Agenda item

Cynlluniau Meysydd Gwasanaeth 22-24

Cofnodion:

Gwasanaethau Addysg 

 

Gwahoddwyd: 

 

Sarah Morgan - Pennaeth Addysg  Cyng.Deborah Davies - Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad. 

 

Cwestiynau: 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad am Ysgol Gynradd Millbrook. 

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg y bydd yn cysylltu â’r aelod pwyllgor y tu allan i’r cyfarfod ar y pwnc hwn gan nad oedd yn rhan o’r Cynllun Gwasanaeth oedd yn cael ei drafod heddiw. 

Gwnaeth y Pwyllgor sylw am Gyfeiriad 1 ar dudalen 31 lle dywedwyd mai’r deilliant oedd i’r ALl fod wedi datblygu gweledigaeth gydlynus o gynhwysiant gyda rhanddeiliaid allweddol, ac mai’r bwriad oedd cwblhau erbyn 2024; gofynnwyd am ehangu ar y pwynt hwn. 

 

       Dywedodd y Pennaeth Addysg fod gweithio ar y cyd gyda Phenaethiaid ac ymarferwyr yn cynyddu llwyddiant i ysgolion. Roedd yn bwysig iddynt ddeall gweithdrefnau rhedeg bywyd ysgol. Enghraifft o hyn oedd gr?p strategaeth TGCh i Benaethiaid oedd yn edrych ar faterion o bwys. Y gobaith oedd y gellid gwneud yr un peth gyda chynhwysiant. 

       Roedd llwyddiannau allweddol oedd angen eu rhannu, megis sicrhau bod staff wedi eu hyfforddi am ysgolion oedd yn gwybod am drawma er mwyn cefnogi plant. Roedd rhaglen Thrive yn sicrhau bod plant yn cael eu meithrin yn briodol, ac roedd hyn yn gweithio’n dda. 

       Cydnabuwyd yr hyn oedd yn gweithio’n dda mewn plant oedd yn cael eu meithrin ac mewn darpariaeth gyffredinol, a holwyd sut y gellid dwyn hyn ymlaen. Nodwyd, pan ddychwelodd plant i’r ysgol wedi’r pandemig, eu bod wedi cael anawsterau wrth setlo i’r ysgol am nifer o resymau, ac roedd hyn yn mynd ochr yn ochr â heriau cymhleth ym mywydau pobl. 

       Esboniodd y Pennaeth Addysg y gwaith oedd yn digwydd yn y cefndir a’r amcanion allweddol oedd ar ffurf drafft fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet  am sylwadau. 

       Wedi’r Nadolig, byddai gr?p yn cael ei sefydlu i Benaethiaid gymryd rhan ynddo. Cafwyd rhai enghreifftiau da o ysgolion heb ganolfannau dysgu ffurfiol wedi ffurfio eu hardaloedd meithrin eu hunain gyda gweithgareddau mewn grwpiau bychain, fel bod y disgyblion yn ffynnu. 

Gofynnodd y Pwyllgor sut roeddem yn recriwtio athrawon. 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod cryn broblem cael Cymorthyddion Dysgu oherwydd ei bod yn farchnad gystadleuol o ran cyflogau. Roedd prinder penodol o athrawon mewn meysydd pwnc allweddol megis athrawon yn y cyfrwng Saesneg oedd yn rhugl eu Cymraeg, ac athrawon Gwyddoniaeth a Mathemateg. Roedd y cyfrwng Cymraeg hefyd yn gryn her. 

Gofynnodd y Pwyllgor am y gwaith trwsio oedd yn dal i ddisgwyl mewn sawl ysgol, ac oherwydd bod rhai disgyblion yn cael eu cludo i leoliadau eraill, a oedd hyn yn effeithio ar ansawdd eu haddysg? 

 

       Dywedodd y Pennaeth Addysg fod cynlluniau wrth gefn yn rhan o’r cynllun parhad busnes yn ei gyfanrwydd, felly petai angen i ddisgyblion fynd i Gynllun B, y byddai hyn yn ddiogel. Pan fyddai’n rhaid i ddisgyblion symud i adeiladau eraill, roedd safon yr adeiladau hynny yn ardderchog. Fodd bynnag, roedd hyn yn achosi cymhlethdodau oherwydd bod angen edrych ar ddysgu proffesiynol a sut roedd ysgolion yn gweithredu. Gweithio ar y cyd oedd yr allwedd i geisio goresgyn yr her. 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd llawer o athrawon yn gadael y proffesiwn.

