Agenda item

Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) - Gwerth am Arian 2021-22

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-          Geraint Willington – Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cyflawni Addysg – Adnoddau

-          Ed Pryce – Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Polisi/Strategaeth

-          Marc Belli – Prif Bartner Gwella Ysgolion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

-          Sarah Davies – Dirprwy Brif Swyddog Addysg

-          Sarah Morgan – Prif Swyddog Addysg, Cyngor Dinas Casnewydd

-          Deborah Davies – Aelod Cabinet dros Addysg, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg y pwyllgor i'r partneriaid a chyflwynodd yr adroddiad. Cyflwynodd Cyfarwyddwr Adnoddau’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg drosolwg a chyflwyniad o Adroddiad Gwerth am Arian 2021-2022 a thynnodd sylw’r pwyllgor at y prif bwyntiau a gwahoddodd y pwyllgor i ofyn unrhyw gwestiynau y teimlent eu bod yn berthnasol.  Amlygwyd bod pum awdurdod yn berchen ar y cwmni a bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar ddull S2S (Ysgol i Ysgol).

 

Gofynnodd yr aelodau y canlynol:

-          Cyfeiriodd aelod at y rhan ar yr economi ac effeithlonrwydd a oedd yn crybwyll y 96% sy'n mynd i ysgolion a gofynnodd a oes unrhyw rwymedigaeth ar ysgolion i'w ddefnyddio ar gyfer gwelliant.

 

Ymatebodd Cyfarwyddwr Adnoddau'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg drwy ddweud bod dau grant yn dod i mewn – Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a’r Grant Datblygu Disgyblion a llawer o is-grantiau o fewn y grantiau hynny – a bod disgwyliad o fewn y rheini i'w gyflawni.

Mae'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wedi bod yn fwy hyblyg gydag ysgolion, gan roi’r arian iddynt benderfynu beth i'w wneud. Byddai'r ysgol yn dangos i ni ar beth y dymunant ei ddefnyddio ac yn dangos sut, sydd wedyn yn cael ei gymeradwyo gan y panel yn dilyn adolygiad. Soniodd y Prif Swyddog Addysg fod gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg hefyd Gr?p Strategaeth Penaethiaid a oedd yn gweithio'n dda ar gyfer y gofynion sylfaenol a dywedodd fod y model yn synhwyrol.

 

-          Tynnodd aelod sylw at yr ochr gyllid. Soniodd am y straen o lefelau staffio a’r argyfwng costau byw. Er y gallent fod â chyllid effeithlon ar hyn o bryd, gofynnodd yr aelod a allai’r partneriaid weld hynny’n newid.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Adnoddau y bydd yn heriol wrth symud ymlaen gyda'r cyllid o'r grantiau a Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Addysg fod y model yn gweithio ar grantiau 50% a bod hynny'n dibynnu ar yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru. Daw’r 50% arall gan Gyngor Dinas Casnewydd. Mae'n dibynnu a allant fforddio’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar werth blynyddol ond rhoddodd sicrwydd i'r pwyllgor ei fod yn werth rhagorol am arian. Soniwyd bod gwasanaethau rhanbarthol eraill wedi codi eu pris ond gyda'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg nid yw hynny wedi digwydd. Mae'r cyfraniadau gydag awdurdodau lleol wedi gostwng ond mae'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg wedi caniatáu iddynt gadw gwasanaeth da i weld effeithlonrwydd.

 

-          Nododd aelod ei fod yn cael yr adroddiad yn eithaf anodd ei ddarllen fel cynghorydd newydd ei ethol gyda'r ystod o dermau ac ymadroddion anghyfarwydd. Gofynnodd yr aelod i’r partneriaid gadarnhau’r hyn yr hoffent ei gael o’r drafodaeth a gofynnodd beth mae’r ysgolion lleol yn ei dderbyn gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg bob mis.

 

Rhoddodd y Prif Bartner Gwella Ysgolion enghraifft o ysgol leol yng Nghasnewydd mewn partneriaeth ag ysgol yng Nghaerdydd, yr oedd gan y ddwy ysgol heriau economaidd-gymdeithasol tebyg. Daw’r plant yn yr ysgolion o’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae penaethiaid yr ysgolion wedi bod yn cydweithio ag ymarferydd mewn swydd, fel partner gwella, ochr yn ochr â mesurau mewn adroddiad Estyn oherwydd arolygiad siomedig.

 

Cafodd effaith sylweddol drwy’r broses ar bob lefel, a oedd yn effeithiol wrth weithio i arfarnu safon gwaith disgyblion a hefyd mae wedi sefydlu cydberthnasau anffurfiol yn y ddwy ysgol i rannu arferion effeithiol. O hyn, gwelodd yr ysgolion welliannau cyflym. Ym mis Rhagfyr 2021, gwelsant yr ysgol yng Nghasnewydd yn cael ei thynnu oddi ar yr hysbysiadau gan Estyn, sy'n welliant mawr i'w adolygu. Bydd y partneriaid yn parhau i weithio'n galed gan nad oes yr un ysgol yn berffaith, gan y byddent yn hoffi adeiladu ymhellach ar hyder yr ysgolion. Canmolodd yr aelod cabinet yr ysgol uwchradd leol hefyd ar ôl ymweld â hi.

 

-          Roedd aelod yn dymuno gwybod beth fu'r her sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf i'r bartneriaeth ac a allai'r partneriaid ragweld heriau'r flwyddyn nesaf.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwella Ysgolion fod y cwricwlwm newydd i Gymru a thrawsnewid ADY yn ddau newid deddfwriaethol allweddol yng Nghymru sy’n cael eu cyflwyno yn y cyfnod ôl-bandemig ac a fydd yn her i bob ysgol.

 

-          Teimlai aelod ei bod yn dda bod yr ysgolion yn partneru ag eraill mewn ardaloedd eraill. Soniwyd y gallai fod gan rai ysgolion boblogaeth fwy o ddisgyblion o gymunedau BAME ac felly roedd yr aelod eisiau gwybod a fyddai’r ysgolion hynny’n cael mynediad at gyllid ychwanegol ar gyfer hynny, gan fod yn rhaid cael mwy o gostau i’r cyfieithwyr ar y pryd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi y byddai hynny'n benodol ar gyfer Gwasnaeth Addysg Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS), sydd ar wahân i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg ond sy’n darparu gwasanaeth drwyddo. Mae eu cydweithiwr Sally Bevan yn rhedeg tîm i sicrhau bod y ddarpariaeth gywir ar waith ar gyfer athrawon. Mae llawer o raglenni’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn mynd trwy eu darpariaeth.

 

-          Roedd aelod yn gwerthfawrogi sut y soniodd awdur yr adroddiad nad oedd ganddo fynediad at ddata cyrhaeddiad disgyblion oherwydd y newid yn yr arddull adrodd. Nododd yr aelod fod tair astudiaeth achos yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd mwy a pha mor helaeth yw’r dystiolaeth.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Polisi (Gwasanaeth Cyflawni Addysg) fod ystod eang o dystiolaeth nad yw wedi ei chynnwys yn yr adroddiad. Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu mewn ffordd nad yw'n cynnwys holl waith y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Mewn perthynas â phwynt blaenorol aelod am y jargon, fe’i hysgrifennwyd ar gyfer pobl sydd â mwy o wybodaeth gyd-destunol. Dyna pam y ceisiodd y partneriaid lenwi’r bylchau ar hynny yn y cyfarfod a phwysleisiodd y byddent yn fwy na pharod i ddychwelyd i wneud hynny ond rhoddodd sicrwydd i’r aelodau bod ystod o dystiolaeth ar gael ond nad oedd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.

 

-          Gofynnodd aelod i'r partneriaid egluro, pan fyddant yn nodi ysgol sy'n profi problemau cyn llunio partneriaeth, pryd y byddai'r partneriaid yn ymweld ac yn gwerthuso'r materion ac a oes cyllideb ar gyfer datrys y broblem yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Addysg fod y gyllideb yn dod i mewn weithiau ac, os oes llu o broblemau, mae’r partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd fel gweithwyr proffesiynol ac yn cydnabod y ffaith na all y partneriaid gwella ysgolion wella popeth. Fel rheolaeth ariannol wael, materion gwahardd gwael. Maent yn cynnig cymorth mewn dull wedi'i dargedu ar gyfer yr ysgolion hynny.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg fod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn gweithio'n agos gyda'r cyngor gyda'r Cynllun Datblygu Ysgol. Ble yn y rhanbarth, y byddai penaethiaid lleol yn cyfarfod i werthuso'r cynnydd o'r cynllun blaenorol a’i werthuso. Yna byddai'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn mynd i'r ysgol, yn sicrhau bod y gwerthusiad yn gadarn, ac yn trafod blaenoriaethau allweddol gyda'r partneriaethau i nodi'r anghenion allweddol. Gallai hyn fod trwy awdurdod lleol, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg neu gymysgedd o'r ddau. Pwysleisiwyd bod gan bob ysgol gynnig cyffredinol o wyth diwrnod o gefnogaeth ac, yn ychwanegol at hynny, y rhwydwaith ysgolion dysgu, fel y ddwy ysgol y soniwyd amdanynt yn gynharach yn cydweithio.

 

Mae’n gyfle ar gyfer dysgu proffesiynol mewn grwpiau wedi’u targedu mewn ysgolion, er enghraifft cymorth i’r arweinwyr canol mewn ysgolion, sy’n beiriannydd dysgu. Mae'r dull haenog yn esblygu bob blwyddyn gan eu bod yn gallu paru'n well â'u partneriaid gwella yn y rhanbarthau i ddiwallu anghenion yr ysgolion mewn dull mwy coeth. Cafwyd trafodaeth ymhlith yr aelodau a phartneriaid y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ynghylch y gyllideb a thynnodd y Dirprwy Brif Swyddog sylw at y newid diwylliannol o gefnogi ysgolion heb bwysau i'w chynnwys mewn partneriaethau.

 

-          Gwnaeth aelod y sylw mai prin y soniwyd am ddisgyblion yn yr adroddiad a bod yr adroddiad bron yn cyfaddef hynny gan ei fod yn datgan ei fod wedi dod i gasgliadau yn yr argymhellion i wneud yn si?r bod y mecanweithiau ar waith i gasglu data os yw’r disgyblion yn gwneud cynnydd.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Polisi (Gwasanaeth Cyflawni Addysg) yn gwerthfawrogi sylw'r cynghorydd ac eglurodd, o ran y data, ei fod yn bodoli yn yr ysgolion. Aeth ymlaen i nodi na allant ei gydgasglu ar lefel awdurdod lleol i gymharu tablau cynghrair fel y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Dywedodd y cyfarwyddwr hefyd fod cael y partneriaid gwella i mewn i'r ysgol yn allweddol a chael asesiadau personol, sy'n fwy ansoddol na meintiol.

Amlygwyd bod yr adroddiad wedi'i ysgrifennu ar y flwyddyn pan oedd y systemau wedi'u lleoli yn y cyfnod pandemig, pan nad oeddent yn gallu cael mynediad i ysgolion yn y cyfyngiadau symud. Mae'r partneriaid wedi dychwelyd llawer mwy i ysgolion ers mis Ebrill ac wedi egluro bod gwaith corfforol yn digwydd.

Diolchodd aelodau'r pwyllgor i'r swyddogion am y gwaith y maent yn ei wneud ac am eu hamser, gan eu canmol am eu gwaith partneriaeth.

 

Casgliadau

 

-        Bu'r pwyllgor yn ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd wrth gyflwyno tystiolaeth, ynghyd ag adroddiad Gwerth am Arian Rhanbarthol y Gwasanaeth Cyflawni Addysg 2021-22 a gomisiynwyd yn allanol a chyflwyniad PowerPoint. Aelodau. Canmolodd y pwyllgor y bartneriaeth am eu gwaith caled a gwerthfawrogodd fod y swydd yn un anodd. Roeddent yn falch o'r ffigurau yn yr adroddiad ac yn dymuno gwneud sylw bod hon yn teimlo fel partneriaeth wirioneddol.

 

-        Roedd y pwyllgor yn falch o nodi bod arfer da yn cael ei rannu o fewn y bartneriaeth ac ysgolion o'r enghreifftiau a roddwyd gan y swyddogion ac maent yn obeithiol y bydd hyn yn parhau yn y dyfodol.

 

-        Cododd y pwyllgor sylw yn ymwneud yn benodol ag effaith y mesurau cymorth i ysgolion ar wella ysgolion. Cydnabuwyd y cynnydd a wnaed wrth symud i fodel newydd o gymorth ysgol, ond nid oedd diffyg data disgyblion yn ei gwneud hi’n bosibl datgan bod y model wedi arwain at “gynnydd cyflym iawn mewn ysgolion”. Mae'r aelodau'n gwerthfawrogi nad yw llawer o'r data cynnydd disgyblion a ddefnyddiwyd yn flaenorol i wneud dyfarniadau ar effeithiolrwydd ysgolion bellach ar gael – cydnabu hyn yn adroddiad Alcott. Argymhellodd yr adroddiad, fodd bynnag, fod y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn dod o hyd i systemau i gasglu data o'r fath.

Hoffai'r aelodau weld y data hwn fel rhan o adroddiadau yn y dyfodol. Gwerthfawrogir efallai y bydd angen crynhoi'r data os oes swm mawr ohono. Gallai casgliadau o'r data fod yn y prif adroddiad, gyda'r data ategol fel atodiad – efallai fel tablau cryno.

 

-        Roedd y pwyllgor yn dymuno gwneud y sylw y byddai'n braf gweld y ffigur meincnod o 96% yn cael ei gynnal ond roedd yn ymwybodol o bwysau, megis y gostyngiad yn lefelau staff, costau byw a'r codiad cyflog, a allai effeithio ar hynny.

 

-        Holodd y pwyllgor a oedd gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg unrhyw gyfathrebu uniongyrchol â Norse neu waith partneriaeth blaenorol mewn perthynas â’r ysgolion y mae’r ddau ohonynt yn eu cynrychioli. Dywedodd yr aelodau, o ystyried bod y ddau wasanaeth yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r ysgolion yng Nghasnewydd, y gallai fod yn fuddiol pe bai gwaith partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Norse i weld sut y gallant wneud y gwelliannau angenrheidiol y mae'r ysgolion yn meddwl y byddent yn elwa ohonynt.

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6pm

Dogfennau ategol: