Agenda item

Canllaw ar y Cyfansoddiad

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau drosolwg byr o'r gofyniad i'r awdurdod lleol gyhoeddi'r canllaw newydd ar y cyfansoddiad a fydd ar gael i’r cyhoedd a fersiwn symlach o'r cyfansoddiad, na fydd yn ddogfen dechnegol fel y gall aelodau'r cyhoedd ryngweithio ac ymgysylltu â'r ddogfen.

 

Pwysleisiwyd ei fod yn ganllaw statudol drafft, model a luniwyd gan Lywodraeth Cymru a bod y swyddogion wedi crynhoi llawer o wybodaeth o'r cyfansoddiad i ddogfen lai. Mae gan y canllaw lawer o hyperddolenni a fyddai'n cyfeirio aelodau'r cyhoedd at y rhannau hynny o'r cyfansoddiad/polisïau yr hoffent eu cyrchu.

 

Cafodd aelodau wybod bod yn rhaid i'r Cyngor fod wedi mabwysiadu a chyhoeddi'r canllaw ar y cyfansoddiad cyn gynted â phosib ar ôl Mai 2022 i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, felly yn anffodus ni fyddai digon o amser ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Awgrymwyd i'r Pwyllgor y gallent argymell i'r Cyngor ym mis Tachwedd y dylid mabwysiadu'r ddogfen hon fel dogfen gychwynnol i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth ond cytuno i adolygu'r ddogfen yn gyson a'i gwella wrth iddynt fynd ymlaen drwy’r flaenraglen waith. Gallai ymgynghoriad cyhoeddus wedyn gael ei gynnal fel rhan o'r adolygiad o'r canllaw.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:

 

-        Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine o ran adborth y cyhoedd; pwy fyddai'r grwpiau ehangach yr ymgysylltir â nhw a phryd fyddai'n debygol i'r pwyllgor gael y rhan gyntaf honno o adborth y cyhoedd.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth mai mater llwyr i aelodau'r pwyllgor yw penderfynu ar sut maen nhw'n dymuno ymgysylltu. Mae gan gynghorwyr wahanol ffyrdd o ymgynghori gyda'r cyhoedd, fel holiaduron ar-lein a allai fod yn rhywbeth y gallant ei ychwanegu at y flaenraglen waith.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Democrataidd a Gwasanaethau Etholiadol bod yr awdurdod, ym mis Mai, wedi mabwysiadu'r Strategaeth Cyfranogi er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n nodi sut y gall y Cyngor ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae’n cynnwys amcanion allweddol a'r adborth oedd eu bod wedi gwneud llawer i ymgysylltu ar-lein ac ymchwilio i sut i gyrraedd grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd. Soniwyd y gallent bob amser ddod â hynny yn ôl i bwyllgorau'r dyfodol i roi’r diweddaraf i'r Aelodau.

 

-        Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at ran 4.5 ar dudalen 29 lle mae'n nodi y gall Cynghorwyr ofyn am bleidlais wedi'i chofnodi. Gofynnodd yr Aelod i'r swyddogion egluro faint o Gynghorwyr fyddai eu hangen er mwyn gwneud pleidlais wedi'i chofnodi.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau ei bod yn datgan yn rheolau sefydlog y Cyngor bod angen pump o Gynghorwyr. Soniwyd bod y Rheolau Sefydlog yn rheoleiddio ymddygiad cyfarfodydd a'u bod wedi'u bwriadu ar gyfer Cynghorwyr, nid ar gyfer aelodau'r cyhoedd.  Felly, nid oedd angen ailadrodd y lefel hon o fanylion yn y canllaw cyhoeddus ar y cyfansoddiad.

 

-        Roedd y Cynghorydd Hourahine o'r farn y byddai egluro’r nifer yn helpu pawb sy’n darllen y ddogfen a chyfeiriodd hefyd at dudalen 34 yngl?n â'r Pwyllgor Safonau lle nad yw cyn-gynghorwyr yn cael eistedd ar y pwyllgor hwnnw ond nid yw'n datgan hynny yn y ddogfen.

 

Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth egluro bod y ddogfen yn ganllaw symlach ac mae'r Cyngor wedi ceisio ei chadw mor gryno â phosib. Gwnaed ymddiheuriadau os yw'r Aelodau'n teimlo eu bod wedi tynnu'r manylion y maen nhw'n credu sy'n berthnasol.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y wybodaeth ar y mater dan sylw wedi'i nodi yn y cyfansoddiad ei hun ond ailadroddodd na all swyddogion gynnwys llawer o fanylion ar gyfer pob pwyllgor a sut y maent i gyd yn gweithredu gan mai trosolwg yn unig dylai’r ddogfen fod. Os hoffai unigolion wybod y rheolau, byddent wedyn yn cael eu cyfeirio at ran berthnasol y cyfansoddiad.

 

-        Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at dudalen 57, lle pe bai Aelod yn codi mater gyda Phwyllgor Rheoli Craffu Trosolwg, nid oes mecanwaith i weld sut y byddai hynny'n cael ei gyflawni. Gofynnwyd a yw hyn yn rhywbeth newydd.

 

Mewn ymateb, fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaeth gynghori Aelodau nad yw hyn yn newydd ac mae hynny'n mynd yn ôl i'r Ddeddf wreiddiol o 2000. Mae Cynghorwyr unigol wastad wedi cael yr hawl i gymryd materion o'u dewis i’r pwyllgor graffu, gall yr aelodau ofyn am eitemau ar gyfer y rhaglen waith.

 

-        Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine a fu atgyfeiriad a phleidlais erioed.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaeth egluro bod yr hawl i gyfeirio wedi cael ei defnyddio'n achlysurol yn y gorffennol. Fel arfer byddai'r pwyllgor yn dewis y materion yr hoffen nhw eu trafod ar y cyd. Pwysleisiwyd bod cyfle i Gynghorwyr unigol godi'r fath faterion y gellir eu trafod gyda chadeiryddion pwyllgorau perthnasol.

 

-        Dywedodd y Cadeirydd fod y broses galw i mewn ar gyfer penderfyniadau Aelodau’r Cabinet wedi bod yno erioed.

 

Esboniodd y Swyddog Arweiniol bod proses galw i mewn wedi bodoli erioed ond dim ond ar gyfer penderfyniadau anghyfreithlon neu gyfansoddiadol.  Does gennym ni ddim proses galw i mewn ar deilyngdod y penderfyniad. Mae gwahaniaeth bach iawn yn y ffordd y mae system galw i mewn Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio. Diolch i'r drefn ni chafwyd erioed alwad i mewn llwyddiannus gan na ddylid gadael penderfyniadau drwodd os ydynt yn anghyfreithlon neu'n anghyfansoddiadol. Mae gan Gasnewydd system gynhwysfawr o ymgynghori cyn penderfyniad fel y gall pob Aelod weld yr adroddiad a chael cyfle i wneud sylwadau ar y penderfyniad cyn iddo gael ei wneud.

 

-        Mynegodd y Cynghorydd Watkins ei bryder fod y Pwyllgor wedi cael cais am fabwysiadu'r adroddiad drafft ym mis Tachwedd, gan ei fod yn teimlo nad ydyn nhw'n gwybod pa ddeddfwriaeth fyddai'n dod ymlaen wedi hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth yr Aelod fod y ddeddfwriaeth eisoes mewn grym ac eglurodd fod y swyddogion yn argymell bod yr Aelodau yn ei fabwysiadu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Gan fod yr awdurdod yn aros am ganllawiau terfynol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, cafodd Aelodau sicrwydd bod y swyddogion wedi cael y canllaw drafft ers tro. Pwysleisiwyd bod y ddogfen yn ddeinamig ac awgrymodd y Swyddog y gallai'r Pwyllgor barhau i’w adolygu.

 

Os byddai unrhyw newid yn y canllawiau, byddai'r swyddogion yn ei gyflwyno i’r pwyllgor i’w drafod.

 

-        Gofynnodd y Cynghorydd Watkins a all y canllaw ddod i'r pwyllgor i’w gymeradwyo cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor. Cytunodd y Cadeirydd i'r awgrym.

Nododd aelodau'r Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a'i gymeradwyo i'w drosglwyddo i'r Cyngor llawn i'w fabwysiadu ym mis Tachwedd.

 

Dymunai'r Pwyllgor wneud yr argymhelliad canlynol:

 

Cymeradwyo’r canllaw drafft ar y Cyfansoddiad a'i gyfeirio at y Cyngor i'w fabwysiadu.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: