod Cyngor Dinas Casnewydd yn
cael ei
gadw fel
cyfranddaliwr ac y gallai benodi 5
aelod o’r bwrdd
(traean o'r
bwrdd). Roedd hyn yn golygu bod y
Cyngor yn
parhau i
oruchwylio’r ffordd yr oedd CDC
yn gweithredu ac y gallai
sicrhau bod gwasanaethau tai yn
cael eu
darparu i
bobl Casnewydd yn y
ffordd yr oedd y Cyngor
yn ei
bwriadu. Yn 2017 daeth i'r amlwg bod CDC wedi
newid ei
reolau a thynnu’r Cyngor
fel cyfranddaliwr a'i
hawl i
benodi traean o aelodau'r
bwrdd.
Ar stepen y
drws ac mewn cyfarfodydd ward
rwy'n clywed mwy a
mwy o rwystredigaeth gydag
ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan CDC
i'n trigolion.
1. Pam y caniatawyd i CDC
dynnu statws cyfranddaliwr y
Cyngor a'i
hawl i
benodi aelodau'r bwrdd
yn 2017 i
oruchwylio eu gwaith?
2. Beth mae'r Aelod Cabinet yn
ei wneud
i sicrhau
bod Cyngor Dinas Casnewydd yn
cadw rhywfaint o ran yn y
gwaith o oruchwylio’r sefydliad newydd a
fydd yn
cael ei
ffurfio drwy uno CDC a Melin.
3. Pa sicrwydd sydd
wedi'i gynnig i Gyngor Dinas Casnewydd
y bydd y sefydliad newydd
yn chwarae
ei rôl
wrth gefnogi'r Cyngor
i gyflawni
ei swyddogaethau tai a digartrefedd statudol.
4. Beth all trigolion ei
ddisgwyl o'r uno rhwng CDC a
Melin?
Ymatebodd y Cynghorydd Adan gan
ddweud y canlynol:
Cytunwydar y newidiadau
gan y Cyngor llawn
ar 26 Medi 2017.
Mae'rCyngor wedi
cael gwybod
y bydd y sefydliad newydd
yn darparu
mwy o gartrefi a gwell
gwasanaethau i denantiaid ac y
bydd yn
parhau i
fod yn
ymrwymedig i weithio gyda Chyngor Dinas
Casnewydd i
gyflawni ein nodau strategol.
Mae'rddau sefydliad
yn parhau
i weithio'n
agos gyda'r
Cyngor drwy
ein trefniadau partneriaeth
strategol sefydledig i
ddarparu mwy o gartrefi
fforddiadwy mewn cyfnod o
bwysau sylweddol.
|