Dal y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn atebol am ei berfformiad.
•
Fel Pwyllgor
Craffu dynodedig y BGC:
a)
adolygu neu
graffu ar y penderfyniadau neu’r camau gweithredu a wneir gan
y Bwrdd;
b)
adolygu neu
graffu ar drefniadau llywodraethu’r Bwrdd;
c)
gwneud
adroddiadau neu argymhellion i’r Bwrdd yngl?n â’i
swyddogaethau neu ei drefniadau llywodraethu;
d)
ystyried materion
sy’n ymwneud â’r Bwrdd fel y gall Gweinidogion
Cymru gyfeirio ato ac adrodd i Weinidogion Cymru yn
briodol;
e)
cyflawni
swyddogaethau eraill mewn perthynas â’r Bwrdd a osodir
arno gan y Ddeddf.
•
Cynnal perthynas
ragweithiol a chadarnhaol â’r BGC;
•
Monitro
perfformiad y BGC yn erbyn cynlluniau a blaenoriaethau
partneriaethau fel rhan o’r cylch perfformiad;
•
Sicrhau
atebolrwydd democrataidd a chraffu ar waith y Bwrdd;
•
Defnyddio pwerau
deddfwriaethol yn ôl yr angen i roi cyd-drefniadau ar waith,
gan gynnwys ‘cyfethol’ unigolion nad ydynt yn
aelodau’r awdurdod i fod yn rhan o’r pwyllgor yn
ôl y gofyn.
Ystyriaethau
allweddol:
•
Perfformiad y BGC yn erbyn
amcanion cytunedig;
•
Effeithiolrwydd trefniadau
llywodraethu, gan gynnwys rheoli cyllidebau, trefniadau ymgynghori,
gweithdrefnau caffael, rheoli risgiau, rheoli perfformiad a
threfniadau atebolrwydd;
•
Craffu ar gyfraniad y Cyngor
at y bartneriaeth;
•
Gwerthuso effeithiolrwydd
cyffredinol y bartneriaeth;
•
Sicrhau ymgysylltu
â’r cyhoedd a phartneriaethau a strategaethau
sy’n seiliedig ar y dinesydd;
•
Cynnal ymgynghoriad ffurfiol
ar ddogfennau allweddol yn ôl y gofyn.
|