Agenda item

Trafodaeth yr Arweinydd Grwp

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd Plaid Lafur Casnewydd

Y Cynghorydd Matthew Evans – Arweinydd Plaid Geidwadol Casnewydd

Y Cynghorydd Allan Morris – Arweinydd Plaid Annibynnol Llyswyry

Y Cynghorydd Kevin Whitehead – Arweinydd Plaid Annibynnol Casnewydd

 

Mynegodd y Cadeirydd wrth y Cynghorydd M.Evans ei fod yn pryderu nad oedd y Cynghorydd Fouweather wedi bod i gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau eto, er ei fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Evans am absenoldeb ei gyfaill.

 

Croesawyd Arweinwyr y Pleidiau gan y Cadeirydd a'r Pwyllgor, a gofynnwyd iddynt gadarnhau sut maent yn cynnal y safonau sy'n ofynnol gan eu pleidiau gwleidyddol.

 

Y Cynghorydd Jane Mudd – Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

 

Eglurodd yr Arweinydd fod ganddi rôl ddeuol fel Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Gr?p Llafur. O ran ei rôl fel Arweinydd y Cyngor, esboniodd yr Arweinydd ei bod yn cyfarfod yn rheolaidd â Phennaeth y Gyfraith a Safonau a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn wythnosol i fynd drwy’r rhaglen hyfforddi a'i bod yn cynnal trafodaethau anffurfiol i fynd i’r afael â phroblemau sy'n dod i'r amlwg a rhoi camau ar waith.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at enghraifft lle'r oedd am i'w chyd-aelodau etholedig ennill mwy o hyder wrth ddefnyddio TG. Teimlai fod hyn yn bwysig, a bod angen gosod safonau nid yn unig o ran y defnydd o gyfarpar, ond hefyd o ran yr iaith a ddefnyddir gan yr Aelodau mewn negeseuon e-bost, lle gall y tôn a ddefnyddir dramgwyddo eraill yn anfwriadol.

 

Dywedodd yr Arweinydd eu bod yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn mynd i gyflwyno sesiynau galw heibio o natur fwy anffurfiol i drafod agweddau nad ydynt o bosib yn teimlo’n hyderus yn eu cylch er mwyn annog awyrgylch gwell.

 

Trafododd yr Arweinydd wedyn yr agwedd gr?p yn gysylltiedig â bod yn Arweinydd Llafur Casnewydd. Yn debyg i unrhyw blaid wleidyddol, mae strwythurau ar waith i sicrhau disgyblaeth o fewn y gr?p. Mae ymrwymiad i gynnal safonau uchel yn rhan o gontract Cynghorydd Llafur Casnewydd.  Mae'r strwythur yn cynnwys Chwip y Blaid, sy'n rhoi cefnogaeth i'r aelodau a hefyd yn ymdrin â materion eraill.

 

Gan fod gan y blaid nifer fawr o Aelodau, eglurodd yr Arweinydd fod yr Aelodau newydd wedi'u paru ag Aelodau mwy profiadol i gael cefnogaeth. Eglurodd yr Arweinydd fod y blaid am i'w Chynghorwyr fod ar eu gorau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethau, a chydnabod eu bod yn gallu wynebu heriau o ran ymddygiad.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn

 

           Roedd y Cadeirydd yn deall bod pleidiau'n ceisio cyfyngu ar niwed i enw da a gofynnodd sut mae'r blaid yn ceisio cyfyngu ar achosion o dorri eu Cod Ymddygiad ymhlith eu haelodau. Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a oedd gan y blaid bolisïau ar waith i atal niwed i'w henw da, neu a fyddai'r Aelodau'n cysylltu â Phennaeth y Gyfraith a Safonau.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai Aelodau'r Blaid, yn yr achosion hynny, yn cysylltu â Phennaeth y Gyfraith a Safonau i gael arweiniad, ond esboniodd fod prosesau anffurfiol ar waith cyn cymryd unrhyw gamau ffurfiol. Mae'r broses Datrys yn Lleol yn llwyddiannus iawn.  Mae'n bwysig cynnal deialog a chefnogi pobl. Rhoddodd yr Arweinydd ganmoliaeth i Bennaeth y Gyfraith a Safonau am helpu yn hynny o beth.

 

           Cyfeiriodd Mrs Nurton at y rhestr presenoldeb a soniodd fod 37 o'r 51 Aelod wedi cwblhau'r hyfforddiant safonau moesegol, a gofynnodd i'r Arweinydd beth mae'n ei wneud i annog yr holl Aelodau i dderbyn yr hyfforddiant.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod ganddi strwythur adrodd ar waith lle'r oedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn gallu adrodd yn ôl i reolwyr busnes y pleidiau. Gan fod yr hyfforddiant wedi'i gynnal yn syth ar ôl yr etholiad, roedd llawer o Aelodau i ffwrdd ar ôl yr ymgyrch. Sicrhaodd yr Arweinydd y byddent yn cynnal sesiwn ddilynol i sicrhau y byddai modd i gynifer o Aelodau fod yn bresennol ag sy'n bosibl.  Nododd yr Arweinydd ei hyder yn y broses adrodd a bod mecanweithiau yn ein galluogi i nodi presenoldeb mewn hyfforddiant.

 

           Dywedodd y Cynghorydd Cockeram ei fod yn ymwybodol bod y cyfarfodydd yn cael eu darlledu, fel y sgwrs cyn-gyfarfod yn ystod y 15 munud cyn y cyfarfod. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn gyfrifol am y trafodaethau hynny cyn dechrau recordio'r cyfarfodydd eu hunain. Credai’r Aelod fod angen i bob gr?p gwleidyddol fod yn ymwybodol o hynny, gan ei fod wedi digwydd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor llawn.

 

           Nododd Mr Watkins ei bod wedi clywed am gyfarfodydd anffurfiol â chydweithwyr, a gofynnodd a oedd unrhyw un o'r cyfarfodydd wedi cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u cynnwys mewn adroddiadau blynyddol.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod, yn rhinwedd ei swydd, yn cyfarfod â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth y Gyfraith a Safonau yn rheolaidd yn rhan o'r rhaglen Briffio Aelodau Cabinet, a bod y Gwasanaethau Democrataidd yn goruchwylio'r broses fewnol. Cymerir y cofnodion ffurfiol yn yr un modd â chyfarfod cyhoeddus, a chedwir cofnod o'r trafodaethau. Dywedodd yr aelod y gallai ddod yn ôl at y rhain pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno hyn.

 

Soniodd yr Arweinydd hefyd am y system electronig sydd gan y cyngor sy’n cofnodi presenoldeb yr Aelodau, mae hyn yn fantais enfawr gan ei fod yn galluogi’r tîm i lawrlwytho a chyrchu'r wybodaeth honno'n gyflym.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai angen i arweinwyr gr?p yn y dyfodol gyflwyno rhywbeth mewn ysgrifen, neu a fyddai angen eu gwahodd i gyfarfodydd i weld sut mae pethau'n mynd. Er mai ym mis Ionawr y mae cyfarfod nesaf y pwyllgor, awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r holl hyfforddiant safonau fod wedi'i gwblhau erbyn yr ail gyfarfod yn y Flwyddyn Newydd.

 

Yn dilyn y sgwrs, ychwanegodd y Cynghorydd Evans, pe bai rhywun heb fod yn bresennol mewn cyfarfod, y byddai'n fuddiol iddo gael gwybod hynny.

 

Y Cynghorydd Matthew Evans - Arweinydd yr Wrthblaid (Ceidwadwyr Casnewydd)

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Evans ei hun i’r Pwyllgor ac eglurodd fod gan y Blaid ddau Gynghorydd newydd a bod pump o’r saith wedi bod yn gynghorwyr ers tro.  Mae ganddynt hwythau hefyd system gyfeillio ar waith yn debyg i'r Gr?p Llafur, er mwyn cyfarfod a sgwrsio'n anffurfiol.

 

Mae'r holl Aelodau wedi cofrestru gyda'r Gymdeithas Cynghorwyr Ceidwadol ac yn cadw at reolau'r blaid. Mae pob un wedi bod drwy'r broses ddethol ac wedi'i ddewis yn annibynnol. Cynigir cyfleoedd iddynt dderbyn hyfforddiant mewnol ac allanol.

Aeth Arweinydd yr Wrthblaid yn ei flaen i ddweud y bu'n gweithio'n ddiweddar gyda swyddogion i ddatrys mater yn lleol, gan fod Aelod o'r gr?p wedi bod yn swta mewn gohebiaeth e-bost. Esboniwyd bod hyn wedi'i ddatrys yn lleol a'u bod wedi cyfarfod â Phennaeth y Gyfraith a Safonau a'r Prif Chwip.

 

Soniodd y Cynghorydd Evans hefyd ei fod yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Arweinydd, yn siarad â'r grwpiau plaid annibynnol ar sail yr angen i wybod,  a dywedodd fod pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r Cod Ymddygiad yn Etholiad mis Mai.  O ran yr hyfforddiant gorfodol, mae angen inni fynychu’r hyfforddiant a gosod esiampl i bawb.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn:

 

           Diolchodd Dr Worthington i'r Cynghorydd Evans am ei gyflwyniad a mynegodd ddiddordeb yn y syniad o gyfeillio'r Aelodau Etholedig newydd ag Aelodau sydd wedi bod yn eu swydd ers tro. Mae'n bwysig bod yr Aelodau sy'n gyfeillion wedi ymrwymo'n llawn i'r cysyniad o safonau moesegol, a gofynnodd a oedd y diwylliant hwnnw'n diferu i lawr.

 

Soniodd y Cynghorydd Evans fod ganddynt Gynghorwyr a oedd wedi bod yn eu swyddi ers tro, a'i bod yn bwysig wrth dderbyn unrhyw Aelodau newydd, yn yr un modd ag wrth dderbyn unrhyw hyfforddai/prentis yn y gwaith, nad ydynt yn dechrau unrhyw arferion drwg. Mae rhai o Aelodau Plaid Geidwadol Casnewydd wedi gweithio ym myd busnes ers cryn amser, a phwysleisiodd y Cynghorydd Evans fod amryw o rolau i'w cyflawni fel Cynghorydd, a bod yr Aelodau'n ymwybodol o'u rhwymedigaethau ac o'i rwymedigaethau ef fel Arweinydd y Blaid iddynt hwythau.

 

Y Cynghorydd Allan Morris – Arweinydd Plaid Annibynnol Llyswyry

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Morris ei hun i’r Pwyllgor a dywedodd mai ei blaid ef yw'r gr?p lleiaf, gydag ond dau Aelod arall sy'n synhwyrol iawn fel aelodau annibynnol, ac sy'n amharod i gymryd rhan yn unrhyw beth sydd y tu hwnt i'w ward yn Llyswyry. Maen nhw’n cael cyfarfod unwaith y mis ac yn gweld y Cynghorydd Morris fel mentor, er iddo gyfaddef nad yw wedi derbyn yr hyfforddiant ar gyfer hynny ac y byddai'n fwy na bodlon derbyn unrhyw sesiynau hyfforddi angenrheidiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinwyr am eu cyflwyniad a'u hamser, a gofynnodd i'r Arweinwyr am eu hadborth ar y profforma yn y pecyn adroddiadau.  Gofynnodd y Cadeirydd am gael ystyried a ddylai'r Arweinwyr roi adborth ar lafar i'r pwyllgor, neu ddefnyddio'r profforma.

 

Sylwadau Arweinydd y Blaid mewn perthynas â'r profforma.

 

           Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y ffaith ei bod yn cyfeirio at amryw o bethau fel arweinwyr gr?p, gan gynnwys cyfeiriadau at gwynion wrth yr ombwdsmon. Pwysleisiodd yr Arweinydd eu bod yn gwbl gyfrinachol. Pe bai'r Aelodau'n ei chael hi'n fuddiol rhoi canllaw i'r Arweinwyr ar yr hyn yr hoffent gael adborth amdano, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn fodlon gwneud hynny.  Teimlai'r Arweinydd y byddai'n fuddiol cael adborth wyneb yn wyneb, fel y digwyddodd heddiw.

 

           Roedd y Cynghorydd Evans yn cytuno â'r Arweinydd fod angen i Aelodau dderbyn yr hyfforddiant gorfodol er mwyn eistedd ar bwyllgor. Gan na all y Cynghorwyr hynny sy'n eistedd ar bwyllgor cynllunio a trwyddedu eistedd yn y cyfarfodydd nes iddynt dderbyn yr hyfforddiant. Roedd yr Aelod yn fodlon mynychu pob cyfarfod os oedd angen, ond dywedodd mai ymarfer ticio bocsys fyddai hynny i raddau helaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i holl Arweinwyr y Pleidiau am eu sylwadau a'u hamser a dywedodd ei bod yn dda cael cyfle i gyfarfod i drafod sut y gallant gydweithio i sicrhau bod cydweithwyr y cyngor ac enw da'r cyngor yn cael eu diogelu.

 

Awgrymodd Mr Watkins y byddai adroddiad ysgrifenedig blynyddol syml yn hanfodol i'r pwyllgor gael cofnod o'r hyn a gafwyd, ac efallai cyfuno hynny â rhyngweithio personol i sicrhau bod pawb yn fodlon. Dywedodd Aelod y Pwyllgor ei fod yn hoffi'r syniad o adeiladu enw da rhwng arweinwyr y pleidiau a'r pwyllgor.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd y gellid ychwanegu hyn fel yr eitem gyntaf ar yr agenda bob blwyddyn, gydag adroddiad byr gan yr Arweinwyr.

 

           Dywedodd Mrs Nurton y byddai'n well ganddi hi gael deialog rheolaidd â'r Arweinwyr a mynegodd siom y byddai'n rhaid i'r Pwyllgor ddisgwyl am ddau gyfarfod arall nes i'r Aelodau gwblhau eu hyfforddiant. Awgrymwyd efallai y gallai'r rhai nad ydynt wedi derbyn yr hyfforddiant fod yn Gynghorwyr sydd yn eu swyddi ers tro, sydd eisoes yn ymwybodol o'r safonau gofynnol.

 

Cytunodd y Cadeirydd a'r Pwyllgor y byddai ymweliad personol ddwywaith y flwyddyn yn ddelfrydol ac y dylid ceisio derbyn adroddiadau drwy e-bost gan yr Arweinwyr.

 

            Teimlai Mr Watkins y byddai cyfarfodydd chwe-misol o gymorth ac y byddai angen rhywbeth ysgrifenedig ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn gallu gwybod y sefyllfa o ran hyfforddiant a'r moeseg yn gysylltiedig â'r hyfforddiant.

 

           Hoffai'r Cynghorydd Davies i'r pwyllgor gadw cofnod o bresenoldeb mewn hyfforddiant; a gofyn i'r Aelodau fod yn bresennol a gofyn pam nad oedd yr hyfforddiant wedi’i gynnal, oherwydd dylai'r Aelodau fod yn gwneud hynny, ac awgrymodd y dylid ystyried cynnal cyfarfod arall ym mis Ebrill.

 

           Cytunai Dr. Worthington â'r pwynt blaenorol fod trywydd archwilio ysgrifenedig yn bwysig er mwyn llywodraethu'n dda, a bod cymysgedd o ymweliadau personol ac adroddiadau ysgrifenedig yn swnio'n briodol.  Cytunai nad oeddent yn gallu rhoi tic wrth 100% ar hyn o bryd.

 

           Cytunodd y Pwyllgor y dylid gwahodd Arweinwyr y Pleidiau yn ôl i gyfarfod mis Ebrill i gael y newyddion diweddaraf am eu hyfforddiant a thrafod unrhyw bwyntiau eraill. Awgrymodd y Cadeirydd y gallent wahodd yr aelodau i gyflwyno adroddiad ymlaen llaw er mwyn cael syniad o drywydd y drafodaeth, fel briff o unrhyw beth sydd wedi digwydd.   Gofynnodd y Cadeirydd i gydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd i wahodd yr arweinwyr i gyfarfod mis Ebrill.

 

           Teimlai'r Cynghorydd Cockeram ei bod yn bwysig nodi nad hyfforddiant yn unig yw'r ffocws, ond y dylid hefyd sefydlu'r hyn a ddisgwylir gan yr Arweinwyr. Yn ei rôl newydd Aelod Llywyddol ac fel Cynghorydd hirsefydlog, mae'n ymwybodol nad yw rhai Aelodau'n dod i gyfarfodydd, a bod angen canolbwyntio ar gyfraddau absenoldeb.  Yn flaenorol roedd angen esbonio pam nad oedd rhywun yn dod i gyfarfod. Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor Safonau osod safonau i'r Arweinwyr gadarnhau eu cyfraddau absenoldeb.  Awgrymwyd y dylid trafod absenoldeb mewn cyfarfodydd yn y Pwyllgor Safonau.

 

           Cytunai'r Cynghorydd Hussain â'r syniad hwnnw a dywedodd fod angen i Gynghorwyr fod yn gyfrifol am eu rôl, ac y dylid rhoi esboniad am unrhyw absenoldeb.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau nad oedd Presenoldeb Cynghorwyr yn fater a oedd wedi'i gynnwys yn y cod ymddygiad, ond bod y cod yn trafod ymddygiad yn gyffredinol, a'u bod yn monitro hynny. Cyhoeddir cofnodion Presenoldeb Cynghorwyr ar y wefan, ac os nad ydynt yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn cyfnod o 6 mis, cânt eu datgymhwyso'n ddiofyn. Mae tîm y Gwasanaethau Democrataidd yn cadw cofnod gweithredol, a sicrhawyd yr Aelodau eu bod yn derbyn y pwynt a godwyd, ond ailbwysleisiwyd nad oedd a wnelo hyn â safonau moesegol.  

 

Yn debyg i gwynion i'r ombwdsmon pan nad oedd etholwyr yn teimlo bod eu cynghorydd yn eu cynrychioli rhyw lawer, mater i etholwyr wrth ddewis eu cynrychiolydd oedd hynny.  Er nad oedd diffyg presenoldeb o bosib yn creu argraff dda mewn rôl gynrychioliadol, eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd hynny'n rhywbeth y gallai'r Cyngor ei fonitro drwy'r cod ymddygiad. 

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at brofforma adroddiad yr arweinwyr a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, a dywedodd y Cynghorydd Mudd fod rhai rhannau o bosib heb fod yn berthnasol i'r Cyngor.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth yr Aelodau nad oedd yn rhaid defnyddio'r union ddogfen honno - dogfen o Gyngor Sir Ddinbych ydoedd i'w defnyddio fel enghraifft o ria o'r cwestiynau a allai ysgogi trafodaeth yng nghyfarfod y pwyllgor.

 

Cytunwyd na ddylid cynnwys peth o'r wybodaeth o ran nifer y cwynion.  Eglurwyd bod eitem ddiweddarach yn y cyfarfod yn ymdrin â'r wybodaeth ddiweddaraf am gwynion, wedi'i chyflwyno mewn atodlen yn ddienw. Ni allai'r swyddog monitro weld unrhyw reswm pam na ellid rhannu'r wybodaeth honno'n ddienw ag arweinwyr y grwpiau, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o gwynion cyfredol a wnaed yn erbyn Cynghorwyr.

 

O ran yr ymagwedd, tynnodd Pennaeth y Gyfraith sylw at y ffaith bod y canllawiau'n cynghori y byddai angen i'r Pwyllgor dderbyn adroddiad gan Arweinwyr gr?p o leiaf unwaith y flwyddyn, a allai fod ar ffurf adroddiad llafar neu ysgrifenedig. Dywedwyd hefyd mai mater i'r Pwyllgor oedd penderfynu a fyddai am gyfarfod â nhw'n amlach pe bai materion yn codi yn ystod y flwyddyn, er mwyn ymdrin ag eitemau penodol o fewn y gr?p neu faterion yn ymwneud ag ymddygiad.

 

           Mynegodd y Pwyllgor ddiddordeb mewn gwahodd yr Arweinwyr yn ôl ymhen 6 mis er mwyn adolygu eu cofnodion hyfforddiant, a dywedodd y Swyddog y gallai'r pwyllgor ohirio unrhyw adroddiadau ysgrifenedig nes ar ôl y cyfarfod hwnnw, er mwyn gweld a oedd unrhyw faterion penodol i'w cynnwys.

 

Eglurwyd ei bod yn bwysig nad oedd llunio'r adroddiad yn ormod o faich i'r Arweinwyr, a bod yr adroddiad yn adlewyrchu cofnod hyfforddi'r hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad; nid oedd y Gwasanaethau Democrataidd ond wedi cynnal un sesiwn hyfforddi ar 16 Mai 2022. Mae angen hyfforddi 16 o Aelodau eraill, felly cydnabuwyd bod angen i'r Cyngor drefnu sesiynau sgubo ar gyfer yr hyfforddiant hwnnw yn y Flwyddyn Newydd. Roedd y Swyddog Monitro yn cydnabod y gallai'r Cyngor wneud mwy i helpu'r Aelodau fod yn bresennol yn y sesiynau. Soniwyd bod y sleidiau o'r sesiynau hyfforddi ar gael i'r Aelodau mewn ffeil Microsoft teams a rennir. Mae gan yr Aelodau felly fynediad at y deunyddiau o'r hyfforddiant.  Efallai fod rhai wedi bod yn cynyddu eu gwybodaeth yn eu hamser eu hunain, ond mae'r tîm yn ymwybodol o'r angen i drefnu sesiynau hyfforddi ychwanegol yn y Flwyddyn Newydd cyn mis Ebrill, a dywedodd y tîm y gallai adrodd yn ôl y tro nesaf ar hynny. 

 

           Gofynnodd Mrs Nurton a oedd yr Aelodau'n cael cyfle i dderbyn yr hyfforddiant drwy e-ddysgu.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r unig broblem gyda'r dull hwnnw oedd y byddai angen iddynt greu modiwl e-ddysgu a oedd yn cynnwys cwestiynau.  Yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y ffeil a rennir ar hyn o bryd yw sleidiau'r cyflwyniad ar wybodaeth.  Yr hyn a fyddai orau ar hyn o bryd fyddai cynnal mwy o sesiynau hyfforddi y gellir cymryd rhan ynddynt o bell.  Gallai'r tîm ystyried datblygu modiwl hyfforddi gyda TG er mwyn iddo fod yn rhyngweithiol, ond byddai'r opsiwn hwnnw'n cael ei gadw wrth gefn, yn dibynnu faint o aelodau a fyddai'n bresennol yn yr hyfforddiant.

 

           Dywedodd Mrs Nurton ei bod yn gobeithio y byddai'r Fforwm Swyddogion Monitro Cenedlaethol wedi'i sefydlu erbyn hynny, ac y gallem rannu arfer gorau â Swyddogion Monitro eraill.

 

           Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i wahodd Arweinwyr y Pleidiau yn ôl i'r Pwyllgor ym mis Ebrill er mwyn cloi 22/23, ac y byddai cytundeb o ryw fath ynghylch sut i gyflwyno'r wybodaeth i'r Pwyllgor o hynny allan.

 

Dogfennau ategol: