Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyn dechrau ateb y cwestiynau, gwnaeth yr Arweinydd y cyhoeddiadau canlynol:

 

Y Nadolig a Sadwrn Busnesau Bach

Ddydd Sadwrn diwethaf, cynhaliwyd digwyddiad Cyfrif i Lawr at y Nadolig yng nghanol y ddinas. Roedd hi'n anhygoel gweld cynifer o bobl yn dod ynghyd i nodi dechrau dathliadau'r ?yl. Diolch i Casnewydd NAWR ac i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y prynhawn.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai eleni'n flwyddyn anodd i lawer - unigolion a busnesau fel ei gilydd, a pharhaodd i annog pobl i siopa'n lleol a gwario'n ddoeth. 

 

I'r perwyl hwnnw, roedd y Cyngor hefyd yn cefnogi'r Sadwrn Busnesau Bach a fyddai'n cael ei gynnal ddydd Sul 3 Rhagfyr.  Roedd Casnewydd yn ffodus iawn o gael busnesau bach ac annibynnol anhygoel a oedd yn cynnig ystod o wasanaethau a chynnyrch nad oedd modd i'r siopau cadwyn mwy eu hefelychu.

 

Roedd adloniant stryd wedi cael ei drefnu ar gyfer y diwrnod i ychwanegu at yr awyrgylch, a gobeithiwyd y byddai canol y ddinas yn orlawn o bobl yn cefnogi busnesau, ac o bosib yn cael hyd i anrhegion personol ac unigryw.

 

Byddai mwy o newyddion ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gwybodaeth gan ein masnachwyr lleol am eu cynigion arbennig eu hunain.

 

Yr Angel Cyllyll

 

Yng nghanol y ddinas dros y penwythnos, safai Angel Cyllyll trawiadol yn gadarn a Sgwâr Wysg.

 

Rydym wedi cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a ddaeth â'r ffigur goruchel hwn i'r ardal yn rhan o daith genedlaethol i atal trais.

 

Cafodd y cerflun 27 troedfedd ei wneud o fwy na 100,000 o gyllyll, a byddai'n sefyll yng Nghasnewydd hyd ddiwedd y mis, yn symbol amlwg i'n hatgoffa o effeithiau dinistriol trais ac ymddygiad ymosodol.

 

I gefnogi hyn, roedd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ac addysgiadol wedi cael eu trefnu, a'r gobaith oedd y byddai'r Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ac yn cychwyn trafodaethau pwysig.

 

Cymorth gyda chostau byw

 

Yn gynharach yn y mis hwn cynhaliodd y Cyngor ddigwyddiad gwybodaeth costau byw yn theatr Glan yr Afon. Roedd nifer dda iawn o bobl yn bresennol ar y diwrnod, a chyda'i bartneriaid bu modd i'r Cyngor helpu llawer o bobl i dderbyn cymorth a chyngor a oedd yn dyngedfennol dros y cyfnod heriol hwn.

 

Roedd gwaith yn parhau yn gysylltiedig â hyn, a byddai gweithgareddau allgymorth pellach yn cael eu cynnal, ac adran gynghori benodol yn cael ei chynnwys ar wefan y Cyngor. Yn dilyn digwyddiad strategol gyda phartneriaid allweddol, roeddem hefyd yn datblygu ein gwaith cydgysylltiedig â phartneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cymunedau.

 

Diwrnod Hawliau Gofalwyr

 

Eleni byddai Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn cael ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd, ac roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau gofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad i'n cymdeithas.

 

I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, byddai ein tîm cyswllt cymunedol y cynnal digwyddiad gwybodaeth yn Theatr Glan yr Afon, a byddai wrth law rhwng 1pm a 6pm i roi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl o bob oedran a chefndir.

 

Mae gofalwyr yn cyflawni rôl mor bwysig; gallai hynny olygu gofalu am rywun sy'n *****, yn anabl, sy'n profi salwch meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau neu sydd angen ychydig mwy o gymorth wrth heneiddio.[DVX21] 

 

Anogodd yr Arweinydd pwy bynnag a allai fod mewn rôl ofalu i ddod i gwrdd â'r tîm a chael gwybod mwy am y gefnogaeth a'r cyngor a oedd ar gael iddynt.

 

Comisiynydd Trais Domestig - Diwrnod Rhuban Gwyn 25 Tachwedd #33 Her 15 diwrnod o weithredu

 

Cwestiynau i'r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans:

Dros y degawd diwethaf bu mentrau ar waith i ddenu pobl i ganol y ddinas, dros gyfnod y Nadolig, fel digwyddiadau'r Nadolig a Sadwrn Busnesau Bach.  I lawer o fasnachwyr, dyna'r adeg o'r flwyddyn a allai olygu bod eu busnes yn llwyddo neu'n methu, ac roeddent yn dibynnu ar fasnach i oroesi.  Roedd ein cymdogion yn Sir Fynwy yn cynnig parcio am ddim a bysus am ddim ar y penwythnos, yn ogystal â Thorfaen a Chaerffili.  Cawsom fysiau am ddim y llynedd, a pharcio a theithio. Roedd gan Gaerdydd ddau safle winter wonderland. Yng Nghasnewydd byddai preswylwyr yn talu £2.50 i barcio.  Ar sail hyn, beth oedd yr Arweinydd yn ei wneud i annog pobl i ymweld â chanol y ddinas y Nadolig hwn?

 

Ymateb:

Tynnodd yr Arweinydd sylw at y ffaith ei bod wedi derbyn adroddiad Ymwelwyr ar gyfer yr ?yl fwyd, a ddangosai y bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl a ddaeth i ganol y ddinas.  Roedd yr Arweinydd yn edrych ymlaen i weld y ffigurau ar gyfer nifer y bobl a aeth i ddigwyddiad goleuadau'r Nadolig hefyd.  Er hynny, roedd cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei wneud, yn enwedig ar hyn o bryd ac ystyried ein sefyllfa ariannol fel Awdurdod Lleol, a esboniwyd yn glir mewn fideo diweddar.  Adroddwyd yng nghyfarfod diwethaf ein Cabinet fod y Cyngor yn rhagweld £3m o orwariant yn y flwyddyn ariannol hon, a'n bod ar hyn o bryd yn edrych ar ddiffyg o £33m ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Roedd unrhyw gefnogaeth ar ffurf cymhorthdal teithio, fel cyllid gan Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn Burns yn cael ei groesawu, ond nid oeddem yn mynd i gynnig parcio am ddim dros y Nadolig.

 

Atodol:

Roedd Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili a chynghorau eraill cyfagos oll yn wynebu problemau cyllidebol ond yn dal i gynnig parcio am ddim i breswylwyr. Ym mis Gorffennaf adroddwyd tanwariant o £18.5m o'r llynedd. Dyma oedd yr amser pan fyddai cynghorau fel arfer yn edrych ymlaen at gynlluniau'r Nadolig, ac roedd tanwariant o £100,000 yng nghyllideb rheoli canol y ddinas yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Onid oedd hi'n bwysig darparu cludiant am ddim i breswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw, yn ogystal â helpu'r masnachwyr dros gyfnod y Nadolig.

 

Ymateb:

Nid oedd yr Arweinydd yn siarad ar ran cynghorau eraill.  Roeddem yn gyfrifol ac yn atebol am benderfyniadau yng Nghasnewydd. Mae gennym danwariant iach. Fodd bynnag, oherwydd chwyddiant uchel a chostau byw, roedd yna alw ar wasanaethau.  Roedd cost gofal wedi cynyddu'n sylweddol, 1,000 yn fwy o ddisgyblion mewn ysgolion, codiadau cyflog a chostau caffael gan y Cyngor.  Nid preswylwyr yn unig oedd yn profi hyn ond y Cyngor hefyd.  Roedd y Cyngor yn cydweithio â phartneriaid i gynnal digwyddiadau, ond dim ond hyn a hyn y gallem ei wneud, ac ni fyddai parcio am ddim yn flaenoriaeth.  Roedd y newid hinsawdd yn flaenoriaeth.  Roedd y Cyngor yn fwy na pharod i wrando ar unrhyw awgrymiadau am gyllid ychwanegol.  Adroddwyd yn y wasg leol mai Casnewydd oedd y bedwaredd ddinas orau yng Nghymru o ran trefniadau parcio yn ôl data'r ONS, yn nhermau mynediad a chostau.

 

Cynghorydd Whitehead:

Roedd hi'n hollbwysig i gynghorwyr ymdrin â phryderon a phroblemau'r preswylwyr, a chan gadw hynny mewn cof, roedd yn rhaid i gynghorwyr gysylltu â darparwyr gwasanaeth amrywiol.  Yn anffodus, hap a damwain oedd cael ateb gan Wasanaethau Dinas Cyngor Dinas Casnewydd i unrhyw e-bost, ac weithiau gallai gymryd cryn amser i gael ateb. Roedd aelodau hefyd yn cael eu hatal rhag cysylltu'n uniongyrchol â Phenaethiaid Gwasanaeth.

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd fod deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno gerbron y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch presenoldeb swyddogion mewn cyfarfodydd.  Gallai preswylwyr hefyd ddefnyddio Ap Cyngor Dinas Casnewydd a oedd yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gysylltu â'r Cyngor.  Byddai'r Arweinydd hefyd yn gofyn i Bennaeth Gwasanaethau'r Ddinas yn ogystal â'r Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid i gysylltu â'r Cynghorydd Whitehead i drafod sut y gellid gwella gwasanaethau.   


 [DVX21]wall???