 

                Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod hyn yn digwydd ym mhob math o broffesiwn oherwydd y pandemig, ym mhob rhan o’r DU. Nid oedd hyn wedi effeithio’n ormodol ar Gasnewydd, ond mae’n anodd dod o hyd i athrawon mewn pynciau arbenigol.

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd trafodaethau’n digwydd gyda Llywodraeth Cymru am y prinder o athrawon arbenigol a sut i ddatrys hyn. 

 

       Dywedodd y Pennaeth Addysg fod bwrsariaethau ar gael i gefnogi ac annog athrawon arbenigol, ond fod hyn yn cymryd amser. Roedd hyn yn gysylltiedig â chomisiynu Prifysgolion i gymryd yr athrawon hyn, a bod y trothwy’n uchel. Mae’r Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg wedi lansio strategaeth i ystyried y prinder yn y gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant

 

Gwahoddwyd:

Caroline Ryan-Phillips - Pennaeth Atal a Chynhwysiant  Cynghorydd Deborah Harvey - Aelod Cabinet dros Les Cymunedol 

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Les Cymunedol yr adroddiad. 

 

Cwestiynau:

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai mwy o glybiau ieuenctid a lle buasent yn cael eu lleoli, ac a oedd cynllun i recriwtio mwy o Weithwyr Ieuenctid. 

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant fod cynllun i dyfu’r Gwasanaeth Ieuenctid, a bod gwaith yn cael ei wneud ar ymgyrch recriwtio i gael pobl i mewn i’r proffesiwn. Roedd llawer o bobl yn dilyn gradd mewn Gwaith ieuenctid a Chymuned, ac roedd y bobl hyn yn cael eu cymryd fel myfyrwyr.

Dywedodd y pwyllgor ei bod yn wych fod Llywodraeth Cymru yn gwneud i ffwrdd â’r prawf modd, ond o edrych ar y sefyllfa ariannol, a oedd modd i ni symud y risgiau allan o fod yn goch?  

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant nad oedd unrhyw risgiau coch wedi eu cofnodi, dim ond rhai oren, a bod y rhan fwyaf o’r cyfraniadau yn dod gan Lywodraeth Cymru. Nid oedd disgwyl y byddai’r arian yn cael ei dynnu ymaith, ond petai hyn yn digwydd, y byddai’n broblem i’r genedl gyfan. Y disgwyl oedd y byddai’r cyllid yn parhau. 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd hyn yn rhy optimistaidd oherwydd y toriadau disgwyliedig, er nad oedd dim wedi ei gadarnhau. 

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant eu bod yn ymwybodol o’r heriau, ond na ellid trafod manylion y gyllideb ar hyn o bryd; byddai modd trafod hyn gyda’r Aelod Pwyllgor fel rhan o drafodaeth ehangach y tu allan i’r cyfarfod.

       Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet nad oedd y gwasanaeth yn y categori coch. 

Gofynnodd y Pwyllgor am bobl yn ymgynnull mewn rhai ardaloedd ac a oedd unrhyw strategaeth i ymwneud â’r grwpiau hynny. 

 

       Cadarnhaodd Y Pennaeth Atal a Chynhwysiant fod llawer o weithgareddau ar gael i ddwyn cymunedau i mewn a bod Casnewydd yn cynnal nifer o raglenni megis ‘Gwneud y Cae Chwarae’n Wastad’, wedi ei dargedu at gymunedau Cymreig du a lleiafrifoedd ethnig i’w dwyn i mewn i chwaraeon a phêl-droed. 

       Dywedodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant mai ymwneud oedd y broblem, a’i bod yn bwysig ehangu’r ddarpariaeth ieuenctid, ac os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd, y byddai gweithwyr yn ceisio taclo hyn, oedd yn anodd. 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd unrhyw gyfleusterau i gymunedau gymdeithasu. 

 

       Dywedodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant fod darpariaeth yn hanfodol, ond mai ymwneud oedd yr allwedd i fagu ymddiriedaeth mewn perthynas, a dwyn pobl i mewn i’r gwasanaeth. 

 

Dywedodd y Pwyllgor mai peth da oedd siarad â grwpiau i ddarganfod beth oedd eu diddordebau. 

 

       Cadarnhaodd y Pennaeth Atal a Chynhwysiant  ym Maendy, oedd yn ardal amrywiol, fod llawer o grwpiau’n cael eu cynnal lle gallai unrhyw un ddod i mewn, a’i bod yn hyfryd gweld llawer o ddigwyddiadau.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod yr adroddiad yn rhoi syniad da o’r ddarpariaeth, gan ddymuno’r gorau i’r gwasanaeth yn y dyfodol. 

Dogfennau ategol: