Dal y Gweithrediaeth i Gyfrif am ei pherfformiad o fewn
Cyfarwyddiaeth Pobl.
Tri maes cyffredinol: Perfformiad, Cyllideb a
Risg
Monitro
perfformiad, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
• Cyflawni canlyniadau a chamau gweithredu o fewn
cynlluniau gwasanaeth;
• Craffu ar gynnydd mewn gwelliannau i feysydd
perfformiad gwael;
• Asesu i ba raddau y mae amcanion perfformiad yn
cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y
Cyngor.
• Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cyd-fynd
â'r strategaeth rheoli perfformiad;
Monitro'r Gyllideb
• Craffu ar amrywiannau yn y gyllideb;
• Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cael ei gyflawni
o fewn y gyllideb;
• Adolygu'r canlyniadau a chyflawni cynlluniau arbedion y
cytunwyd arnynt;
Cynigion Cyllideb
• Craffu ar gynigion sy'n benodol i'r Maes Gwasanaeth fel
rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb;
• Asesu effaith ddisgwyliedig cynigion y gyllideb ar
wasanaethau, perfformiad, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaethau a
lefelau staffio;
• Ystyried cyfraniad cynigion y gyllideb at gyflawni
blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol;
• Ystyried cynigion y gyllideb yng nghyd-destun lles
cenedlaethau'r dyfodol, effaith tegwch a chydraddoldeb,
cynaliadwyedd, trefniadau partneriaeth a'r agenda
effeithlonrwydd;
• Ystyried i ba raddau y mae arbedion yn rhan o
strategaeth gydlynol a ategir gan dystiolaeth briodol ar gyfer
gwneud penderfyniadau.
Risg
• Monitro meysydd risg uchel ac asesu effeithiolrwydd
camau gweithredu i liniaru'r risgiau hyn.
|