Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl

Mae'r dudalen hon un rhestru'r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl.

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Pobl

Caiff y Pwyllgor hwn ei recordio, ond ni chaiff ei ddarlledu. Mae croeso i'r cyhoedd ddod i'r cyfarfodydd yn bersonol a gellir gweld lleoliad pob cyfarfod ar ei dudalen we a'i agenda. Bydd recordiadau o gyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu rhoi ar y wefan cyn gynted â phosib ar y ddolen hon. Gellir gweld recordiadau cyn mis Mai 2024 yma.

 

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad — Pobl

Dal y Gweithrediaeth i Gyfrif am ei pherfformiad o fewn Cyfarwyddiaeth Pobl.

Tri maes cyffredinol: Perfformiad, Cyllideb a Risg

 

Monitro perfformiad, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

• Cyflawni canlyniadau a chamau gweithredu o fewn cynlluniau gwasanaeth;

• Craffu ar gynnydd mewn gwelliannau i feysydd perfformiad gwael;

• Asesu i ba raddau y mae amcanion perfformiad yn cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor.

• Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cyd-fynd â'r strategaeth rheoli perfformiad;

 

Monitro'r Gyllideb

• Craffu ar amrywiannau yn y gyllideb;

• Asesu i ba raddau y mae perfformiad yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb;

• Adolygu'r canlyniadau a chyflawni cynlluniau arbedion y cytunwyd arnynt;

 

Cynigion Cyllideb

• Craffu ar gynigion sy'n benodol i'r Maes Gwasanaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb;

• Asesu effaith ddisgwyliedig cynigion y gyllideb ar wasanaethau, perfformiad, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaethau a lefelau staffio;

• Ystyried cyfraniad cynigion y gyllideb at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol;

• Ystyried cynigion y gyllideb yng nghyd-destun lles cenedlaethau'r dyfodol, effaith tegwch a chydraddoldeb, cynaliadwyedd, trefniadau partneriaeth a'r agenda effeithlonrwydd;

• Ystyried i ba raddau y mae arbedion yn rhan o strategaeth gydlynol a ategir gan dystiolaeth briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

 

Risg

• Monitro meysydd risg uchel ac asesu effeithiolrwydd camau gweithredu i liniaru'r risgiau hyn.

Hysbysu’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu am ei raglen waith a'i gweithrediad parhaus.

Ymgymryd ag archwiliad manwl neu adolygiad o berfformiad maes gwasanaeth lle bo angen.

Monitro’r broses o weithredu unrhyw argymhellion a wneir i'r Cabinet mewn perthynas â pherfformiad y maes gwasanaeth.