Cofnodion:
Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno'r eitem nesaf, sef Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar y cynnydd yn erbyn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24.
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad. O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.
Datblygwyd Amcanion Cydraddoldeb Cyngor Casnewydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned.
Cafodd yr Adroddiad Blynyddol hwn ar Gydraddoldeb Strategol ei adolygu gan Bwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu a Chabinet y Cyngor, ac roedd eu sylwadau wedi'u cynnwys yn yr adroddiad terfynol.
Roedd effaith y pandemig yn parhau i achosi heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith yn 2021/22, ond roedd gwaith cydraddoldeb Casnewydd yn parhau i fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a oedd yn dod i'r amlwg, yn enwedig yn gysylltiedig â mynediad at wybodaeth, addysg a mynd i'r afael â throseddau casineb.
Rhoddodd yr Arweinydd uchafbwyntiau o'r flwyddyn ddiwethaf i'w gydweithwyr yn y Cyngor, gan gynnwys yr hyfforddiant Arweinyddiaeth Gynhwysol a gwblhawyd gan bron 300 o Uwch Arweinwyr a Rheolwyr a phenodiad diweddar yr Arweinydd fel Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldeb, Mudo ac Atal Tlodi.
Roedd dyddiadau arwyddocaol, fel Mis Hanes LGBT+, Ramadan, Diwrnod Cofio'r Holocost, Mis Pride, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Windrush, Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Mis Hanes Pobl Ddu ac Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb oll yn cael eu cydnabod a'u hyrwyddo ar draws y ddinas.
Roedd Asesiadau Effaith Tegwch a Chydraddoldeb, gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn erbyn polisi/penderfyniadau, yn cael eu cynnal yn barhaus yn erbyn ystod o benderfyniadau. Cyfeiriwyd at ein harfer da yn ddiweddar mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru.
Dosbarthwyd £415,000 i 79 o brosiectau cymunedol, a oruchwyliwyd gan gr?p llywio cymunedol cynrychioliadol, gan gydweithio'n agos â Chomisiwn Tegwch Casnewydd.
Roedd rhwydweithiau staff ar gyfer staff anabl, LGBTQ+ a lleiafrifol ethnig yn parhau i gynnig llwyfan i staff o grwpiau wedi'u tangynrychioli gael dylanwadu ar bolisi'r gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a phenderfyniadau strategol.
Yn sgil y gefnogaeth sylweddol a roddwyd i Ddinasyddion yr UE yng Nghasnewydd, bu modd i breswylwyr cymwys gyflwyno ceisiadau hwyr i Gynllun Preswylio'n Sefydlog yr UE ar ôl y dyddiad cau.
Cyflwynwyd sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau uwch o staff gwasanaethau cwsmeriaid ar Gydraddoldeb, Troseddau Casineb a Chynllun Preswylion Sefydlog yr UE.
Paratoi ysgolion am ofynion y Cod Addysg Statudol Cydberthynas a Rhywioldeb.
Yn ystod y flwyddyn cafodd dros 2,665 o bobl gefnogaeth drwy gynlluniau cymorth lle bo'r angen i gael mynediad at lety a chadw llety, gan gynnwys oedolion ag anableddau dysgu a ffoaduriaid.
Arhosodd cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig y cyngor yn debyg eleni er gwaethaf cynnydd bach yn nifer y staff, ac roedd ein bwlch rhwng cyflogau'r rhywiau wedi gostwng dros y cyfnod.
Roedd gan y Cyngor waith i'w wneud o hyd i wella'r gynrychiolaeth o staff lleiafrifol ethnig ar bob lefel o fewn y sefydliad, a dyma fyddai ffocws ein gwaith yn ystod 2022/23.
Cynigioddyr Arweinydd y dylid derbyn adroddiad blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a gofynnodd i'r Aelod Llywyddol a allai'r Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol eilio'r cynnig a dweud ychydig eiriau.
Eiliodd y Cynghorydd Batrouni y cynnig ac ychwanegu bod yr adroddiad yn grynodeb o'[r gwaith a gyflawnwyd yn ystod ail flwyddyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd yn nodi ymrwymiad y Cyngor i ddiwylliant yn y gweithle a dull o ddarparu gwasanaethau sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant ac amrywiaeth.
Byddai'rCyngor yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn pennu blaenoriaethau clir ar gyfer y cyfnod nesaf yn seiliedig ar adolygiad o ddata ein gweithlu a cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb.
ByddaiGr?p Aelodau a Swyddogion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn parhau i gefnogi cyflawniad ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac i sicrhau bod gan y Cyngor ymagwedd arloesol a'i fod yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol mewn modd effeithiol.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Canolbwyntiodd y Cynghorydd Batrouni ar broses y gyllideb gyfranogol; Cafodd 79 o grwpiau cymunedol elwa ar dros £400,000 o gyllid y llynedd, ac roedd y cynllun ar agor eleni, ac yn cynnwys £300,000 o gyllid. Anogwyd cynghorwyr i ddweud wrth bobl am gysylltu â'r cyngor i gael cyllid. Diolchodd y Cynghorydd Batrouni hefyd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Mayer, am ei waith a amlygwyd yn yr adroddiad blynyddol.
§ Dywedodd y Cynghorydd Davies mai agwedd allweddol ar y cynllun oedd gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a weithredwyd gan LlC o fis Mawrth 2021, ac roedd hi'n dda gweld hynny wedi'i ymwreiddio o fewn yr awdurdod. Ei ddiben oedd lleihau canlyniadau anghyfartal i breswylwyr.
§ Roedd y Cynghorydd Cocks wrth ei fodd â'r balchder a oedd yn cael ei ddangos yn y cynllun mewn gwaith yn gysylltiedig â chydraddoldeb, ac roedd hynny'n dangos ymrwymiad y Cyngor i'r grwpiau hyn. Roedd hefyd yn dathlu'r gwaith da a wnaed, ac roedd pwyslais ar ddata ac ymgysylltu.
§ Roedd y Cynghorydd Al-Nuaimi o blaid yr adroddiad a'r materion a oedd wedi'u cynnwys o dan ansawdd strategol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Al-Nuaimi hefyd at gydraddoldeb, a oedd wedi dod o le pell o fewn y cyngor. Serch hynny, roedd pryder ynghylch Islamoffobia yng Nghasnewydd, ac roedd y Cyngor Mwslimiaid wedi cysylltu â'r Cynghorydd Al-Nuaimi ac yn teimlo y byddai ymgysylltu drwy'r gr?p cydraddoldeb strategol drwy wahodd pobl o'r cymunedau Mwslimaidd o fudd i'r Cyngor, a gobeithiai y byddent yn ystyried sut i ymgysylltu ymhellach.
§ Roedd y Cynghorydd Hussain o blaid y cynllun ac eisiau eilio'r hyn yr oedd y Cynghorydd Batrouni wedi'i ddweud ynghylch y gyllideb gyfranogol, ac roedd ef ei hun wedi gweld prosiectau a gyflawnwyd ym Maendy a Fictoria. Roedd yn galonogol gweld cyllid a'r gyllideb yn mynd tuag at brosiectau haeddiannol.
§ Diolchoddyr Arweinydd i'w gydweithwyr am roi sylw i'r adroddiad. Cydnabu'r Arweinydd hefyd y gwaith a ysgogwyd gan aelodau blaenorol y Cabinet, Whitcutt a'r Cynghorydd Mayer, ond roedd llawer o waith yn dal i'w wneud. Roedd yr Arweinydd yn ymwybodol bod yr Aelod Cabinet wedi ymgysylltu â'r Cynghorydd Al Nuaimi ac y byddai hynny'n cael ei ddatblygu ymhellach o hyn allan.
Cynhaliwydpleidlais ar y cynnig a phleidleisio'n unfrydol o'i blaid.
Penderfynwyd:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a chyhoeddi'r adroddiad wefan y Cyngor, yn unol â chanllawiau statudol.
Dogfennau ategol: