Cofnodion:
Gofynnoddyr Aelod Llywyddol i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor, sef yr adroddiad blynyddol rhagarweiniol ar gyfer ein Cynllun Newid Hinsawdd.
Fel sefydliad sy’n gyfrifol yn fyd-eang, datganodd y Cyngor argyfwng ecolegol a hinsawdd fis Tachwedd diwethaf a dywedodd y byddai’r Cyngor yn:
§ Datblygucynllun Sefydliadol clir ar gyfer y Newid Hinsawdd, mewn ymgynghoriad â dinasyddion, ar gyfer y pum mlynedd nesaf a fyddai'n nodi'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hynny.
§ Ym mis Mawrth eleni cytunodd y Cyngor ar y Cynllun Newid Hinsawdd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd y cynllun hwn yn esbonio sut y byddem:
Yn gostwng allyriadau carbon y cyngor i sero net erbyn 2030
ac
Yn adolygu'r gwasanaethau yr oedd y cyngor yn eu darparu i sicrhau ei fod yn cefnogi taith y ddinas tuag at garbon sero net a hefyd wrth ymaddasu i effeithiau'r newid hinsawdd.
Roedd y cynllun yn weithredol o 2022-2027, ac adroddiad rhagarweiniol oedd hwn a esboniai ein sefyllfa ar ddechrau'r cynllun ac a fanylai ar rai o'r prosiectau pwysig a oedd eisoes ar y gweill.
Roedd y cynllun yn ddogfen allweddol i'r Cyngor ac erbyn hyn yn pennu ein trywydd fel sefydliad er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a'u heffeithiau.
Cynigioddyr Arweinydd y dylid derbyn yr adroddiad a gofynnodd i'r Aelod Llywyddol a allai'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth eilio'r cynnig a dweud ychydig eiriau.
Eiliodd y Cynghorydd Forsey y cynnig a dweud wrth ei gydweithwyr fod y Cyngor eisoes wedi cyflwyno gostwng allyriadau carbon i raddau sylweddol, gan ragori ar y targedau a osodwyd yn y Cynllun Rheoli Carbon. Roedd y Cynghorydd Forsey yn edrych ymlaen i weld gostyngiadau pellach wrth inni barhau i ôl-osod adeiladau cyngor, a sicrhau cynnydd pellach yn nifer y cerbydau trydan o fewn ein fflyd.
Er hynny, roedd llawer mwy i'w wneud o hyd fel sefydliad i liniaru ac ymaddasu i'r argyfyngau natur a hinsawdd, ac roedd ein Cynllun Newid Hinsawdd yn ein gosod ar y trywydd iawn ar gyfer y daith honno, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar ran cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol.
Fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y newid hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd y Cynghorydd Forsey yn falch o weld yr adroddiad rhagarweiniol cadarnhaol hwn, a byddai'n monitro cynnydd y cynllun yn agos ac yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd i sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ar y cyflymder angenrheidiol.
Sylwadau gan y Cynghorwyr:
§ Argymhellodd y Cynghorydd Davies y dylai'r cynghorwyr wylio'r animeiddiad drwy glicio ar ddolen ar glawr yr adroddiad. Roedd y Cynghorydd Davies yn falch fod ysgolion wedi'u cloi i mewn i'r cynllun hwn. Roedd Basaleg yn cael ei chodi ar ffurf ysgol niwtral o ran carbon, ac roedd ffocws hefyd ar ôl-osod, fel y gwelwyd eisoes yn Ysgol Feithrin Kimberley - Ysgol Bryn Derw bellach - lle gosodwyd dau bwmp gwres ffynhonnell aer. Byddai cyfarpar hefyd yn cael ei ôl-osod mewn ysgolion eraill ledled Casnewydd fel eu bod yn garbon sero net o hynny allan. Roedd hi'n braf gweld bod plant yn gweithio gydag athrawon i fynd i'r afael â hyn. Roedd pobl ifanc hefyd wedi datblygu i fod yn hyrwyddwyr, yn siarad ar y llwyfan genedlaethol.
§ Roedd y Cynghorydd Routley o'r farn fod y cynllun yn gynllun da a fyddai'n diogelu dyfodol preswylwyr Casnewydd. Er hynny, roedd y Cynghorydd Routley yn siomedig nad oedd unrhyw gynllun arall er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar yr M4 - roedd hyn cael effaith ar breswylwyr a chymunedau ar hyd coridor yr M4.
§ Cytunodd y Cynghorydd Fouweather hefyd ei bod yn ddogfen dda ac roedd yn awyddus i ddarllen am adeiladau ac ysgolion newydd y cyngor. Teimlai'r Cynghorydd Fouweather fod y Ganolfan Ddinesig yn adodd enfawr, o safbwynt cost ynni. Roedd yn rhaid gwella mynediad ar y ffyrdd hefyd, a sicrhau bod mwy o fysiau a threnau'n hygyrch.
§ Roedd y Cynghorydd Cleverly o blaid y cynllun.
§ Roedd y Cynghorydd Corten o blaid y cynllun.
§ Roedd y Cynghorydd L James yn cefnogi'r cynllun, ond teimlai y gallai'r adroddiad gynnwys manylion pellach. Dogfen nodau oedd hon yn hytrach na chynllun gwirioneddol a theimlai fod y cyhoedd a'r cyngor yn haeddu mwy o fanylion. Dylid canolbwyntio mwy ar yr 11 o ardaloedd rheoli ansawdd yr aer, fel Ffordd Malpas.
§ Pwysleisioddyr Arweinydd y byddai cyfle i'r cynghorwyr drafod a chodi unrhyw faterion drwy'r broses graffu. Dywedodd yr Arweinydd mai trafnidiaeth amgen oedd y prif ffocws. Roedd yr Arweinydd wedi ymweld â llwybr teithio llesol y Gaer yn ddiweddar, drwy ymgynghoriad â'r preswylwyr, ac roedd y llwybr hwnnw'n gyfleuster gwych i'r preswylwyr. Roedd y Cabinet yn ymchwilio'n barhaus i gynlluniau trafnidiaeth amgen. Gan weithio gyda Chomisiwn Burns roedd mesurau'n cael eu rhoi ar waith Roedd gwelliannau i'w gwneud o hyd, ond roedd yr ansawdd yn gwella. Cafwyd ymweliad diweddar gan Ddirprwy Weinidog, pan agorwyd siop storio beiciau newydd yng Nghasnewydd. Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddinasyddion, ac nid oedd yn gynllun a gafodd ei orfodi arnom. O ran y rheilffyrdd, roedd adroddiad Comisiwn Burns yn cynnwys argymhellion am orsafoedd ychwanegol. Network Rail, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, oedd yn rheoli ac yn berchen ar y seilwaith.
Cynigiwyd derbyn yr adroddiad a phleidleisiwyd yn unfrydol o blaid hynny.
Penderfynwyd:
Bod y Cyngor wedi adolygu a chymeradwyo Adroddiad Rhagarweiniol y Cynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol.
Dogfennau ategol: