Agenda item

Diweddariad ar Gwynion

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod yr adroddiad yn cael ei lunio fel cofnod ysgrifenedig o hyn allan, ac fel y soniwyd yn flaenorol, gallwn rannu'r wybodaeth hon ag arweinwyr gr?p fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw gwynion sy'n weithredol, ac esboniodd eu bod yn cael eu cadw'n anhysbys gan y byddai modd adnabod yr unigolion dan sylw yn rhwydd. Amlygwyd bod y canlyniadau'n cael eu cofnodi, ac awgrymodd felly yn y dyfodol y gellid defnyddio'r fformat hwn wrth adrodd, gan gynnwys cofnod cyfredol o gwynion, ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor ei ychwanegu i greu rhestr gyfansawdd.

 

           Dywedodd y Cynghorydd Davies na allai weld llawer am y cwynion ynghylch Cyngor Cymuned Trefesgob, a gofynnodd a oedd y rheiny wedi'u cynnwys yn y flwyddyn gynt.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai'r rheswm am hyn oedd fod yr atodlen yn cynnwys cwynion sy'n weithredol. Gan hynny, dechreuwyd rhestr newydd eleni, a byddwn yn ychwanegu at y rhestr honno.

 

           Nododd y Cynghorydd Davies ei bod hi wedi cymryd 18 mis i'r Ombwdsmon ymdrin â'r g?yn.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau wrth y Pwyllgor y gall gymryd 12 mis i ymdrin â chwynion ombwdsmon. Dywedwyd y gallai un g?yn ar yr atodlen ddyddio o gyfnod pellach na hynny gan ei bod hi'n cymryd cyfnod sylweddol i gynnal yr ymchwiliadau.

 

Dylid darllen y llythyr oddi wrth yr ombwdsmon sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ochr yn ochr â'r adroddiad, gan eu bod yn cynnal peilot o system frysbennu newydd ar gyfer cwynion. Drwy'r system byddant yn edrych ar gwynion i ddechrau ac yn penderfynu a oes angen ymchwilio iddynt cyn hysbysu'r Swyddog Monitro a'r Cynghorydd perthnasol. Cyn cyflwyno’r system, roedd yn bosib derbyn cwyn annilys y byddai rhaid hysbysu’r Swyddog Monitro a’r Cynghorydd amdani, a byddai’r Cynghorydd yn cael ei wahodd i wneud sylwadau arni. Byddai'r system frysbennu'n fodd i hidlo rhai o'r cwynion a'u hysbysu ynghylch y canlyniad.

 

           Gan ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau, gofynnodd y Cynghorydd Cockeram am eglurder ynghylch beth fyddai ei sefyllfa pe bai'n eistedd mewn gwrandawiad ynghylch cwyn yn erbyn Cynghorydd yn yr un gr?p gwleidyddol.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth y Cynghorydd mai mater i'w benderfynu'n llwyr ganddo ef fyddai hynny. Pe bai'r Cynghorydd yn gyfaill personol agos, dywedwyd wrth yr Aelod y byddai'n rhaid iddo ddatgan buddiant a pheidio cymryd rhan yn y gwrandawiad. Nodwyd nad oedd bod yn yr un blaid wleidyddol yn atal rhywun rhag mynegi barn mewn gwrandawiad, na rhag cynnal gwrandawiad. Yr hyn sydd angen ei ystyried yw a ellir eich ystyried yn deg a di-duedd.  Pe bai'r aelod yn gyfaill personol agos, mae'n debyg y byddech yn eich esgusodi eich hun o'r gwrandawiad, ond bydd hynny'n seiliedig ar ddewis a barn bersonol.  Mae angen cael panel cytbwys o aelodau etholedig ac annibynnol.

 

Dogfennau ategol: