Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau

Cofnodion:

 

Fel Aelod o’r Pwyllgor Safonau, cyflwynodd yr Aelod Llywyddol yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Cockeram yn falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2021/22 y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor.

 

Dyma oedd nawfed adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau, ac roedd yn trafod y cyfnod o fis Tachwedd 2021 hyd fis Tachwedd 2022, ac yn dilyn ymlaen o'r adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2021.

 

Yn flaenorol, roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar sail wirfoddol.  Fodd bynnag, ers mis Mai 2022, roedd hi bellach yn ofyniad statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, roedd yr Adroddiad Blynyddol statudol hwn yn cynnwys asesiad o'r graddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau newydd i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad o fewn eu grwpiau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyfarfod bum gwaith dros y deuddeg mis diwethaf. Roedd cyfarfodydd cynharaf y Pwyllgor wedi cael eu cynnal o bell ond, ers mis Mai 2022, roedd y cyfarfodydd wedi cael eu cynnal ar sail "hybrid", gyda rhai aelodau'n bresennol yn gorfforol ac eraill yn ymuno o bell. 

 

Y llynedd, galwyd ar y Pwyllgor Safonau am y tro cyntaf i gynnal gwrandawiad ynghylch achos o gamymddwyn ac i orfodi cosb ar aelod etholedig. Eleni, roedd yn braf cael adrodd na chafodd, unwaith eto, unrhyw gwynion difrifol am gamymddwyn eu cyfeirio i sylw'r Pwyllgor Safonau gan yr Ombwdsmon dros y 12 mis diwethaf, ac na chafodd unrhyw gwynion eu cyfeirio i'w penderfynu gan y Pwyllgor o dan Gam 3 y Protocol Datrysiadau Lleol yn ystod 2021/22.

 

Roedd yr Adroddiad yn cadarnhau bod chwe chwyn wedi'u cyfeirio i sylw'r Ombwdsmon ynghylch Cynghorwyr y Ddinas dros y 12 mis diwethaf, ac y gwnaed pum cwyn dros y cyfnod hwn ynghylch cynghorwyr cymuned. Wrth gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn i'r Cyngor, dim ond un g?yn a oedd heb ei datrys ac ni chafodd yr un o'r 10 cwyn arall eu derbyn ar gyfer ymchwiliad.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cyfarfod ag arweinwyr y grwpiau yn gynharach yn y mis, ac roedd yn falch â lefel yr ymrwymiad a ddangoswyd a lefelau cyffredinol yr hyfforddiant yr oedd Cynghorwyr wedi'i dderbyn. Er hynny, byddai'n fuddiol cynnal sesiynau hyfforddi pellach ar y Cod Ymddygiad i'r Cynghorwyr hynny nad oeddent wedi gallu bod yn bresennol yn yr hyfforddiant cynefino ar 16 Mai. Nid oedd hi'n ymddangos bod unrhyw broblemau o bwys o ran safonau ymddygiad na chwynion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol hefyd yn cynnwys blaenraglen waith ddrafft ar gyfer y 12 mis nesaf.  Byddai'r gofynion hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr y Ddinas, cynghorau cymuned a'u clercod yn parhau i gael eu monitro a'u hadolygu yn rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor.

 

Cynigiodd yr Aelod Llywyddol y dylid derbyn yr Adroddiad Blynyddol, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Harvey.

 

Penderfynwyd:

Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2021/22 a nodi'r flaenraglen waith.

 

Dogfennau ategol: