Agenda item

Cynllyn Corfforaethol

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno a chynnig yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, roedd yn ofynnol i Gyngor Casnewydd ddatblygu mewn modd cynaliadwy i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

 

Roedd hi'n ddyletswydd ar y Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac anstatudol i gefnogi dinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid.   Roedd y Cynllun hwn yn rhoi'r flaenoriaeth i ffocws strategol hirdymor y Cyngor ac yn bodloni gofynion y Ddeddf Llesiant.

 

Cafodd Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor (2022-27) ei ddatblygu drwy gyfres o weithdai rhwng uwch swyddogion ac Aelodau Cabinet y Cyngor.

 

Roedd y Cynllun hwn hefyd yn ystyried y cyfleoedd a'r risgiau byrdymor a hirdymor i'r Cyngor, ei breswylwyr, ei economi a'r amgylchedd. 

 

Wrth ddatblygu'r Cynllun, roedd y Cyngor wedi ymgynghori â phreswylwyr ar themâu'r Amcan Llesiant, ac fe groesawyd y themâu hynny. 

 

Dros y pum mlynedd nesaf, datganiad cenhadaeth Cyngor Casnewydd fyddai gweithio i sicrhau 'Casnewydd uchelgeisiol, decach a gwyrddach i bawb.'

 

I gefnogi’r nod hwn, byddai pedwar Amcan Llesiant yn cael eu gosod i gyflawni’r blaenoriaethau strategol hyn:

 

1.    Yr Economi, Addysg a Sgiliau - Mae Casnewydd yn ddinas sy'n ffynnu ac yn tyfu, sy'n cynnig addysg ardderchog ac yn anelu i gynnig cyfleoedd i bawb.

2.    Yr Amgylchedd a Seilwaith – Mae Casnewydd yn ddinas sy’n ceisio gwarchod a gwella ein hamgylchedd gan leihau ein hôl troed carbon a pharatoi am ddyfodol cynaliadwy a digidol.

3.    Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol o Safon - Mae Casnewydd yn ddinas gefnogol lle mae cymunedau a gofal wrth galon yr hyn a wnawn.

4.    Cyngor Cynhwysol, Teg a Chynaliadwy - Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn sefydliad cynhwysol sy'n rhoi lle creiddiol i werth cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd

 

Byddai'r pum mlynedd nesaf yn heriol wrth inni gydbwyso Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a chyflawni ein blaenoriaethau strategol ar yr un pryd.  Byddai angen i'r Cyngor wneud penderfyniadau arloesol a thrawsnewidiol, ac mae'n rhaid cydnabod nad yw Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu cyflawni'r amcanion hyn ar ei ben ei hun. Dyma pam y cadwyd at egwyddorion allweddol drwy gydol y broses o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol:

 

·         Teg a Chynhwysol - Byddwn yn gweithio i greu cyfleoedd tecach, i leihau anghydraddoldeb yn ein cymunedau, ac i annog ymdeimlad o berthyn.

·         Grymuso - Byddwn yn gweithio gyda chymunedau, grwpiau a phartneriaid ac yn eu cefnogi i ffynnu.

·         Cyngor sy'n gwrando - Bydd barn cymunedau, defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid yn llywio’r gwasanaethau a ddarparwn a’r lleoedd yr ydych yn byw ynddynt.

·         Canolbwyntio ar y Dinesydd - Bydd pawb sy’n gweithio ac yn cynrychioli Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi’r dinesydd yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar werthoedd creiddiol ein sefydliad.

 

Byddai'r Cynllun Corfforaethol hefyd yn cael ei danategu gan raglenni a phrosiectau allweddol gyda'r nod o wella economi a chymunedau Casnewydd a darparu gwasanaethau'r Cyngor.

Byddai pob un o feysydd gwasanaeth y Cyngor yn datblygu cynllun gwasanaeth a fyddai'n amlinellu ei flaenoriaethau strategol ei hun i gefnogi cyflawni Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd a gwella gwasanaethau'r Cyngor yn barhaus.

 

Er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni, byddai Cynlluniau Gwasanaeth. yn cael eu monitro drwy gydol y pum mlynedd ac adroddiadau amdanynt yn cael eu cyflwyno gerbron Pwyllgorau Craffu'r Cyngor, y Cabinet a'r Cyngor.

 

Cynigodd yr Arweinydd y dylai'r Cyngor gytuno ar y Cynllun Corfforaethol a'i fabwysiadu, ac eiliwyd hynny gan y Dirprwy Arweinydd.

 

Sylwadau gan y Cynghorwyr:

 

§  Roedd y Cynghorydd Evans yn cytuno â nodau ac amcanion y cynllun, ond roedd pryderon ynghylch canol y ddinas, gyda'r Brifysgol i bob pwrpas yn cefnu ar Gyngor Dinas Casnewydd. Gobeithiwyd y byddai ymgynghoriad ystyrlon yn cael ei gynnal â'r preswylwyr. Byddai'r blaid geidwadol hefyd yn monitro'r cynllun yn agosach dros y blynyddoedd nesaf, ond yn cefnogi'r cynllun.

 

§  Pwysleisiodd y Cynghorydd Davies pa mor bwysig oedd gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Roedd hon yn ymagwedd gydweithredol ar sail leol a chenedlaethol.  Roedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom.  Roedd y Cynghorydd Davies o blaid y Cynllun.

 

§  Roedd y Cynghorydd Corten yn falch ein bod fel cyngor yn gallu wynebu'r newid hinsawdd.  Roedd Casnewydd eisoes wedi dangos ei bod ar y blaen fel un o'r goreuon drwy'r wlad am ailgylchu.

 

§  Roedd y Cynghorydd Cocks o blaid y cynllun. Er nad oedd yn breswylydd leol, roedd wedi dewis symud i Gasnewydd gan fod ganddi gymaint o'i phlaid o ran treftadaeth hanesyddol ac fel lle i weithio, a hefyd fel porth i Gymru.  Roedd hi hefyd yn ddinas wych oherwydd ei phobl.  Roedd y cynllun yn cynnig gweledigaeth gyffrous i Gasnewydd, felly roedd y Cynghorydd Cocks o blaid y cynllun.

 

§  Roedd y Cynghorydd Harvey yn falch iawn o'r Cynllun Corfforaethol ac yn annog pob aelod o'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Forsey ei bod yn fraint cael cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu Cynllun Casnewydd, a chyfeirio at Amcan 2, Amgylchedd a Seilwaith Casnewydd. Roedd y Cyngor yn cynllunio i fod yn ddinas carbon sero net erbyn 2030.  Roeddem eisoes yn gweld effeithiau'r newid hinsawdd.  Roedd hi'n hanfodol felly ein bod yn cadw at ein cynllun lleihau carbon.  Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio tuag at wastraff sero net, ac roedd ganddo system ailgylchu dda ar waith.  Roedd angen i'r Cyngor weithio gyda busnesau, ac fel preswylwyr dylem ninnau chwarae ein rhan.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Hourahine y byddai'r amcanion yn cael eu cyflawni drwy waith caled ac ymroddiad, nid yn unig gan y cabinet a chynghorwyr neu gan staff a swyddogion y Cyngor, sy'n gweithio'n galed iawn bob dydd er mwyn helpu i gyflawni nodau'r amcanion.  Roedd gwaith peirianneg o safon fyd eang yn cael ei gyflawni yng Nghasnewydd i gefnogi datblygiad economaidd y ddinas. Roedd y Cynghorydd Hourahine yn falch o weld cynifer o fusnesau bach yn dod i'r amlwg yn y dref. Cyfeiriodd y Cynghorydd Hourahine at yr adroddiad, a nodai fod angen ymateb i anghenion byrdymor y gymuned. Byddai angen neilltuo arian ar gyfer yr achosion hynny na ellir eu rhagweld.  Roedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymdopi'n rhyfeddol o dda â'r dirywiad economaidd a Covid, a dylid cydnabod hynny.  Byddai partneriaethau ag Awdurdodau Lleol yn ein helpu i gyflawni ein nodau hirdymor ar gyfer y ddinas a byddai buddsoddiad strategol yn dilyn ac yn annog cenedlaethau’r dyfodol i aros yng Nghymru.

 

Bryd hynny, gofynnodd y Cynghorydd Evans am bwynt o eglurhad, gan ei fod yn teimlo bod y Cynghorydd Hourahine wedi cymryd yr hyn yr oedd y Cynghorydd Evans wedi'i ddweud allan o'r cyd-destun.  Nid oedd y Cynghorydd Evans yn lladd ar Gasnewydd.

 

§  Roedd y Cynghorydd Routley yn cefnogi nodau ac amcanion yr adroddiad, a byddai gr?p yr Wrth-blaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau y byddai'r weinyddiaeth yn cyflawni'r hyn a oedd wedi'i gynnig yn yr adroddiad, ac roeddent bob amser wedi cefnogi Casnewydd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Clarke at bwyntiau allweddol o fewn yr adroddiad, sef tegwch, bod yn gynhwysol, grymuso, bod yn Gyngor sy'n gwrando a chanolbwyntio ar ddinasyddion.

 

§  Roedd y Cynghorydd Morris a'i gydweithwyr o blaid y cynllun. Roedd yn gam i'r cyfeiriad cywir.  Byddai wedi hoffi gweld mwy o gefnogaeth i'r genhedlaeth o bobl ifanc yn eu harddegau, a oedd yn cael eu gadael ar ôl.  Byddai wedi bod yn braf rhoi sicrwydd i'r bobl ifanc y byddai Casnewydd yn gwella ar eu cyfer hwy.

 

§  Roedd y Cynghorydd Drewett o blaid y cynllun, yn falch o Gasnewydd a'i hanes, o'r lle yr oedd wedi cyrraedd heddiw a'r modd y byddai'n datblygu yfory.  Roedd angen inni gydweithio fel cynghorwyr i ysgogi'r ddinas i symud ymlaen.

 

§  Roedd y Cynghorydd L James o blaid yr adroddiad, ond yn teimlo bod ymddygiad y Cyngor yn gysylltiedig â'r adroddiad yn amhriodol ac yn fygythiol. Byddai'r Cynghorydd wedi hoffi gweld mwy o gynnwys yn gysylltiedig ag ardaloedd rheoli ansawdd yr aer.  Nodwyd yn y cynllun y byddai'r Cyngor yn gwella ansawdd yr aer, ond ddim i ba raddau.  Teimlai'r Cynghorydd James ei bod am sicrhau'r gorau i Gasnewydd, a gobeithiai fod yr holl gynghorwyr o'r un farn.

 

§  Roedd y Cynghorydd Horton, perchennog busnes bach, o blaid y cynllun busnes.

 

§  Roedd y Cynghorydd Baker-Westhead yn gweithio i Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig, ac yn ansicr a oedd angen iddi ddatgan buddiant yn y cynllun. Cadarnhaodd y swyddog monitro nad oedd angen iddi ddatgan buddiant.

 

§  Roedd y Cynghorydd Fouweather o blaid y cynllun corfforaethol ac yn teimlo bod talent i'w gael ar draws y ddinas, a bod angen sicrhau bod y talent hwnnw'n cydweithio â ni. Dylem gydweithio i fwrw ymlaen â'r cynllun hwn.

 

§  Roedd y Cynghorydd Whitehead o blaid y cynllun corfforaethol.  Teimlai'r Cynghorydd Whitehead fod y Cynghorydd L James wedi codi rhai pwyntiau pwysig.

 

§  Cododd y Cynghorydd Forsey bwynt o eglurhad o dan Amcan 2, eitem 5, trawsnewid

 

system briffyrdd a thrafnidiaeth Casnewydd i wella ansawdd yr aer, felly roedd ymrwymiad wedi'i gynnwys yn y Cynllun.

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i bawb am eu mewnbwn, ac roedd hi'n galonogol gweld cynifer o gynghorwyr â diddordeb yn y cynllun corfforaethol.  Pwysigrwydd partneriaethau economaidd yn y cynllun hwn a'r gefnogaeth i fusnesau.  Gallai cydweithwyr olrhain yr amcanion hyn drwy'r Pwyllgorau Craffu a dwyn y Cabinet i gyfrif. Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol yr oedd trigolion Casnewydd yn ei haeddu.  Roedd hi'n bwysig hefyd cael 51 o gynghorwyr, a oedd gyda'i gilydd yn cynrychioli'r Cyngor, a chanddynt ymrwymiad moesol a moesegol i ddinasyddion, ac a oedd hefyd yn atebol i'r dinasyddion hynny.

 

Cynigiwyd mabwysiadu'r Cynllun Corfforaethol, a phleidleisio'n unfrydol o blaid hynny.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn mabwysiadu Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2022-27.

Dogfennau ategol: