Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

        i.           Deputy Leader and Cabinet Member for Education and Early Years

      ii.           Cabinet Member for Community and Wellbeing

     iii.           Cabinet Member for Strategic Planning, Regulation and Housing

    iv.           Cabinet Member for Social Services

      v.           Cabinet Member for Organisational Transformation

    vi.           Cabinet Member for Climate Change and Bio-Diversity

   vii.           Cabinet Member for Infrastructure and Assets

Cofnodion:

Ceir 1 cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Cynghorydd Routley

 

Yng nghyfarfod diweddar y Cabinet, dywedasoch eich bod wedi cael adroddiadau am blant ysgol sy'n crynu gan newyn ac sy'n llwgu mewn rhai ysgolion.

 

Beth ydych chi, Aelod Cabinet, wedi'i wneud i godi'r mater hwn a lliniaru'r dioddefaint.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Davies

 

Diolch ichi am eich cwestiwn, yr wyf yn falch o’i ateb.

 

Rydych chi wedi fy nyfynnu i heb esbonio'r cyd-destun pam fy mod yn siarad am newyn a thlodi ymhlith plant. Roeddwn yn ymateb i'r diweddariad a gyhoeddwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd ar ein hymateb i bwysau allanol sy'n effeithio ar Wasanaethau Cyngor. Mae'r papur yn rhoi disgrifiad eglur o effaith yr argyfwng costau byw ar ein cymunedau.

 

Yn wir, dros y 18 mis diwethaf, mae cymunedau ar draws Casnewydd yn wynebu pwysau ariannol digynsail yn deillio o gynnydd chwyddiant mewn costau ynni, bwyd, morgeisi a rhent, ynghyd â chostau eraill sy'n gysylltiedig â chadw chartref.

 

Ar hyn o bryd, mae sefyllfa ariannol y DU yn dal i fod ar ymyl y dibyn er gwaethaf datganiad yr hydref a gyhoeddwyd y dydd Iau diwethaf, a fydd yn gadael diffyg yng nghyllideb Cymru. Ni fydd yr £1.2 biliwn ychwanegol yn ymdrin â'r cynnydd mewn costau oherwydd y chwyddiant aruthrol, nac yn gwneud iawn am hynny, ac mae'r swm hwnnw mewn gwirionedd £300 miliwn yn llai na'r hyn a bennwyd y llynedd. Ar ben hynny, ar ôl y gyllideb hon dengys gwaith dadansoddi'r OBR yn glir y bydd incwm gwario gwirioneddol yn gostwng i'w lefel isaf ers dechrau cofnodion yr ONS yn 1956. Ar raddfa fyd-eang rydym yn colli tir o gymharu â'n partneriaid economaidd, a phwy sy'n goruchwylio'r llanast yma? Y Torïaid - deuddeng mlynedd o gamreolaeth ac aflerwch. Fel gweinyddiaeth Lafur yng Nghasnewydd, rydym yn gweithio'n galed i gefnogi ein preswylwyr a'u helpu i oroesi dros yr argyfwng hwn mewn costau byw. Rwy'n grediniol na fyddem yn gorfod gwneud hyn pe bai Llywodraeth Lafur mewn grym.

 

Gan ddychwelyd i'm sylwadau yng nghyfarfod y Cabinet wythnos diwethaf, mae'r camau rydym wedi'u cymryd hyd yma yn cynnwys sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen er mwyn helpu teuluoedd i fanteisio ar gymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sesiynau galw heibio yn  Pill ac ar Lan yr Afon lle bu Cyngor Dinas Casnewydd a'i bartneriaid yn rhoi cyngor, cefnogaeth ac arweiniad. Y bwriad yw cydgysylltu cymorth fel bod ein preswylwyr mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt. Cynhaliwyd uwchgynhadledd yn ddiweddar er mwyn gallu cydgysylltu cynlluniau i sicrhau mynediad lleol at fanciau bwyd ac ystafelloedd cynnes yn barod am y gaeaf.

 

Yn fy ateb i'r Arweinydd yn y Cabinet, rhestrais y camau sy'n cael eu cymryd o fewn ein hysgolion i sicrhau bod plant yn cael eu bwydo a bod teuluoedd yn cael cymorth. Mynegais yn glir nad oeddwn, pan gefais fy ethol yn wreiddiol 10 mlynedd yn ôl, yn rhagweld y byddem yn ymweld ag ysgolion ac yn cael fy nghyflwyno i swyddogion cyswllt teuluoedd wedi'u cyflogi drwy gyllid grant i roi cefnogaeth i deuluoedd ar ffurf cyngor ariannol, cyngor tai a chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, ac i gynnig gwasanaeth cwnsela lle bo perthynas rhieni wedi methu.

 

Yn ogystal â hynny, mae ysgolion yn cynnal banciau bwyd yn ogystal â llyfrgelloedd benthyg dillad ysgol lle gellir cyfnewid a rhannu dillad. Mae hyn yn cynnwys cotiau, esgidiau a chitiau ymarfer corff ac weithiau dillad ar gyfer y tu allan i'r ysgol. Rwyf wedi gweld peiriannau golchi fel bod plant yn gallu gwisgo dillad glân wrth i rieni gael trafferth gyda chostau trydan.

 

Yr hyn a ddwedais oedd na all plant ddysgu os ydynt yn llwglyd. Yr hyn a ddwedais hefyd oedd nad esgeulustod neu ddiffyg cariad oedd wrth wraidd hyn, ond bod rhieni yn ei chael hi'n anodd cael arian i roi bwyd ar y bwrdd. Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â budd-daliadau. Mae'r rhieni yn profi tlodi mewn gwaith. Oherwydd hynny mae ein hysgolion cynradd yn rhedeg clybiau brecwast, a llawer erbyn hyn yn agor ynghynt i sicrhau bod rhieni sy'n gweithio yn gallu gadael eu plant i gael eu bwydo cyn dechrau eu diwrnod ysgol.

 

Yn ogystal â hynny, rydym wedi gweld prydau ysgol yn cael eu cynnig am ddim i bawb yn ein hysgolion sylfaen ar hyn o bryd, a'r flwyddyn nesaf bydd hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys cyfnod allweddol 2 ac wedyn ein hysgolion uwchradd. Menter gan Lywodraeth Cymru yr wyf yn falch o’i gweld yn cael ei chyflawni yng Nghasnewydd. Mae ein swyddogion wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ceginau a mannau bwyta yn ein hysgolion yn gallu darparu ar gyfer y niferoedd ychwanegol o blant sy'n elwa ar y ddarpariaeth hon.

 

Rydym yn ffodus yng Nghymru, gan fod ein plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn parhau i gael talebau yn ystod gwyliau'r ysgol, ac mae hyn yn darparu o leiaf £250 o dalebau archfarchnad ychwanegol i gartrefi teuluoedd yng Nghasnewydd.

 

Yn olaf, yn rhan o'n ffocws ar ddarparu i'r rhai mewn tlodi, a'u cefnogi, rwyf wedi gofyn am gael cynnal archwiliad o fewn ein hysgolion o'r modd y caiff cyllid grant ei wario i fynd i'r afael â'r agweddau gwaethaf ar dlodi sy'n amharu ar ddysgu. Rwyf eisoes wedi cael adroddiad interim yn ôl, ac mae rhai prosiectau a mentrau rhagorol yn cael eu cynnal gyda'n hysgolion, ond fy mwriad yw hyrwyddo rhannu arfer da a syniadau newydd.

 

Ar hyn, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'n hathrawon a'r staff cymorth. Maen nhw wir yn mynd y tu hwnt i bob gofyn. Bob dydd maen nhw'n gweld effaith greulon yr argyfwng costau byw diangen hwn ar ein teuluoedd yng Nghasnewydd. Maen nhw'n anhygoel, a'u gwaith nhw sy'n cael effaith ar fywydau ein plant wrth iddyn nhw sicrhau eu bod yn cael bwyd cyn dechrau'r diwrnod ysgol.

 

Atodol:

Nid oedd unrhyw sôn am ddiogelu yn natganiad y Cynghorydd Davies. Roedd gennym ni i gyd ddyletswydd gofal a dylem gydweithio.

 

Ymateb:

Dyfynnodd y Cynghorydd Davies drawsgrifiad o'r sylwadau.  Nid oedd a wnelo hyn ag esgeuluso plant na diffyg cariad, ond roedd yn deillio yn hytrach o ddiffyg adnoddau i blant.

 

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau nac eitemau pellach, ac felly datganodd yr Aelod Llywyddol fod y cyfarfod ar ben.