Agenda item

Polisi Chwythu'r Chwiban

Cofnodion:

Gofynnodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau i Aelodau'r Pwyllgor ystyried fersiwn wedi'i diweddaru o'r polisi ac i adolygu ei effeithiolrwydd. Amlygwyd sut y gall hyn orgyffwrdd â safonau moesegol, ymddygiad a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Eglurodd y Swyddog Monitro fod yn rhaid i bob cyngor gael polisi ac mai'r pwyllgor oedd i fod i ystyried y polisi diwygiedig a pha mor effeithiol fyddai'r polisi hwnnw o ran ei weithredu. Esboniodd fod y polisi newydd ar y fewnrwyd i'r holl staff, a bod gohebiaeth wedi'i hanfon ym mis Medi a oedd yn cynnwys dolen i'r polisi newydd, ynghyd â modiwl e-hyfforddiant gorfodol. Nodwyd bod tua 500 o aelodau staff wedi dilyn yr hyfforddiant hyd yma. 

 

Dim ond cwestiwn ynghylch a yw'r Pwyllgor yn fodlon â'r hyn a wnaed i'r polisi a'r modd y cyflwynwyd hyn i'r staff.

 

Fel cefndir, darparwyd gwybodaeth hefyd i'r Pwyllgor am ffigurau cwynion chwythu'r chwiban dros y 12 mis diwethaf. Roedd Casnewydd wedi derbyn tua 5 o gwynion dros y cyfnod, sy'n cyd-fynd â'r cyfartaledd yn ôl y tabl, gyda Rhondda Cynon Taf ar y brig gydag 18.  Ni chadarnhawyd yr un g?yn gan Gyngor Dinas Casnewydd - mân faterion disgyblu oedd y cwynion hynny yr ymdriniwyd â nhw'n fewnol.  Ni chafodd dau o'r pum mater eu cadarnhau, ac roedd a wnelo'r tri arall â staff a wnaeth ymadael cyn y gellid cymryd camau yn eu herbyn.   Mae un g?yn yn dal heb ei datrys yn gysylltiedig â chyllid TTP, ac mae'r archwilydd mewnol yn dal i ymchwilio i'r g?yn honno. Adroddir ar y g?yn yn ffigurau'r flwyddyn nesaf.  Ni cheir unrhyw bryderon yn gysylltiedig â'r cwynion ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro i aelodau'r pwyllgor gadarnhau a oeddent yn fodlon â'r wybodaeth a ddarparwyd iddynt, neu a oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

 

           Gofynnodd y Cynghorydd Davies pwy'n bennaf fyddai'n ymchwilio i'r g?yn, a phwy a all gyrchu'r modiwl hyfforddiant ar-lein.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y sawl sy'n cynnal ymchwiliad yn dibynnu ar natur yr honiad. Byddai materion disgyblu'n cael eu trafod yn unol â chodau disgyblu penodol, lle byddai'r rheolwr llinell neu'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn ymdrin â'r ymchwiliad.  Pe bai'n achos difrifol o dwyll ariannol, byddai hynny'n fater i'r heddlu.   Pe bai'n cynnwys asiantaeth allanol, byddai'n cael ei drafod ar sail wahanol.  Pe bai'n g?yn sy'n ymwneud â diogelu, byddai'n mynd drwy brosesau diogelu'r cyngor.  Mae'r hyfforddiant ar gael i'r holl staff yn unig.  Mae'n bolisi hyfforddiant mewnol i'r staff gan fod y polisi'n berthnasol i staff Cyngor.

 

           Oherwydd bod y polisi wedi'i lunio gan swyddogion, eglurodd y Cadeirydd y byddem fel arfer yn derbyn hyn, ond bod y sefyllfa hon ychydig yn wahanol.

 

           Cadarnhaodd Mr Watkins ei fod yn fodlon â'r adroddiad, a'i fod yn hoffi'r dadansoddiad a ddangosai safle Casnewydd o'i gymharu â chynghorau eraill, a'i bod hi'n hanfodol cael gwybod canlyniadau'r pum cwyn y cyfeiriwyd atynt.

 

           Cadarnhaodd aelodau'r Pwyllgor eu bod yn fodlon â'r polisi ar ei ffurf bresennol.  Cytunwyd y byddai'r pwyllgor yn cael adroddiad blynyddol ar ffigurau cwynion chwythu'r chwiban.

 

Dogfennau ategol: