30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.
Cofnodion:
wybodaethddiweddaraf i aelodau’r cyngor am faterion yr Heddlu yn Nwyrain, Gorllewin a Chanol Casnewydd.
Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd ofyn cwestiwn i'r Prif Arolygydd Lawton.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Arolygydd am gefnogaeth a gafwyd gan yr Heddlu ar gyfer y digwyddiadau a gynhaliwyd gan y Cyngor, fel yr ?yl Fwyd, Sul y Cofio a dathliad goleuadau'r Nadolig.
Ar ran aelodau'r ward a'r trigolion, diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Arolygydd am bresenoldeb parhaus yr Heddlu yn Ward Malpas, yn arbennig, o amgylch Ffordd Pillmawr dros yr wythnos ddiwethaf.
Cwestiynau i’r Heddlu a godwyd gan y Cynghorwyr:
§ Gofynnodd y Cynghorydd Morris a oedd unrhyw newyddion ynghylch canllawiau gan Senedd y Deyrnas Unedig ar feiciau trydan Wrth i'r Nadolig nesáu, roedd ymgyrch diogelwch lleol yn cael ei lansio i annog rhieni i brynu cyfarpar diogelwch a llyfr cod y ffordd fawr wrth brynu e-feic er mwyn diogelu plant ifanc. Roedd y Cynghorydd Morris a chydweithwyr y ward wedi cyfarfod â Jessica Morden, AS y DU a'r Heddlu. Dywedodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu yn dal i ddisgwyl am wybodaeth.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y ffaith bod Ceiswyr Lloches a ffoaduriaid yn cael eu lleoli yng Nghasnewydd heb i'r heddlu gael gwybod am hynny. Gan nad oedd hyn yn peri problem yn achos y rhan fwyaf o leoliadau, ond gallai pobl â chefndiroedd troseddol fod yn cael eu lleoli yn y ddinas. A allai'r Heddlu wneud unrhyw beth i unioni hyn? Dywedodd y Prif Arolygydd fod yr Heddlu, yn ogystal â'r Awdurdod Lleol, yn cael gwybod gan y Swyddfa Gartref os oedd unrhyw droseddwr yn cael ei leoli yma. Roedd yr Heddlu yn dibynnu ar y Swyddfa Gartref i dderbyn yr wybodaeth hon.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Cleverly at y tanau diweddar yn ardal Betws. Roedd un digwyddiad yn cynnwys perchennog siop sglodion lleol, lle cafodd ei gar danfon ei roi ar dân, a digwyddiad arall yn cynnwys preswylydd yn Lambourne Hill, lle cafodd ei gar ef hefyd ei roi ar dân. Nid oedd y Prif Arolygydd yn gwybod am hyn, a byddai'n ymchwilio i'r digwyddiadau ac yn adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Cleverly.
§ Mynegodd y Cynghorydd Harvey ddiolch i'r Prif Arolygydd ar ran cydweithwyr a phreswylwyr ward Alway am y mentrau strydoedd diogelach. Darparwyd larymau ffenestr a marciau d?r diogel, a groesawyd gan y preswylwyr. Pan gyflwynwyd y cynnig, dywedodd y Prif Arolygydd mai dyna oedd o swm mwyaf o arian yr oeddent wedi'i dderbyn gan y Swyddfa Gartref. Rhan o'r fenter hefyd oedd ymchwilio i'r achosion wrth wraidd ymddygiad gwrthgymdeithasol a dioddefwyr troseddau.
§ Soniodd y Cynghorydd Whitehead am adroddiad diweddar y Ward, a'i fod wedi sylwi ar gynnydd sydyn mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yn ardal siopa Betws. Roedd yr heddlu wedi addo patrolau, ond nid oedd y preswylwyr am i'r heddlu gynnal patrolau yn yr ardal ddwy neu dair gwaith am gyfnod o wythnos. Byddai'n well gan breswylwyr weld patrolau rheolaidd dros gyfnod hirach. Dywedodd y Prif Arolygydd nad oedd modd cynllunio adnoddau, a bod atebion eraill hirdymor ar gael, a ffyrdd eraill i atal ymddygiad yn hytrach na phatrolau, fel adnabod y rhai a oedd yn troseddu.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Watkins at rai sy'n 'criwsio' mewn ceir, gan ofyn faint a gafodd eu herlyn o'r 120 a riportiwyd. Nid oedd gan y Prif Arolygydd yr wybodaeth wrth law, ond byddai gan y tîm plismona lleol yr wybodaeth honno, felly byddai'r Prif Arolygydd yn adrodd yr wybodaeth honno'n ôl wrth y Cynghorydd Watkins.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd James at achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yr oedd wedi'i weld yn ddiweddar yng ngorsaf fysiau canol y ddinas, gan ddweud y gallai hyn fod yn frawychus i breswylwyr ar adegau penodol o'r dydd. Pa waith oedd yn cael ei wneud er mwyn galluogi preswylwyr i hysbysu'r heddlu am achosion, gan wybod y byddai'r heddlu yn mynd ar drywydd yr achosion hynny. Dywedodd y Prif Arolygydd y byddai'r tîm plismona cymdogaeth yn adolygu galwadau. Roedd Dinas Ddiogel ar waith yn ystod economi'r nos, ond byddai'r Prif Arolygydd yn cysylltu â'r tîm plismona cymdogaeth i drafod digwyddiadau yn ystod y dydd.
§ Mynegodd y Cynghorydd Adan bryder ynghylch cistiau ocsid nitrus. Nid oedd meddu ar y cistiau hyn yn drosedd. Pa fesurau oedd ar waith gan yr heddlu yn gysylltiedig â defnyddio'r cistiau hyn a'u cyflenwi fel cyffur adloniant, a hefyd i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol? Dywedodd y Prif Arolygydd y byddai swyddogion cyswllt ysgolion yn mynd ar drywydd hyn, ac roedd y prif waith yn gysylltiedig â hyn yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hi'n bwysig creu cysylltiadau â'r ysgolion i addysgu plant ynghylch sylweddau a reolir yn ogystal â sylweddau anghyfreithlon.
§ Diolchoddyr Aelod Llywyddol i'r Prif Arolygydd a'r Rhingyll Turner am gyfarfod llwyddiannus â Wardiau Shaftesbury, Malpas a Betws, a oedd yn fuddiol iawn, a gobeithiai y byddai'r cyfarfodydd yn parhau. Yn olaf, diolchodd yr Aelod Llywyddol i'r Prif Arolygydd Lawton am fod yn bresennol yn y cyfarfod.